Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhaid I Mi Gael Y Llyfr Yna!

Dathlu’r mwynhad o ddarllen llyfrau, ac amlygu pwysigrwydd y Beibl yn y ffydd Gristnogol.

gan The Revd Alan Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r mwynhad o ddarllen llyfrau, ac amlygu pwysigrwydd y Beibl yn y ffydd Gristnogol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Wrth ddweud y stori, efallai y byddai’r eitemau canlynol yn ddefnyddiol: Beibl mawr, hen Feibl teuluol, neu o un eglwys neu gapel (yn aml fe allech chi gael benthyg hen gopi o Feibl mawr o gapel neu eglwys leol); bwndel o frigau tewion; dau neu dri o wyau; pâr o esgidiau duon bychan hen ffasiwn; a Beibl personol.
  • Fe allech chi drefnu o flaen llaw i rai o’r plant ddod â’u hoff lyfrau gyda nhw i’r gwasanaeth, a bod yn barod i’w dangos a dweud rhywbeth amdanyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy annog pawb i feddwl am y llyfrau y maen nhw’n mwynhau eu darllen. Pa rai yw eu hoff lyfrau? Gwahoddwch rai o’r plant i sôn am eu hoff lyfr wrth weddill y plant a’r oedolion yn y gwasanaeth. Gall llyfrau fynd â darllenwyr ar daith yn y dychymyg … ar daith i ddarganfod … ar daith i ddeall … a hyd yn oed ar daith o ffydd.

  2. Gofynnwch, pa mor bell y byddech chi’n fodlon mynd i ddod o hyd i lyfr? Atgoffwch y plant am y brwdfrydedd oedd ymysg pobl pan ddaeth y cyfrolau diweddaraf yng nghyfres Harry Potter allan: roedd pobl yn ciwio trwy’r nos y tu allan i’r siopau llyfrau! Fel arall, mae’n bosib prynu llyfrau’n rhwydd ar y we, neu o siopau llyfrau lleol. Neu mae’n bosib benthyca llyfrau o’r llyfrgell. Ble mae’r rhain i’w cael yn lleol? Pa mor bell yw’r siop lyfrau agosaf, neu’r llyfrgell?

  3. Soniwch nad oedd cymaint o lyfrau ar gael yn yr oesau a fu ag sydd heddiw. Doedd dim cymaint o bobl yn gallu darllen ac roedd llyfrau yn brin. Cyflwynwch stori Mari Jones, stori am ferch oedd yn awyddus iawn i gael llyfr arbennig.

    Ychydig dros 200 mlynedd yn ôl , roedd merch ifanc o’r enw Mari Jones yn byw mewn pentref o’r enw Llanfihangel-y-Pennant. Roedd hi’n byw mewn bwthyn syml gyda’i mam a’i thad. Gwehyddu oedd gwaith ei thad. Doedd dim llyfrau yn ei chartref, gan nad oedd yr un ohonyn nhw’n gallu darllen.

    Ond, roedd Mari wrth ei bodd yn gwrando ar bobl yn darllen y Beibl yn yr eglwys, a chyda help ei  rhieni roedd hi’n gallu dysgu adnodau a rhannau o’r Beibl ar ei chof, yn Gymraeg. Fe fyddai Mari wrth ei bodd hefyd yn ymweld â ffermdy oedd heb fod ymhell o’i chartref. Yno, yr oedd Mr a Mrs Evans yn byw. Roedd ganddyn nhw Feibl, ac fe addawodd Mrs Evans i Mari y byddai hi’n cael dod yno i ddarllen y Beibl pe byddai hi’n gallu dysgu darllen.

    Deg oed oedd Mari pan glywodd hi’r newydd cyffrous fod rhywun yn mynd i agor ysgol ychydig o filltiroedd o’i chartref. Bob dydd, drwy bob tywydd, fe gerddai Mari i’r ysgol ac yn ei hôl wedyn, a chyn hir roedd hi wedi dysgu darllen. Roedd hi’n cael pleser mawr yn darllen Beibl Mrs Evans, ond roedd Mari’n ysu am gael Beibl iddi ei hun.

    Roedd hi mor awyddus, fe ddechreuodd gynilo arian er mwyn gallu prynu Beibl. Dechreuodd wneud beth bynnag a allai i ennill ychydig o geiniogau. Casglai goed tân i bobl, a chadwai ieir er mwyn casglu eu hwyau a’u gwerthu. Gweithiodd yn galed a chynilo am chwe blynedd, nes o’r diwedd roedd ganddi ddigon o arian i brynu Beibl iddi ei hun!

    Yn fuan wedyn, fe glywodd bod gan weinidog, yn nhref y Bala, Feiblau ar werth. Roedd y Bala 26 milltir o’i chartref. Felly, fe gychwynnodd Mari, a oedd erbyn hynny’n 16 oed, ar ei thaith dros y bryniau i’r Bala. Cerddodd yn droednoeth gan gario’i harian yn ofalus, a’i hunig bâr o esgidiau hefyd, fel y gallai eu rhoi am ei thraed pan fyddai wedi cyrraedd y dref.

    Pan glywodd pobl y dref y rheswm pam yr oedd Mari wedi cerdded yr holl ffordd, roedden nhw’n groesawus iawn, ac fe wnaethon nhw ddangos iddi ble roedd y gweinidog, Thomas Charles, yn byw. Gwrandawodd Thomas Charles ar Mari’n dweud ei hanes. Fe soniodd wrtho pa mor galed roedd hi wedi gweithio i ennill yr arian, a pha mor hir roedd hi wedi gorfod aros cyn iddi gynilo digon, a pha mor bell yr oedd hi wedi cerdded er mwyn gallu brynu ei Beibl. Yn anffodus, roedd Thomas Charles wedi addo’r tri Beibl oedd ganddo ar ôl, i rywun arall. Roedd yn wir ddrwg ganddo, ond doedd dim un ar ôl ganddo i’w werthu i Mari.

    Dychmygwch sut roedd Mari’n teimlo!. Roedd hi wedi blino’n ofnadwy ar ôl cerdded mor bell, ac roedd hi mor siomedig fel y dechreuodd grïo. Meddyliodd Thomas Charles eto. Roedd yn gallu gweld pa mor awyddus oedd Mari i gael Beibl i’w ddarllen. Roedd hi eisiau Beibl o ddifrif. Ac fe wyddai y byddai un o’r bobl yr oedd wedi addo un o’r Beiblau oedd ar ôl iddyn nhw, yn deall y sefyllfa. Felly, fe roddodd Feibl i Mari. Roedd hi’n ddiolchgar iawn i Thomas Charles. 

    Arhosodd Mari yn y Bala dros nos, a’r bore wedyn cychwynnodd am adref, gan fynd yn ôl dros y bryniau, yn cario’i llyfr gwerthfawr yn ofalus!

  4. Eglurwch fod y stori ryfeddol hon wedi cael ei hailadrodd dros y blynyddoedd, ac weithiau mae’r manylion yn amrywio. Ond fe wnaeth Mari Jones weithio’n galed a chynilo’i harian am chwe blynedd, ac fe wnaeth hi gerdded 26 milltir, oherwydd ei bod hi gymaint o eisiau un llyfr arbennig - y Beibl. 

    Ail ofynnwch y cwestiwn y gwnaethoch chi ei ofyn yn gynharach: Felly, pa mor bell y byddech chi’n mynd i ddod o hyd i lyfr? Mae stori Mari Jones yn dangos i ni fod llyfrau, yn wir, yn gallu mynd â darllenwyr ar daith yn y dychymyg … ar daith i ddarganfod … ar daith o ddealltwriaeth … a hyd yn oed ar daith o ffydd!

  5. Os byddwch chi’n dathlu Sul y Beibl, eglurwch fod yr amser hir y bu Mari Jones yn aros, a’r daith hir y gwnaeth hi ei cherdded, yn adlewyrchu pa mor bwysig yw’r Beibl i’r rhai sy’n dilyn y ffydd Gristnogol. Wrth weld awydd mawr Mari i gael Beibl iddi ei hun, fe ddechreuodd Thomas Charles weithio gyda nifer o bobl eraill er mwyn gofalu bod y Beibl ar gael yn rhwydd i bobl fel Mari Jones. Fe sefydlodd y gymdeithas British and Foreign Bible Society, oedd yn amcanu i helpu cymaint o bobl â phosib i fod yn berchen ar eu Beiblau eu hunain, yn eu hiaith eu hunain. Erbyn heddiw, mae Cymdeithas y Beiblau a’i chefnogwyr yn parhau i ddosbarthu Beiblau y bydd pobl yn gallu eu darllen a’u deall.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Meddyliwch am …
y llyfrau rydych chi’n mwynhau eu darllen
yr holl lyfrau sydd yn yr ysgol
llyfrau y gallwn ni eu benthyca o’r llyfrgell
a’r rheini y gallwn ni eu prynu’n hawdd.

Byddwch yn ddiolchgar …
am lyfrau
am yr her o ddysgu darllen, a’r hwyl
ac am y teithiau yn ein dychymyg
a’r teithiau i ddarganfod
i ddeall, ac i fod â ffydd! 

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon