Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathliadau'r Pasg

Edrych ar y ffyrdd gwahanol y byddwn yn dathlu, yn neilltuol ar adeg y Pasg.

gan Melanie Glover

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Edrych ar y ffyrdd gwahanol y byddwn yn dathlu, yn neilltuol ar adeg y Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y gair ‘DATHLU’ gyda phob llythyren wedi’i hysgrifennu ar ddarnau gwahanol o bapur (un llythyren yw th).
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen model o deisen pen-blwydd, cerdyn gwahoddiad i briodas neu lun priodas, llun babi bach, cerdyn ‘dymuniadau gorau’, anrheg wedi’i lapio, balwn heliwm, popwyr parti, croes neu lun o Iesu ar y groes, Byns y Groes, cerdyn Pasg ac wy Pasg.

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi rhai plant ar gyfer pob gweithgaredd yn ystod y gwasanaeth, yn ogystal â’r rhai fydd yn dal y llythrennau i fyny.

Gwasanaeth

  1. Heddiw rydyn ni’n mynd i sôn am ddathlu. Gofynnwch i 5 plentyn ddal y llythrennau sy’n sillafu’r gair DATHLU, ac yna roi’r llythrennau ar y llawr.

  2. Mae llawer o wahanol adegau pryd y byddwn ni’n dathlu. Fe fydd pob un ohonom yn cael pen-blwydd. Fe fydd y rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael teisen arbennig ar ddiwrnod ein pen-blwydd (un o’r plant yn dal y ‘deisen pen-blwydd’ i fyny i’w dangos).

    Pan fydd dau yn priodi, fe fyddan nhw’n cael parti i ddathlu (un i ddal y cerdyn gwahoddiad i briodas neu lun priodas i fyny).

    Weithiau pan fydd babi newydd yn y teulu bydd yn cael ei fedyddio mewn seremoni arbennig yn yr eglwys, neu’n cael ei groesawu mewn gwasanaeth arall (un i ddal llun babi bach i fyny).

  3. Fe fyddwn ni’n anfon cardiau at bobl i ddymuno’n dda iddyn nhw (un plentyn i fynd at blentyn arall a rhoi’r cerdyn dymuniadau gorau iddo).

    Sut byddwch chi’n teimlo pan fyddwch chi’n cael cerdyn gan rywun? Pan fyddwn ni’n derbyn cerdyn, mae’n gwneud i ni deimlo’n arbennig iawn.

    Fe fyddwn ni’n rhoi anrhegion i’n gilydd hefyd ar adeg pen-blwydd ac adeg y Nadolig (un plentyn i fynd at blentyn arall a rhoi’r anrheg iddo, ac mae’r ail blentyn yn dweud, ‘Diolch’).

    Weithiau fe fyddwn ni’n rhoi balwnau i bobl eraill (mae un plentyn yn rhoi balwn heliwm i blentyn arall).

  4. Pan fyddwn ni’n cael parti rydyn ni’n rhannu ein hamser arbennig gyda’n ffrindiau.

    Mae cymaint o hwyl i’w gael mewn parti (caiff y plant saethu’r popwyr parti – ond gofalwch sicrhau o flaen llaw ei bod hi’n iawn iddyn nhw wneud hynny!).

  5. Yn fuan fe fydd hi’n adeg y Pasg. Rydyn ni’n meddwl am sut y bu Iesu farw ar y groes. Mae gan Fyns y Grog (Hot cross buns) groes arnyn nhw i’n helpu ni gofio am hynny. Yn draddodiadol mae’r byns yn cael eu bwyta ar y diwrnod y byddwn ni’n cofio am Iesu’n marw – Dydd Gwener y Groglith.

    Fe fyddwn ni’n rhoi cardiau i’n gilydd (daliwch y cardiau Pasg i fyny).

    Fe fyddwn ni’n rhoi wyau Pasg i bobl a phlant i gofio am y bywyd newydd a roddodd Duw i Iesu ar ôl iddo farw (daliwch yr wy Pasg i fyny).

  6. Mae’n amser da i ni i gyd gael DATHLU! (y plant i ddal y llythrennau i fyny eto).

Amser i feddwl

Myfyrdod

(Gofynnwch i’r plant barhau i ddal y llythrennau DATHLU i fyny).

Rydyn ni’n meddwl am yr holl adegau pan fyddwn ni’n dathlu:
Diwrnod Pen-blwydd
Priodas
Bedydd
Neu wyliau crefyddol eraill.
Heddiw rydyn ni’n meddwl am y Pasg
Yn edrych ymlaen at gael bwyta ein hwyau Pasg,
A dathlu gyda’n gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon