Newidiadau Yn Yr Hinsawdd Ac Iechyd Y Byd
Edrych ar sut y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar iechyd poblogaeth y byd.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Edrych ar sut y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar iechyd poblogaeth y byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr y diagram sy’n dangos effaith newid yr hinsawdd oddi ar y wefan http://www.who.int/globalchange/climate/en/
- Am fwy o fanylion ynghylch sialens 10 : 10 edrychwch ar: http://www.guardian.co.uk/environment/10-10
- Awgrym am gerddoriaeth: 'Fragile' gan Sting.
Gwasanaeth
- Mae newid yn yr hinsawdd wedi dechrau, ac mae hynny’n ffaith sydd wedi ei chadarnhau. Os na wnawn ni i gyd weithredu’n gadarnhaol, ac yn gyflym hefyd, bydd ein byd yn newid er gwaeth. Mae’r cynnydd tebygol mewn trychinebau naturiol a digwyddiadau catastroffig wedi cael ei gofnodi’n drylwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Yr hyn sydd wedi bod yn achos trafodaeth rhwng gwyddonwyr a llywodraethau yw’r perygl a ddaw’n llechwraidd i iechyd unigolion yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
- Mae’r bygythiad i’n hiechyd gan y newid yn yr hinsawdd i’w weld mewn dwy ffordd amlwg. Y cyntaf yw’r cynnydd uniongyrchol mewn pryfed fel mosgitos, sy’n cario heintiau, a hynny o ganlyniad i dywydd cynhesach. Disgwylir i’r fel mosgitos symud fwy i’r gogledd, gan ddod â malaria ac afiechydon felly i ardaloedd tymherus sydd fel arfer yn rhydd o afiechydon fel hyn. Yr ail yw’r ffactor dynol: fe fydd llai o dir amaethyddol ar gael o ganlyniad i lefelau’r môr yn codi, a bydd cynnydd yn y tymheredd yn niweidio’r cynnyrch, ac felly’n lleihau’r cynhaeaf. Bydd hyn yn arwain at newyn. Bydd diffyg dwr glân hefyd yn fater o bwys, gan achosi heintiau fel colera ac afiechydon sy’n gysylltiedig â dwr budr. Bydd effaith gyfunol o’r materion iechyd yma, a’r trychinebau naturiol, yn golygu cynnydd mewn ymfudiad a ffoaduriaid. Nid yw gwersylloedd ffoaduriaid yn adnabyddus am eu glanweithdra, a bydd hyn yn achosi cynnydd mewn heintiad.
- Mae’n ymddangos, fel gyda chymaint o agweddau ar y newid hinsawdd, mai tlodion y byd fydd yn dioddef fwyaf. Mae’n annheg iawn, y rhai sydd yn dal y grym i alluogi arafu’r newid yn yr hinsawdd yw’r rhai a fydd yn colli lleiaf pan fydd yr effeithiau’n taro. Eto, ym mis Rhagfyr, yn uwchgynhadledd Copenhagen, bydd gan arweinwyr y byd gyfle i droi’r llanw ar y dyfodol peryglus hwn. Os gallwn ni ddechrau lleihau ein hallyriadau, yna gallwn osgoi’r effeithiau gwaethaf. A gall tlodion ein byd, sydd wedi cael eu hysbeilio a’u cam-drin dro ar ôl tro gan y gwledydd cyfoethocaf, osgoi wynebu mwy o drychinebau.
- Ond bydd cyrraedd at y nod yn anodd. Yn ddiweddar, lansiwyd ymgyrch 10:10. Mae’r ymgyrch hon yn dibynnu ar gael gwirfoddolwyr i leihau eu hallyriadau 10 y cant o’u lefelau yn 2009 yn 2010. Mae gwleidyddion amlwg wedi ymuno â’r ymgyrch, ac mae’n edrych yn debyg y bydd y fenter yn llwyddiannus. Yn y pen draw, er gwaethaf y ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn ddrwg i’ch iechyd, fe ddylech fedru goroesi. Efallai na fydd eraill yr un mor lwcus, ac ar eu rhan nhw y mae’n ofynnol i ni weithredu. Os na fedrwn arafu’r newid yn yr hinsawdd, yna bydd yn rhaid i ni i gyd ddelio â’i ganlyniadau.
- Dangoswch y diagram.
Gadewch i ni edrych ar hwn gyda’n gilydd. Gallwch ddilyn y gadwyn o ddigwyddiadau. Er gwaethaf y ffaith na fydd yr effeithiau cynhesu yn cael effaith arnom ni yn gyntaf, fe fyddwn ni’n cael ein heffeithio oherwydd y symud anochel fydd yn digwydd i bobl wrth i’w cynefinoedd ddod yn lleoedd amhosib byw ynddyn nhw. Bydd prisiau bwyd yn codi, a bydd byw o ddydd i ddydd yn anoddach.
Amser i feddwl
Mae’r sialens 10:10 yn gofyn i bob un ohonom ni addo lleihau ein hôl troed carbon, gymaint â deg y cant erbyn 2010. Mae hynny’n fuan iawn.
Beth yw oblygiadau hynny i chi?
Teithio ar y trên yn hytrach na chael taith mewn car?
Diffodd eich cyfrifiadur, neu eich teledu, yn hytrach na’i adael yn segur?
Bwyta llai o gig - mae cynhyrchu cig yn un o’r ffyrdd gwaethaf o gynhyrchu nwyon ty gwydr.
Mynd ar wyliau a theithio ar drên? Torri’n ôl ar hedfan - gallai hynny olygu perswadio’ch teulu hefyd i wneud yr un modd.
Treuliwch ychydig funudau yn meddwl sut y gallwch chi leihau eich ôl troed carbon chi.
Efallai y byddwch yn teimlo fel arwyddo’ch enw ar y wefan hefyd - byddai hynny o bosib yn golygu eich bod yn cymryd y mater o ddifrif.
Gweddi
10:10
Llai o gig
Llai o deithiau yn y car
Diffodd y teledu …
Mae lleihau effaith fy ôl troed yn mynd i fod yn anodd.
Helpa fi i weld ym mha fodd y gallaf newid fy ffordd o fyw, er lles pob eraill
ac er lles y byd.