Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eid-Ul-Adha

Dod i wybod beth sy’n digwydd yn ystod gwyl Eid-ul-Adha.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dod i wybod beth sy’n digwydd yn ystod gwyl Eid-ul-Adha.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gwyl fawr gan y Mwslimiaid yw Eid-ul-Adha, gwyl a ddechreuwyd gan y proffwyd Muhammad. Hon yw’r wyl fwyaf o’r ddwy wyl Eid; mae’r wyl Eid arall, Eid-ul-Fitr, yn dathlu cyfnod o ymprydio yn ystod mis Ramadan. Ystyr yr enw Eid-ul-Adha yw gwyl o aberth. 

    Mae’r wyl yn cofio am y proffwyd y mae Cristnogion ac Iddewon yn ei alw’n Abraham, ond y mae Mwslimiaid yn ei alw’n Ibrahim. Gwyl i ddathlu bywyd Ibrahim yw hon, ac i gofio yn arbennig am yr aberth yr oedd Ibrahim yn barod i’w wneud. Yn y Qur’an mae hanes am Ibrahim yn mynd a’i fab Ismail allan i’r anialwch, oherwydd ei fod yn credu bod Duw (yr un y mae Mwslimiaid yn ei alw’n Allah) wedi gofyn iddo aberthu ei fab. Roedd Ibrahim wedi clymu’r bachgen, ac roedd ar fin ei ladd pan rwystrodd Allah ef a darparu hwrdd iddo i’w aberthu yn hytrach na’i fab.

  2. Yn ddiweddarach, fe aeth Ibrahim â’i wraig Hajar a’u mab Ismail allan i’r anialwch, a’u gadael yno. Yn ôl y fersiwn Gristnogol o’r stori, y rheswm am hyn oedd bod gwraig arall Ibrahim, Sarah, yn genfigennus o Hajar am fod ganddi fab a doedd gan Sarah ddim plentyn. Felly, roedd hi’n mynnu bod Ibrahim yn gadael Hajar ac Ismail ac yn eu troi i’r anialwch. Gwnaeth Allah i ffynnon o ddwr darddu yn yr anialwch wrth draed Hajar ac Ismail, a dyna sut y gwnaethon nhw oroesi. Yn ddiweddarach, fe ddaeth nifer o fasnachwyr o hyd i’r ddau wrth deithio trwy’r anialwch, a mynd â nhw i’r lle sy’n cael ei alw heddiw yn Makkah. Roedd Ibrahim yn ymweld â’r ddau o dro i dro, a phan oedd Ismail yn 13 oed fe wnaethon nhw adeiladu Katbah, sef lle i addoli gyda’i gilydd. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, fe ddaeth Makkah yn ganolbwynt i’r ffydd Fwslimaidd.

  3. Trwy gymryd rhan yn yr wyl Eid-ul-Adha, mae Mwslimiaid yn dangos eu bod yn barod i roi eu bywydau i Dduw. Ystyr y gair  ‘Islam’ yw ymostwng, ac mae’r wyl yn amlygu’r ymostyngiad hwn y bydd Mwslimiaid yn ei wneud yn ddyddiol i Allah, trwy ddilyn eu crefydd. Hefyd, maen nhw’n pwysleisio’r modd y gwnaeth Ibrahim ymostwng i Allah. Mae’r gair ‘aberthu’ hefyd yn gallu golygu’r weithred o ladd rhywbeth neu rywun, a gwneud y peth hwnnw, neu’r un hwnnw, yn offrwm i Dduw. Mae gwyl Eid-ul-Adha yn ymwneud â’r ddwy agwedd yma.

  4. Ystyr y gair ‘Eid’ yw dathliad. Daw’r wyl Eid-ul-Adha ar adeg yr Hajj, sef y bererindod Fwslimaidd i Makkah.

    Mae’n wyl mor bwysig mewn gwledydd Mwslimaidd fel y bydd yn adeg o wyliau cyhoeddus - fel ein dyddiau gwyl banc ni ym Mhrydain, ond ei bod yn wyl grefyddol. Fe fydd Mwslimiaid yn cymryd y diwrnod i ffwrdd i ddathlu ac i roi sylw i agwedd grefyddol bwysig yr wyl.

  5. Mae Eid yn ddathliad sy’n para rhwng un a thri diwrnod. Fe fydd Mwslimiaid yn mynd i’r mosg i weddïo, wedi’u gwisgo yn eu dillad gorau. Wrth wneud hynny, fe fyddan nhw’n ymuno â’r gymuned Fwslimaidd yn eu rhanbarth, yn eu gwlad, a chyda’r Ummah, sef y gymuned Fwslimaidd gyfan ledled y byd. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r cyfnod yma i ddiolch i Allah am bob bendith y maen nhw wedi’i derbyn.

  6. Ond, gadewch i ni fynd yn ôl at brif bwynt yr wyl yma, sef y syniad o aberth. Er mwyn cofio am weithred Ibrahim, fe fydd Mwslimiaid ledled y byd, sydd â’r gallu i wneud hynny, yn aberthu dafad, neu anifail arall, fel gafr neu fuwch. 

    Ym Mhrydain, rhaid i’r anifail gael ei ladd mewn lladd-dy. Er hynny mae Mwslimiaid yn ystyried hyn fel gweithred symbolaidd. Mae yn eu hatgoffa o ufudd-dod Ibrahim i Allah - ei fod hyd yn oed yn barod i aberthu ei fab, os oedd Allah yn dweud wrtho am wneud hynny. Fe ddylai Mwslimiaid adleisio’r un math o ufudd-dod i Allah yn eu bywydau eu hunain.

  7. Nid yw cig yr anifail yn cael ei wastraffu. Mae’n cael ei rannu rhwng y teulu a ffrindiau, a’i rannu hefyd â Mwslimiaid eraill sydd heb lawer o ddim eu hunain, fel y gallan nhw hefyd ymuno yn y dathliad. Mae’r syniad yma o ymestyn allan tuag at aelodau tlotaf y gymuned yn cael ei ddangos hefyd trwy roi arian i bobl er mwyn iddyn nhw allu prynu dillad gwell a chymryd rhan felly yn y dathliadau.

  8. Mae gwyl Eid-ul-Adha yn adeg pan fydd y gymuned Fwslimaidd gyfan yn dod ynghyd i gofio pa mor bwysig yw aberth, ac i gofio bod eu bywydau hefyd, yn y ffordd y maen nhw’n ymddwyn ac yn byw eu crefydd, yn aberth ac yn ymostyngiad i Allah.

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr hyn sy’n bwysig i chi, eich teulu efallai, neu eich ffrindiau.
Fyddech chi’n fodlon rhoi’r gorau i’r pethau yma pe byddech chi’n teimlo bod Duw’n gofyn ichi wneud hynny?

Yn ffodus, mae’n annhebygol y byddwch chi’n cael eich rhoi mewn sefyllfa o’r fath. Mae gwyl Eid yn gyfle i ddathlu'r hyn oll y mae ffrindiau a theulu yn ei olygu i bob un ohonom ni.

Meddyliwch yn awr am y bobl rheini rydych chi’n eu caru, a byddwch yn ddiolchgar amdanyn nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon