Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Meddwl Am Y Nadolig

Darparu gwrthgyferbyniad rhwng y Nadolig nodweddiadol Prydeinig trwy edrych ar y ffordd y caiff y Nadolig ei ddathlu ledled y byd. Canolbwyntio ar bedair agwedd ar y Nadolig: Gorffwys, Myfyrdod, Gorfoledd ac Adduned.

gan Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Darparu gwrthgyferbyniad rhwng y Nadolig nodweddiadol Prydeinig trwy edrych ar y ffordd y caiff y Nadolig ei ddathlu ledled y byd.  Canolbwyntio ar bedair agwedd ar y Nadolig: Gorffwys, Myfyrdod, Gorfoledd ac Adduned.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch eiriau’r garol (gweler pwynt 1.).
  • Argraffwch y pedwar gair: Gorffwyso, Myfyrio, Gorfoleddu ac Addunedu

Gwasanaeth

  1. Dewiswch garol Nadolig fel ‘Clywch lu’r nef yn seinio’n un’. Torrwch eiriau’r garol i grwpiau bychan o linellau, ac argraffwch nhw mewn ysgrifen fawr ar ddarnau o bapur.  Fe fydd y rhain wedyn yn cael eu dosbarthu ymhlith nifer o wirfoddolwyr ac fe fyddan nhw’n cydweithio i’w rhoi mewn trefn ar gyfer geiriau’r garol gyfan. Gall hyn fod yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, neu er mwyn creu tipyn o gyffro, argraffwch y geiriau ddwy waith a rhoi cyfle i ddau grwp gystadlu.  Er mwyn chwarae gêm dawelach, sydd dan reolaeth, fe allech chi roi mwgwd dros lygaid y rhai sy’n dal y geiriau a dewis un myfyriwr neilltuol i’w gosod yn y drefn gywir ar gyfer y cyfan o linellau’r garol. 

  2. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddarparu disgrifiad byr o’u Dydd Nadolig arferol: pryd y bydd yr anrhegion yn cael eu rhoi, pa bryd y bydd y prif bryd bwyd yn cael ei fwyta, beth fydd yn cael ei fwyta yn ystod y pryd bwyd hwnnw, a oes unrhyw beth yn cael ei adael ar gyfer Siôn Corn, etc? Cymharwch yr atebion ac yna rhowch sylw i rai sy’n wahanol.  Efallai bod rhai yn dathlu mwy ar Noswyl y Nadolig¸ efallai bod rhai’n bwyta gwydd yn hytrach na thwrci, tra bo eraill yn cael cyw iâr neu gig oen. Beth am lysieuwyr?  Pwysleisiwch lawenydd unigolion a theuluoedd sy’n mwynhau eu hunain mewn ffyrdd gwahanol.

  3. Er bod y Nadolig wedi ei roi’n wreiddiol ar y calendar i gofio am enedigaeth Iesu, caiff ei ddathlu yn awr gan bobl sydd ddim o reidrwydd yn Gristnogion.  Mae miliynau o bobl ar draws y byd yn defnyddio’r wyl fel cyfnod o ddathlu. Mae Cristnogion yn ystyried bod y diwrnod pwysig hwn yn cynrychioli genedigaeth eu gwaredwr, Iesu. Maen nhw’n credu mai ei ddyfodiad i’r byd, i fyw fel un o’r ddynoliaeth, yw’r unig reswm iddyn nhw allu cael perthynas agos â Duw. Felly, mae hynny’n bwysig iawn iddyn nhw. Fodd bynnag, mae llawer o bobl, heb argyhoeddiadau crefyddol, yn parhau i ddathlu’r diwrnod fel gwyl ddiwylliannol. Maen nhw’n ei weld fel cyfle i roi anrhegion, i fwyta ac yfed, yn ogystal â chyfarfod ag aelodau o’u teulu. 

  4. Mae Cristnogion a phobl o gredoau eraill, a phobl sydd heb argyhoeddiadau crefyddol hefyd, yn cadw at draddodiadau eu gwlad yn ystod y Nadolig. Bydd yr Awstraliaid yn dathlu Dydd Nadolig ar y 25ain o Ragfyr, yn yr un modd â ninnau yma yn y DU (ar wahân i’r ffaith ei bod hi’n haf yno)  Yn y Pilipinas, maen nhw’n dathlu’u pryd bwyd Nadolig nhw ar ôl y gwasanaeth Cymun am hanner nos ar Noswyl y Nadolig. Maen nhw’n bwyta pryd o fwyd traddodiadol sy’n cynnwys caws, siocled poeth a chig ham, wrth agor eu hanrhegion, yn oriau mân 25 Rhagfyr. Yng ngwlad Mecsico ni roddir anrhegion ar ddydd Nadolig, ond yn hytrach ar 6 Ionawr, sydd yn ôl yr hyn y maen nhw’n ei gredu, yn cyd-fynd â’r amser traddodiadol pryd yr oedd y doethion wedi cyflwyno eu hanrhegion i’r baban Iesu. Mewn rhai ardaloedd yng Nghanada lle maen nhw’n siarad Ffrangeg, fe fydd y Nadolig yn cael ei ddathlu ar 26 Rhagfyr. Ym Mrasil, Noswyl y Nadolig yw’r diwrnod pwysicaf, yn enwedig o gwmpas hanner nos.  Mewn gwahanol leoedd ar draws Ewrop, fel y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Slovacia, Awstria, Hwngari a’r Almaen, mae’r dathliadau hefyd wedi eu canolbwyntio ar Noswyl y Nadolig, yn hytrach nag ar y Dydd Nadolig ei hun. Mewn rhai o’r lleoedd hyn, bydd pobl yn dewis ymprydio am y dydd cyfan, fel eu bod yn gallu gwerthfawrogi’r wyl gyda’r hwyr. Yn nodweddiadol, fe fyddan nhw’n bwyta pysgod, cawl a thatws yn ystod eu pryd bwyd yn ogystal â dosbarthu anrhegion bryd hynny.

  5. Mae gwyl y Nadolig yn cael ei dathlu bron ym mhob man ar draws y byd, hyd yn oed os yw hi’n gorfod bod yn answyddogol mewn rhai gwledydd.  Mae yna nifer o wahanol elfennau yn gyffredin ymhob man, fel y pryd bwyd arbennig sy’n cael ei rannu, cwmni ffrindiau a’r teulu’n dod ynghyd yn ogystal â rhoi a derbyn anrhegion.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am y ffordd y gallwn ni ddefnyddio’r wyl hon i alluogi pobl i dyfu’n ysbrydol, yn ogystal â thyfu rownd eu canol! Rydw i’n mynd i feddwl am bedwar gair gwahanol. 

Gorffwyso: Cael amser i ffwrdd o’r ysgol neu o’r gwaith, a chael treulio amser gyda theulu a ffrindiau.

Yn stori’r Nadolig, roedd Mair a Joseff wedi blino’n lân yn dilyn eu taith o Nasareth i Fethlehem.  Roedden nhw’n ysu am gael gorffwys eu cyrff blinedig. Doedd yno ddim gwestai 5 seren ar gael ar gyfer genedigaeth y seren fyd-enwog - Iesu - dim ond beudy llwm a drewllyd.  Fe ddaeth Iesu i gynnig tangnefedd i’n calonnau, sydd mor aml yn aflonydd gyda’r pryderon a’r pethau hynny yn ein bywydau sy’n tynnu ein sylw ni’n ddi-baid. Ceisiwch gofio bod y Nadolig nid yn unig yn gyfnod o dderbyn ond hefyd yn gyfnod o roi. Gall cynnig gwneud tasg syml fel paratoi’r moron neu olchi’r llestri helpu o ddifrif a bod yn fendith i’r oedolyn sydd dan bwysau’n paratoi’r cinio Nadolig.

Myfyrio: Defnyddiwch yr amser hwn i feddwl am y gorffennol ac i edrych ymlaen at y dyfodol.

Unwaith yr oedd Mair wedi rhoi genedigaeth i’w mab, Iesu, profodd ryfeddod o weld y bugeiliaid yn dod i ymweld â nhw, a rhyfeddu at y datganiad wnaethon nhw ynglyn â bywyd ei mab. Bydd pob un ohonom wedi clywed barn gwahanol bobl am ein bywyd ni’n hunain. Bydd rhai wedi cael profiad o nifer o ragdybiaethau cadarnhaol a negyddol o’r modd y byddwn yn datblygu a llwyddo neu’n methu yn y dyfodol. Fodd bynnag, ein meddyliau a’n gweithredoedd ni ein hunain a fydd yn mapio’r llwybr y byddwn yn ei droedio fel unigolion. Defnyddiwch y Nadolig hwn i feddwl am y ffordd yr ydych chi wedi datblygu a thyfu i fyny dros y flwyddyn ddiwethaf. A ydych chi wedi cael blwyddyn bositif, ac a fedrwch chi weld eich bywyd yn mynd i’r cyfeiriad cywir y flwyddyn nesaf?  Neu a yw eich blwyddyn wedi bod yn un oedd yn cynnwys poen a siomedigaeth? Pa un bynnag ydi hi, meddyliwch am y ffordd y gallwch chi wneud y flwyddyn sydd i ddod yn un well. At bwy y gallwch chi fynd am gymorth i wella’r rhannau hynny o’ch bywyd sydd yn anodd i chi a sut y gallwch chi wneud pethau’n wahanol y tro nesaf?

