Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwlio

Fflwffyn yn creu ffwdan

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Pwysleisio bod ymddwyn mewn ffordd sy´n gallu peri trafferth neu niwed i eraill yn annerbyniol.

Paratoad a Deunyddiau

Does dim angen  paratoi, er y gallai cael lluniau o´r creaduriaid canlynol ychwanegu at y diddordeb oherwydd bod cyfeiriad atyn nhw yn y stori: ci bach, pryf copyn, gwrachen ludw (woodlouse), buwch goch gota, lindysyn a chwilen gorniog (stag beetle).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud wrth y plant eich bod wedi sylwi, pan fyddwch chi ar ddyletswydd ar yr iard, fod rhai plant yn gas wrth blant eraill. Does neb yn hoffi gweld y math hwnnw o ymddygiad.

    Heddiw, rydych chi´n mynd i ddweud stori am gi bach bywiog, ci bach drwg, (dangoswch lun ci bach os oes gennych chi un) a oedd yn hoffi pryfocio a blino anifeiliaid eraill. Ac fe gawn ni weld beth ddigwyddodd iddo. Fflwffyn oedd ei enw.

  2. Fflwffyn yn creu ffwdan
    addasiad o stori gan Jan Edmunds

    Ci bach bywiog oedd Fflwffyn, a oedd bob amser yn hoffi pryfocio a blino anifeiliaid a chreaduriaid eraill. Roedd yn cael pleser mawr wrth greu ffwdan iddyn nhw a’u dychryn.

    Fe fyddai wrth ei fodd yn gwylio´r pryf copyn yn dringo i fyny´r wal. Ond fe fyddai´n taro´r pryf copyn i lawr bob tro cyn iddo gyrraedd y top, a´r pryf copyn bach yn dringo i fyny eto, dro ar ôl tro nes byddai wedi blino´n lân. Yn y diwedd, fe redai´r pryf copyn i ffwrdd a Fflwffyn yn chwerthin am ei ben.

    Fe fyddai Fflwffyn yn rhoi ei bawen dros y wrachen ludw, ac wrth i´r wrachen fach geisio dianc fe fyddai Fflwffyn yn ei throi drosodd a’i gadael ar wastad ei chefn. Byddai´n chwerthin wrth edrych arni´n cicio ac yn ymdrechu i droi yn ôl ar ei thraed.

    Un diwrnod fe wnaeth Fflwffyn wthio buwch fach goch gota oddi ar un o´r llwyni, gan ei gwneud yn ddig iawn. Fe safodd y fuwch goch gota yn ddewr a dweud wrth Fflwffyn, ‘Bwli wyt ti.’ Ac aeth ymlaen i ddweud wrtho, ‘Rydyn ni´n fach ac rwyt tithau´n fawr. Sut byddet ti´n hoffi pe bai rhywun yn gas wrthyt ti?’ Lledodd y fuwch goch gota ei hadenydd a hedfan i ffwrdd.

    Roedd Fflwffyn ar fin gwasgu lindysyn a oedd yn cnoi tamaid o ddeilen ar blanhigyn yn ymyl pan welodd chwilen gorniog fawr yn dod ato. Roedd hon yn chwilen enfawr gyda rhywbeth fel crafanc yn chwifio o´i blaen wrth iddi gerdded. Anghofiodd Fflwffyn am y lindysyn. Rhoddodd ei drwyn ar y llawr gan feddwl sut y gallai greu ffwdan i´r chwilen.

    Ond cyn iddo allu gwneud dim byd fe afaelodd y chwilen yn ei drwyn gyda´r grafanc a`í binsio. Daliodd y chwilen ei gafael yn ei drwyn nes roedd Fflwffyn yn gweiddi dros y lle. ‘Aw! Aw!’ gwaeddodd Fflwffyn. ‘Gollwng, gad i mi fynd!’

    ‘Fe wna i hynny pan fydda i´n barod,’ meddai´r chwilen. Ac ar ôl munud neu ddau, fe ollyngodd y chwilen ei gafael ar drwyn Fflwffyn a gadael iddo fynd. Rhedodd yntau oddi yno, nerth ei draed, gan rwbio`í drwyn dolurus. ‘Tyrd yn dy ôl i fy mhoeni i eto,’ galwodd y chwilen ar ei ôl.

    ‘Na, dim eto!’ meddai Fflwffyn. Rhwbiodd ei drwyn, a phenderfynodd y byddai o hynny allan yn bodloni ar redeg ar ôl y dail fyddai´n disgyn oddi ar y coed yn lle poeni´r creaduriaid. Fyddai´r dail ddim yn ei frifo.

  3. Fe allech chi drafod y pethau canlynol i ddilyn:

    Beth oedd Fflwffyn yn hoffi ei wneud?
    Beth wnaeth o i´r pryf copyn?
    Pa greadur y gwnaeth Fflwffyn ei droi drosodd ar ei gefn?
    Pa greadur a alwodd Fflwffyn yn fwli, a pham?
    Beth wnaeth i Fflwffyn anghofio am y lindysyn?
    Beth ddigwyddodd pan geisiodd Fflwffyn greu ffwdan i´r chwilen gorniog?
    Ydych chi´n meddwl bod Fflwffyn wedi dysgu ei wers, a beth benderfynodd Fflwffyn ei wneud wedyn, yn lle hynny?

Amser i feddwl

Ddylen ni ddim cael pleser wrth greu ffwdan i rywun, neu ymddwyn mewn ffordd sy´n gallu peri trafferth neu niwed i eraill. Yn union fel Fflwffyn, fe allen ninnau un diwrnod gwrdd â rhywun neu rywbeth allai greu ffwdan i ninnau.

‘Dwyn elw iddo’i hun y mae´r dyn trugarog, ond ei niweidio´i hun y mae´r creulon.’ (Diarhebion 11.17)

‘Gwnewch fel y dymunech i eraill ei wneud i chi.’ (dywediad adnabyddus)

Allwch chi feddwl am unrhyw reolau neu ddywediadau y gallen ni gadw atyn nhw wrth fyw ein bywyd bob dydd? Er enghraifft, fe fydd pawb yn hapus os bydd pawb yn gofalu am ei gilydd.

Nodwch awgrymiadau´r plant a’u hysgrifennu, fel y gallwch chi eu defnyddio wedyn fel gweddïau bach.

 

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon