Tocyn
Dangos bod y ffordd y byddwn ni’n ymddwyn yn gallu newid ein bywyd.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos bod y ffordd y byddwn ni’n ymddwyn yn gallu newid ein bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewch â thocyn o ryw fath gyda chi i’r gwasanaeth.
- Fe allech chi chwarae’r gân ‘Ticket to Ride’ gan y Beatles, neu’r gân Tocyn gan Brân neu fersiwn Ffa Coffi Pawb, wrth i’r plant ddod i mewn i’r ystafell.
- Byddai OHP yn ddefnyddiol i gyd-ddarllen y gerdd.
Gwasanaeth
- Daliwch y tocyn i fyny a gofynnwch a oes rhywun yn gallu dweud wrthych chi beth ydyw. Unwaith y byddwch wedi sefydlu beth ydyw, smaliwch mai tocyn hud ydyw allai fynd â chi i unrhyw le. Holwch eich cynulleidfa ble bydden nhw’n hoffi mynd. Rhowch gyfle iddyn nhw ymateb a threuliwch foment neu ddwy yn trafod.
- Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n mynd i ddarllen stori heddiw am rywle o’r enw Iwopia.
Unwaith roedd gwlad o’r enw Iwtopia. Roedd pawb yno’n hapus. Roedd pawb yn gweithio’n galed ac yn gwneud yr hyn roedden nhw’n dda am ei wneud. Doedd dim arian yno, ond roedden nhw’n rhannu popeth. Roedden nhw’n rhannu’r tir, ac roedd y bobl yn cyfnewid eu cynnyrch. Roedd y pobydd yn rhoi bara ac yn cael cig a physgod neu ddillad neu unrhyw beth arall y byddai ei angen yn gyfnewid am y bara. Roedd garddwyr yn gwneud i’r lle edrych yn hardd yn gyfnewid am esgidiau gan y crydd, glo gan y glowyr, neu gig gan y cigydd. Doedd neb yn farus na neb yn eiddigeddus. Roedd pawb yn hapus.
Yna, ryw ddiwrnod, fe ddaeth tri dyn yno o wlad bell, Agorodd un fanc a dysgu pobl sut i drin arian. Sefydlodd un yno fel cyfreithiwr, ac fe ddysgodd y bobl sut i gweryla! Talodd y trydydd arian mawr i bobl a phrynu’r rhan fwyaf o’r tir a’r adeiladau. Ac ar ôl hynny, doedd o ddim yn gadael i’r bobl fynd i unman oni bai eu bod yn prynu tocyn.
Roedd yr arian yn prynu barusrwydd a chenfigen, anghyfiawnder a chweryl. Erbyn hyn doedd Iwtopia ddim yn lle hapus. Roedd yn rhaid i bawb gael tocyn i wneud pob peth ac i fynd i bob man.
Safodd un doctor i annerch y bobl. Roedd y doctor bob amser wedi trin ei gleifion yn gyfnewid am gynnyrch, ac yn cofio am yr amser hapus. Siaradodd â’r bobl, a’u hatgoffa bod eu tangnefedd a’u hapusrwydd wedi diflannu oherwydd nad oedden nhw mwyach yn helpu ei gilydd allan o gariad.
Felly, fe anfonodd y bobl y tri dyn allan o’u gwlad a dechrau byw’n hapus unwaith eto fel yr oedden nhw o’r blaen. Fe wnaethon nhw chwalu adeilad y banc a swyddfa’r cyfreithiwr, a rhwygo’r holl dicedi yr oedden nhw wedi gorfod eu prynu. Roedd popeth yn rhad ac am ddim unwaith eto, a phawb yn hapus..
Mae’r wlad Iwtopia yn dal i fod yn rhywle, ond does neb yn gwybod lle mae hi. - Mae’r stori’n dangos y problemau oedd gan y bobl pan oedd yn rhaid iddyn nhw brynu tocynnau. Ond, erbyn heddiw, rydyn ni’n gweld bod angen i ni gael tocynnau at ambell achlysur. Er mwyn i ni fod yn ddiogel mewn digwyddiadau sy’n cael eu trefnu, fel cyngerdd neu gêm bêl-droed. Neu, er mwyn gofalu bod y nifer iawn o bobl yn cael lle i eistedd mewn trên neu awyren. Fe fyddwn ni’n trefnu tocynnau ar gyfer cyngerdd ysgol er mwyn bod yn deg â phawb, a gweld faint o rieni a phobl eraill gaiff ddod i mewn i’r neuadd ar y tro.
- Gadewch i ni ddarllen y gerdd gyda’n gilydd.
Y Tocyn
addasiad o gerdd gan Jan Edmunds
Rhaid i chi gael tocyn er mwyn mynd i mewn,
Pan fyddwch chi’n mynd i stadiwm i weld gêm bêl-droed,
Neu wrth fynd ar daith awyren neu fws neu drên,
Bydd tocyn yn caniatáu i chi fynd mewn yn ddi-oed.
Ond mae cymaint o bethau mewn bywyd am ddim,
Fel lliwiau natur sydd o’n cwmpas bob dydd.
Mae gennym fyd llawn o harddwch i’w rannu â phawb,
Dyna pam y dylem ei warchod i gyd.
Does dim angen tocyn, mae’r cyfan am ddim -
Y ffordd y byddwn yn ei warchod, a’r pethau a wnawn,
Yw ein tocyn i’r nefoedd a’r bywyd a gawn.
(Efallai y byddai’n ddefnyddiol trafod y gerdd er mwyn gofalu bod y plant yn deall ei neges.)
Amser i feddwl
Myfyrdod
Gadewch i ni feddwl am y digwyddiadau y byddwn ni’n mynd iddyn nhw y mae’n rhaid i ni brynu tocyn er mwyn mynd yno.
Cyngherddau, gemau pêl-droed, sioe ddawnsio (ychwanegwch unrhyw ddigwyddiadau y gallai’r plant fod yn hoffi mynd iddyn nhw).
Nawr, gadewch i ni feddwl am yr holl bethau nad oes rhaid i ni gael tocyn ar eu cyfer. (Efallai yr hoffech chi dderbyn awgrymiadau’r plant yma.)
Cyfeillgarwch, ein teuluoedd, y byd y tu allan o’n cwmpas, yn ei holl harddwch.
Gweddi
Helpa ni, Arglwydd, i fod yn hael
ac i roi ein cariad a’n cyfeillgarwch heb ofyn am unrhyw beth yn ei le.
Amen.
Gadewch i ni adrodd Gweddi’r Arglwydd gyda’n gilydd.