Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Ddim Yr Un Fath

Annog y plant i sylweddoli ein bod i gyd yn wahanol, a bod hynny’n beth gwych.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i sylweddoli ein bod i gyd yn wahanol, a bod hynny’n beth gwych.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o flodau amrywiol, o wahanol liw a math.
  • Lluniau o wahanol anifeiliaid (dewisol).

  • Bwrdd gwyn neu siart troi, a phinnau ffelt.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant enwi cymaint ag a allan nhw o wahanol fathau o flodau. Helpwch blentyn i gofnodi enwau’r blodau ar y bwrdd gwyn neu siart troi.

    Gofynnwch i’r plant ddisgrifio rhai o’r blodau ar y rhestr. Pa liw ydyn nhw? Oes arogl arnyn nhw? Pa adeg ar y flwyddyn y mae’r blodau hyn yn tyfu?

  2. Dangoswch i’r plant y blodau rydych chi wedi dod â nhw gyda chi. Gofynnwch i’r plant eu henwi, a rhowch gyfle i rai o’r plant ddod ymlaen atoch chi i ddisgrifio nodweddion y blodau.

  3. Dangoswch i’r plant y lluniau sydd gennych chi o anifeiliaid, a gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio’r gwahaniaethau rhwng yr anifeiliaid yn y lluniau. 

    Neu, fe allech chi ddangos i ambell blentyn unigol, yn ei dro, enw anifail ar ddarn o bapur, a gofyn i’r plentyn hwnnw actio’r anifail er mwyn i weddill y gynulleidfa ddyfalu pa anifail ydyw.

  4. Eglurwch fod Cristnogion yn credu, pan greodd Duw y byd, nid dim ond un math o flodyn neu un math o anifail a wnaeth. Wnaeth Duw dim gwneud pob blodyn yr un fath, na gwneud pob anifail yr un peth. Wnaeth o ddim gwneud pob blodyn yn wyrdd, na rhoi pedair coes i bob anifail. Fe wnaeth y byd yn llawn o liw ac amrywiaeth. Fe wnaeth fyd yn llawn o bethau diddorol, lle mae bob amser gymaint o bethau i’w darganfod ac i’w mwynhau!

  5. Eglurwch i’r plant, yn union fel mae Duw’n hoffi amrywiaeth ym myd natur, mae yn hoffi amrywiaeth ynom ninnau hefyd. Wnaeth Duw ddim ein creu ni i gyd yr un fath, ac nid yw eisiau i ni i gyd fod yr un fath.

    Anogwch y plant i sylweddoli, a derbyn, mor ffantastig yw cael bod yn wahanol i bobl eraill.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mewn distawrwydd, oedwch am foment a meddyliwch amdanoch eich hun. Oes rhywbeth amdanoch chi sy’n eich gwneud yn wahanol i bobl eraill? Beth ydych chi’n hoffi ei wneud orau? Ydych chi’n dda am wneud rhywbeth? Treuliwch foment yn sylweddoli eich bod yn arbennig, dim ond fel yr ydych chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fy mod yn arbennig.
Diolch i ti fod ein byd yn llawn o amrywiaeth.
Diolch i ti am y blodau hardd, ac am yr anifeiliaid sydd mor wahanol i’w gilydd.
Helpa ni, os gweli di’n dda, i sylweddoli nad oes raid i ni fod yr un fath â phobl eraill,
a’n gwneud ni’n falch o fod pwy ydyn ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon