Julian O Norwich
Edrych ar fywyd y ferch gyntaf a ysgrifennodd lyfr Saesneg.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Edrych ar fywyd y ferch gyntaf a ysgrifennodd lyfr Saesneg.
Paratoad a Deunyddiau
- Er gwaetha’r enw, merch oedd Julian. Ac mae ei diwrnod yn cael ei ddathlu ar 8 Mai.
- Efallai yr hoffech chi ofyn i un o’r pant wisgo i fyny fel Julian, gwraig dlawd a oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe allai’r plentyn hwnnw lefaru geiriau Julian.
- Fe fydd arnoch chi angen cneuen hefyd, cneuen gollen (hazelnut).
Gwasanaeth
- Plentyn: Fy enw i yw Julian. Rydw i’n byw yn ymyl dinas Norwich, yn y flwyddyn 1373. Rydw i’n byw ar ben fy hun, mewn ystafell fechan, sy’n cael ei galw’n gell, ac sydd ynghlwm i’r eglwys leol. Mae gen i ffrind sy’n dod â bwyd a diod i mi bob dydd, ond fydda i byth yn mynd allan o fy ystafell.
Rydw i wedi bod yn sâl iawn. Rydw i wedi bod yn gorwedd yn fy ngwely ers wythnosau, rhywle rhwng byw a marw. Ond heddiw, rydw i’n teimlo’n well. Tra roeddwn i’n sâl, fe gefais i freuddwyd; breuddwyd ryfeddol iawn. - Arweinydd: Ac yn wir, roedd y freuddwyd honno yn un ryfeddol iawn! Allwch chi ddychmygu beth oedd breuddwyd Julian? Treuliwch foment yn derbyn awgrymiadau.
Fe freuddwydiodd Julian am Dduw. Fe welodd hi Dduw yn ei breuddwyd, a thros sawl diwrnod yn ei breuddwyd fe siaradodd Duw â hi. Roedd y cyfan mor fyw yn ei meddwl, pan ddeffrodd Julian fe ddywedodd:
Plentyn: Rhaid i mi ysgrifennu’r hyn mae Duw wedi’i ddweud wrthyf yn fy mreuddwyd! - Ond roedd problem sylfaenol iawn gan Julian. Beth ydych chi’n feddwl oedd ei phroblem?
Doedd Julian ddim yn gwybod sut i ysgrifennu. Beth allai hi ei wneud? Roedd hi’n oedolyn, a doedd hi ddim yn gallu ysgrifennu! Ond, yn y dyddiau rheini, roedd hynny’n beth cyffredin iawn. Dim ond pobl o gartrefi cyfoethog oedd yn gallu ysgrifennu, ac ychydig iawn o ferched oedd yn gallu ysgrifennu – ac roedd Julian yn dod o gartref tlawd - ac yn ferch - felly, wrth gwrs, doedd hi ddim yn gallu ysgrifennu! - Felly, beth ydych chi’n feddwl wnaeth Julian?
Am mai Julian oedd Julian, doedd hi ddim am adael i beth bach fel methu ysgrifennu ei rhwystro, felly fe benderfynodd ddysgu ysgrifennu. Credir mai offeiriad yn yr eglwys a ddysgodd iddi sut i ysgrifennu, ac wedyn roedd hi’n gallu ysgrifennu’r hyn roedd hi eisiau ei ddweud.
Fe gymrodd flynyddoedd iddi. Doedd dim cyfrifiaduron bryd hynny, na theipiaduron hyd yn oed (sef y peiriannau ysgrifennu cyn dyddiau cyfrifiaduron). Doedd dim biros ychwaith - dim ond cwilsyn, neu bluen fawr, ac inc. Dyna beth oedd gwaith anodd, ysgrifennu â chwilsyn ac inc!
Ond, 20 mlynedd yn ddiweddarach - ie, 20 mlynedd yn ddiweddarach - fe orffennodd ysgrifennu’r hyn roedd hi eisiau ei ddweud. Roedd hi wedi ysgrifennu’r llyfr cyntaf un yn yr iaith Saesneg i gael ei ysgrifennu gan ferch. Mae llyfr ar gael hyd heddiw, a’i enw yw The Revelations of Divine Love. - Roedd y llyfr yn union fel roedd Julian eisiau iddo fod. Mae’r llyfr yn sôn am faint mae Duw’n ein caru ni.
Amser i feddwl
Mae dau beth pwysig wedi eu nodi yn y llyfr. Y peth cyntaf yw:
(Daliwch y gneuen gollen) Fe welodd Julian law Duw, wedi’i chau fel hyn (caewch eich bysedd dros y gneuen, gyda’ch dwrn caeedig â’i wyneb i fyny). Pan agorodd Duw ei law (agorwch eich dwrn fel bod y plant yn gallu gweld y gneuen ar gledr eich llaw) fe welodd Julian gneuen fach. Pan ofynnodd Julian i Dduw beth oedd y gneuen, fe atebodd, ‘Dyma bopeth sydd wedi cael ei greu.’ Roedd popeth yn y bydysawd yn ffitio ar gledr llaw Duw, ac roedd tua maint y gneuen fach yma.
(Oedwch)
Popeth sydd wedi’i greu erioed, yr un faint â chneuen fach yn llaw Duw.
Yr ail beth pwysig yw hyn.
Roedd Julian yn gofidio am y pethau oedd yn digwydd yn y byd roedd hi’n byw ynddo: roedd hi’n adeg o ryfel, roedd y wlad mewn llanast roedd llawer o bobl yn wael, ac roedd pethau’n ddrwg iawn. Wrth iddi siarad â Duw am hyn, fe ddywedodd Duw wrth Julian: ‘Bydd popeth yn dda, ac fe fydd popeth yn dda, a bydd pob math o bethau yn dda.’
Bydd popeth yn dda.
Gadewch i ni weddïo:
Diolch dy fod ti wedi addo y bydd popeth yn dda.
Pan fydd bywyd yn anodd, helpa ni i gofio’r addewid hwnnw.
Amen.