Gorfoleddu

Yn stori’r Nadolig, mae llawer o bobl yn ymweld ag Iesu. Pan gyrhaeddodd y doethion, fe wnaethon nhw foesymgrymu o flaen Iesu a’i addoli ac yna cyflwyno anrhegion iddo. Roedd y bugeiliaid, yr oedd yr angylion wedi ymweld â nhw gan gyhoeddi genedigaeth Iesu, hefyd yn llawn gorfoledd ac yn moli Duw.

Ar adeg y Nadolig, mae Cristnogion yn ddiolchgar am enedigaeth Iesu. Ond hyd yn oed os nad ydych yn cadw at y gred hon, mae gan bob un ohonom ni le i fod yn ddiolchgar am bethau, boed y pethau rheini’n unigolion sydd yn rhan o’n bywydau, neu’n eiddo personol neilltuol, neu’n gyfleoedd sydd wedi cael eu cyflwyno i ni. Beth am i chi fod yn ddiolchgar am yr hyn oll sydd gennych chi a chanolbwyntio ar y bendithion yn eich bywyd – eich anwyliaid, eich doniau, eich ffrindiau. Mae cariad yn gryfach na chasineb. Mae goleuni yn gryfach na thywyllwch.  Mae’r neges am enedigaeth ryfeddol, bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn dangos bod hyn yn wir, er gwaethaf pa mor dywyll y gall y byd ymddangos weithiau.

Addunedu

Adeg geni Iesu, gwaith i’r rhai mwyaf unig a dibwys yn y gymdeithas fyddai bugeilio defaid. Mae’n fwy rhyfeddol fyth mai nhw o bawb a fyddai’n cael y fraint o ymweld ag Iesu, eu Brenin yn y dyfodol! Fe fyddai bywydau’r bugeiliaid hyn wedi cael eu newid am byth. Mae’n rhaid eu bod wedi dod i’r casgliad bod gan Dduw ddiddordeb mewn pobl gyffredin.  Gallwn ddysgu o hyn fod Duw yn caru pob math o bobl - y cyfoethog a’r tlawd, rhai tal a rhai byr, dynion a merched, yr enwogion yn ogystal â phobl gyffredin o’r dosbarth gweithiol.

Meddyliwch am sut yr hoffech chi fod yn wahanol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Sut mae modd i chi o ddifrif ddod â hapusrwydd cynyddol i chi eich hun ac i eraill? Meddyliwch am adduned, ac efallai y gallech chi ysgrifennu’r adduned i lawr ymhellach ymlaen: rhywbeth yr hoffech ch ei wneud yn wahanol flwyddyn nesaf, efallai. Mae’n bwysig bod yn realistig a pheidio â gwneud adduned na fyddwch chi byth y gallu ei chyflawni, ac wedyn yn teimlo’n siomedig o bosib. Mae camau bychain rheolaidd yn well o lawer na chamau enfawr ymlaen ac wedyn yn ôl.

Mae’r Nadolig yn cynrychioli gwahanol bethau i wahanol bobl ledled y byd. Dechreuodd o fod yn ddydd o ddathlu i Gristnogion, fel y bydden nhw’n gallu cael eu huno unwaith yn rhagor ag Iesu, ac fe newidiodd i fod yn ddiwrnod o ddathlu bywyd a bendith i lawer o grefyddau drwy’r byd. Pa run bynnag sy’n berthnasol i chi, gwnewch yn siwr y byddwch yn defnyddio’r amser rhydd sydd gennych i fwynhau eich gwyliau, ond ar yr un pryd hefyd gwnewch y cyfnod yn un i’w fwynhau i’r rhai sydd o’ch cwmpas!

Gweddi
Annwyl Dad,
Diolch i ti, O Dduw, am y rhodd o’th Fab Iesu.
Diolch i ti am ei fywyd a’i farwolaeth, ac am y bont a adeiladodd ef yn gyswllt rhyngom ni a thi.
Helpa ni i fod yn fendith ac i dderbyn bendith yn ystod y Nadolig hwn.

Cerddoriaeth

Gwrandewch ar un o’r carolau traddodiadol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon