Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dal Ati

Helpu’r plant i ddeall y bydd cyfleoedd newydd heddiw i wneud ein gorau, ac y bydd ein dyfodol yn dibynnu ar ein hagwedd ar hyn o bryd, a’r penderfyniadau y byddwn ni’n eu gwneud heddiw.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall y bydd cyfleoedd newydd heddiw i wneud ein gorau, ac y bydd ein dyfodol yn dibynnu ar ein hagwedd ar hyn o bryd, a’r penderfyniadau y byddwn ni’n eu gwneud heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o offer DIY.

Gwasanaeth

  1. Holwch rywfaint o gwestiynau i’r plant am DIY. Oes rhieni rhai o’r plant yn hoffi gwneud gwaith DIY? Pa fath o bethau y byddan nhw’n eu gwneud? Beth yw’r project mwyaf y maen nhw wedi ymgymryd ag o? 

    Trafodwch pa mor bwysig yw cynllunio’n ofalus o flaen llaw, a chael yr offer iawn i wneud y gwaith. Dangoswch yr offer sydd gennych chi, a thrafodwch beth yw eu pwrpas.

  2. Adroddwch y stori yma am saer oedd ar fin ymddeol. 

    Roedd Bob wedi bod yn saer ac adeiladydd am tua 50 o flynyddoedd, ers iddo adael yr ysgol yn fachgen 15 oed. Roedd wedi bod yn un da erioed am wneud gwaith llaw, ac roedd wedi bod eisiau cael bod yn saer ers pan oedd yn blentyn bach. Roedd wedi dysgu ei grefft mewn gweithdy saer, ac roedd wedi treulio’i holl fywyd gwaith yn y busnes adeiladu tai. Erbyn hyn, roedd yn  65 oed ac yn barod i ymddeol. Roedd Bob yn bwriadu ymddeol ddiwedd y mis.

    ‘Mae’n amser i mi gadw’r offer a threulio rhagor o amser yn yr ardd a gyda fy wyrion ac wyresau bach,’ meddai wrth Mr Hywel. Roedd Bob wedi bod yn gweithio i Mr Hywel am 40 o fynyddoedd, ac roedd y ddau yn ffrindiau da. Roedd Bob yn gwybod y byddai’n gweld colli’r cyflog y byddai'n ei gael bob mis, ond teimlai y byddai ei wraig ac yntau’n gallu ymdopi. Roedd hi’n bryd iddo roi’r gorau i weithio. 

    Teimlai Mr Hywel yn drist wrth feddwl y byddai’n colli Bob, ac na fyddai’n gweithio rhagor iddo. Roedd Bob wedi bod yn weithiwr da a gofalus ar hyd yr amser. ‘Tybed, Bob,’ gofynnodd Mr Hywel iddo. ‘allet ti weithio ychydig bach mwy i mi - dim ond i adeiladu un ty arall, fel ffafr i mi?’

    ‘Iawn,’ meddai Bob, ‘dim ond hynny te.’ Ac fe ddechreuodd ar ei waith olaf i’w gyflogwr. Wnaeth Mr Hywel ddim dweud wrth Bob pwy fyddai’n berchen ar y ty yr oedd o’n ei adeiladu. 

    Ond wrth i’r amser fynd yn ei flaen, roedd hi’n amlwg nad oedd gan Bob lawer o amynedd i wneud y gwaith. Roedd o wedi gobeithio cael gorffen gweithio erbyn hyn, ac fe frysiodd i wneud y gwaith. Doedd o ddim mor ofalus ag yr arferai fiod, ac fe wnâi unrhyw beth y tro, dim gwahaniaeth a oedd y gwaith neu’r deunyddiau’n iawn ai peidio. Roedd hi’n drist bod gweithiwr mor grefftus yn diweddu ei yrfa yn y ffordd yma, ac yn adeiladu ty rywsut-rywsut.

    Wedi i Bob orffen ei waith, daeth Mr Hywel i weld y ty. Yna, er syndod mawr i Bob, fe roddodd Mr Hywel allweddi drws ffrynt y ty iddo. ‘Mae’r ty yma’n anrheg i ti, Bob,’ meddai. ‘Anrheg gen i am dy holl waith da dros y blynyddoedd.’

    Dychmygwch syndod Bob! A dyna drueni! Petai Bob ddim ond yn gwybod ei fod yn adeiladu ty iddo’i hun, mae’n sicr y byddai wedi gwneud y gwaith mewn ffordd arall, hollol wahanol, a thipyn gwell! Nawr, roedd yn rhaid iddo fyw mewn ty a oedd wedi’i adeiladu’n frysiog, heb ddefnyddio’r deunyddiau gorau, ac a oedd yn llawn gwendidau nad oedd neb ond y fo yn gwybod amdanyn nhw. O diar!

  3. Eglurwch i’r plant bod y stori yma yn debyg rywsut i’n bywydau ni. Bob dydd, fe fyddwn ni’n adeiladu rhywbeth pwysig iawn, sef ein bywydau.

    Weithiau, fe fyddwn ni’n ymdrechu ein gorau ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud. Mae hyn yn hawdd, efallai, ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd, neu pan fydd rhywun yn ein cefnogi, neu os bydd gwobr i’w chael ar y diwedd! Ond, nid yw mor hawdd ar ddiwedd tymor ysgol pan fydd yr haul yn gwenu a ninnau’n teimlo y byddai’n well gennym fod allan yn hamddena! 

    Weithiau, fyddwn ni ddim yn rhoi ein hymdrech orau yn ein gwaith. Weithiau, fe fyddwn ni’n fwy diofal, ac yn gadael i rywbeth wneud y tro, yn union fel y gwnaeth Bob. Yna, efallai y byddwn ni’n edrych yn ôl ar ein bywydau ac yn teimlo’n drist wrth feddwl am yr hyn a welwn ni, yn union fel y gwnaeth Bob.

    Gadewch i ni adeiladu’n bywydau’n ddoeth, gan gofio mai dyma’r unig fywyd y byddwn ni’n ei adeiladu.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Dychmygwch mai chi yw’r saer, a bod eich bywyd fel ty. 
Fyddwch chi ddim yn adeiladau waliau, nac yn gosod lloriau na churo hoelion.
Heddiw, fe fyddwch chi’n gweithio yn yr ysgol, yn perthnasu ag athrawon a phlant eraill, ac yn gwneud dewisiadau.
Meddyliwch sut y gallwch chi adeiladu’n ddoeth.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Fe hoffwn i fy mywyd gael ei adeiladu ar sylfaeni cryf a da.
Fe hoffwn gael bywyd y gallaf fod yn falch ohono.
Helpa fi heddiw i wneud dewisiadau doeth, ac i fod â’r agwedd iawn, a gwneud fy ngorau.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Fe allech chi ddefnyddio’r gân ‘The wise man built his house upon the rock’ (Mae’n wych gyda symudiadau: http://www.ebibleteacher.com/children/songs.htm#Wise%20Man. Gallech ei haddasu, a pheidio â chynnwys y ddau bennill olaf, efallai.) 

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon