Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhowch Ac Fe Roir I Chwi

Dangos egwyddor y gosodiad ‘Rhowch ac fe roir i chwi’, fel mae’n cael ei amlinellu yn Luc 6.38.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos egwyddor y gosodiad ‘Rhowch ac fe roir i chwi’, fel mae’n cael ei amlinellu yn Luc 6.38.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tudalen o bapur newydd, tiwb o Smarties, dau focs o Smarties, ac un cynhwysydd gwag heb fod yn rhy fawr.
  • Nodwch blentyn, neu aelod o’r staff sydd wedi ‘rhoi’ rhywbeth i rywun yn y dyddiau diwethaf, pa un ai a yw hynny ar ffurf helpu rhywun arall, neu fel llysgennad i’r ysgol mewn rhyw ffordd. Ceisiwch wneud hyn heb yn wybod i’r un sydd wedi ‘rhoi’, fel y bydd yn syrpreis iddo ef neu hi.

Gwasanaeth

  1. Faint o blant ydych chi’n feddwl all sefyll gyda’i gilydd ar un tudalen o bapur newydd? Dewiswch rai gwirfoddolwyr, a chewch hwyl yn gwylio faint yn union all lwyddo i sefyll ar y papur. 

    Siaradwch am y ffordd y mae’n rhaid iddyn nhw wasgu’n glos at ei gilydd, nes byddai dim rhagor o le i fawd troed neb arall ar y papur. Eglurwch fod hyn yn ein hatgoffa am adnod yn y Beibl sy’n sôn am roi.

    Darllenwch Luc 6.38: ‘Rhowch ac fe roir i chwi. Rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a’i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â’r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.’

  2. Dangoswch hyn gyda rhywfaint o’r melysion Smarties. Gofynnwch i’r plentyn, neu’r aelod o staff rydych chi wedi ei ddewis, ddod allan atoch chi i’r tu blaen. Dywedwch wrth weddill y gynulleidfa beth yw’r peth arbennig y mae’r un rydych chi wedi ei alw atoch wedi ei ‘roi’ i rywun yr wythnos hon. Rydych chi’n gobeithio bod yr unigolyn hwnnw’n hoffi Smarties. Eglurwch eich bod eisiau dangos beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y weithred o roi. Rhowch y tiwb bach o Smarties i’r plentyn neu’r oedolyn sydd gyda chi, a gofynnwch iddo ef neu hi arllwys y melysion i’r cynhwysydd gwag.

    Yna dywedwch: wel, efallai y byddech chi’n galw hynny’n fesur da, ond yn wir allwn ni ddim dweud bod hyn ‘wedi ei wasgu i lawr a’i ysgwyd ynghyd’, yn na fedrwn?

    Rhowch y ddau focs Smarties wedyn iddo ef neu hi eu harllwys i’r cynhwysydd. Pwysleisiwch fod angen ysgwyd y cynhwysydd a gwastatáu’r melysion fel ei bod hi’n bosib cael cynifer ag a allwch chi o’r Smarties i mewn. 

    Pan fydd yr un sydd gyda chi yn fodlon, dywedwch: ond arhoswch eiliad, mae’r Beibl yn dweud, ‘wedi ei wasgu i lawr a’i ysgwyd ynghyd ... nes gorlifo’.

    Arllwyswch ragor o Smarties, nes y byddan nhw’n gorlifo dros ymyl y cynhwysydd ac ar y bwrdd. 

    Ailadroddwch yr adnod: ‘Rhowch ac fe roir i chwi. Rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a’i ysgwyd ynghyd nes gorlifo.’

  3. Eglurwch i’r plant bod ail ran i’r adnod, a darllenwch y geiriau hynny: ‘oherwydd â’r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.’

    Mewn geiriau eraill, os mai cyfraniad crintachlyd y byddwch chi’n ei roi, dim ond swm crintachlyd allwch chi ddisgwyl ei gael yn ôl. Os ydych chi’n hael wrth roi (arllwyswch y Smarties eto wrth ddweud hyn), fe gewch chi roddion hael hefyd.

    Cofiwch, nid yw hyn yn golygu mai dim ond Smarties neu felysion y byddwch chi’n eu cael neu yn eu rhoi! Nac arian ychwaith, fe all pob un ohonom roi ein hamser, ein hymdrechion, a’n cyfeillgarwch.

Amser i feddwl

Parchwn dy roddion hael
sy’n ein cynnal ni
bob diwrnod o’r flwyddyn faith,
ein diolch rown i ti.

Derbyn ein diolch am roi mor hael,
Arglwydd, O clyw ein cri,
Heddiw’n gytûn,
derbyn ein diolch ni.  (159 Caneuon Ffydd)

Treuliwch foment i feddwl am yr holl roddion da rydych chi wedi eu derbyn heddiw.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod di mor hael yn dy holl ffyrdd.
Nid yw’n bosib mesur dy garedigrwydd, dy ddoethineb, dy gariad a dy drugaredd tuag atom ni. 
Dysga ni i fwynhau rhoi, a rhoi eto.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon