Tryw'r Amser
Archwilio’r gred Gristnogol y gallwn ni weddïo ar Dduw unrhyw bryd.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio’r gred Gristnogol y gallwn ni weddïo ar Dduw unrhyw bryd.
Paratoad a Deunyddiau
- Amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu defnyddio i gyfathrebu â phobl eraill e.e. ffôn symudol, ffôn radio symud a siarad, ffôn cwpan a llinyn, e-bost, llythyr.
- Y gair ‘CYFATHREBU’ gyda phob llythyren wedi’i hysgrifennu ar ddarn gwahanol o bapur (un llythyren yw th).
- Geiriadur, neu ddiffiniad o’r gair ‘cyfathrebu’.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i 9 plentyn ddod atoch chi i’r tu blaen. Ar hap, rhowch lythyren i bob un ohonyn nhw i’w dal i fyny, llythrennau a fydd yn y pen draw yn ffurfio’r gair CYFATHREBU. Gofynnwch i’r plant geisio llunio gair gan ddefnyddio’r llythrennau. Anogwch y gynulleidfa i’w helpu.
Os nad yw’r plant yn gallu dyfalu beth yw’r gair, fe allwch chi roi cliwiau iddyn nhw. Wedi iddyn nhw gael y gair yn iawn (neu ar ôl i chi ddweud wrthyn nhw!) gofynnwch iddyn nhw sefyll mewn trefn fel bod y gair ‘cyfathrebu’ yn amlwg i bawb. - Gofynnwch i’r plant beth yw ystyr y gair. Gofynnwch i blentyn arall ddod i’r tu blaen i ddod o hyd i’r gair mewn geiriadur, neu efallai ddarllen beth yw’r diffiniad o ystyr y gair.
Siaradwch am y ffyrdd y mae ’r plant eisoes wedi cyfathrebu â rhywun heddiw, e.e. wrth siarad â rhywun, efallai wedi siarad â rhywun ar y ffôn, trwy wenu, trwy wneud ystum â’r wyneb, neu hyd yn oed trwy ateb wrth i rywun alw’r enwau ar y gofrestr. - Dangoswch rai o’r dulliau cyfathrebu rydych chi wedi’u casglu ac wedi dod â nhw gyda chi i’r gwasanaeth. Holwch beth sy’n dda, a beth sydd ddim mor dda yn achos pob un. Er enghraifft, mae ffôn symudol yn ffordd ardderchog o gyfathrebu â phobl eraill, hyd yn oed pan na fyddan nhw gartref; ond maen nhw’n bethau hawdd iawn eu colli, ac mae adegau pan fydd rhaid i bobl eu diffodd. Mae hynny’n ei gwneud hi’n amhosib i bobl eraill allu cysylltu â’r perchennog ar yr adegau rheini. Mae e-bost yn gyfrwng da er mwyn gallu cysylltu â rhywrai dydych chi ddim eisiau tarfu arnyn nhw ar adeg pan fyddan nhw’n brysur. Ond efallai nad yw pawb yn darllen eu negeseuon e-bost bob dydd, a bydd dyddiau wedi mynd heibio, efallai, cyn iddyn nhw weld y neges.
- Eglurwch fod cryfderau a gwendidau yn perthyn i’r rhan fwyaf o ddulliau cyfathrebu, a does dim un ohonyn nhw’n gallu rhoi mynediad i chi at rywun 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Mae Cristnogion yn credu bod Duw ar gael i ni i gyd, bob amser, i sgwrsio ag ef. Maen nhw’n credu nad oes moment yn mynd heibio heb i Dduw fod yno i wrando arnom ni. Gall hyn fod yn gysur mawr i bobl, oherwydd fe fyddan nhw’n gallu teimlo nad ydyn nhw byth ar ben eu hunain.
Yn Salm 121 mae adnodau 3 a 4 yn nodi hyn: ‘... nid yw dy geidwad yn cysgu. Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.’
Amser i feddwl
Myfyrdod
Fyddwch chi’n teimlo’n unig weithiau? Fyddwch chi’n teimlo’n ofnus ac wrthych eich hunan? Mae llawer o grefyddau’n credu bod Duw gyda ni bob amser, ac y gallwn ni siarad ag ef ar unrhyw adeg.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti yno bob amser i ni allu siarad â thi.
Diolch dy fod ti yn fy neall i pan fydd pobl eraill ddim yn fy neall.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.