Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Patrymau Ymddwyn

I werthfawrogi’r agweddau cadarnhaol a’r negyddol ym mhatrymau ymddwyn y dyddiau hyn.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

I werthfawrogi’r agweddau cadarnhaol a’r negyddol ym mhatrymau ymddwyn y dyddiau hyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ‘montage’ o uchafbwyntiau pêl-droed George Best (neu defnyddiwch yr un sydd eisoes wedi ei baratoi i chi ar ‘YouTube’). Gwnewch yr un peth ar gyfer Kaka, y pêl-droediwr o Frasil.  Gall y rhain greu effaith, ond mae’n bosib cynnal y gwasanaeth hebddyn nhw hefyd os na allwch eu cael.  

Gwasanaeth

  1. Dangoswch gyflwyniad o’r ddau bêl-droediwr i’r myfyrwyr.  

    Gofynnwch iddyn nhw feddwl am yr hyn sy’n debyg rhyngddyn nhw a’r hyn sy’n wahanol. Chwiliwch am ystyron dyfnach o’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhyngddyn nhw. Ar wahân i’r ffaith bod y ddau yn bêl-droedwyr hynod o dalentog, a oes yna bethau eraill sy’n eu gwneud yn batrymau ymddwyn?

  2. Yn ystod ei ddyddiau fel pêl-droediwr, roedd pobl yn caru ac yn addoli George Best gymaint fel y daeth i fod mor enwog â’r Beatles. Dechreuodd bobl gopïo’i arddull o wisgo a’r ffordd yr oedden nhw’n torri eu gwalltiau yn debyg iddo fo.  Yn wir, roedd ganddo ei siop ddillad - ‘boutique’ - ei hun.

  3. Holwch y myfyrwyr am yr hyn â wyddon nhw am fywyd personol George Best. Arweiniwch y sgwrs tuag at y materion trist rheiny yn ei fywyd, fel ei ffordd o fyw afradlon, ei alcoholiaeth a’i ymddygiad sarhaus tuag at ferched. Gofynnwch i’r myfyrwyr os ydyn nhw’n credu mai enwogrwydd achosodd George Best i golli ei ffordd yn ei fywyd. (Gallwch hefyd grybwyll Paul Gascoigne.)

    Yn awr, gofynnwch i’r myfyrwyr a ydyn nhw’n credu ei fod yn batrwm ymddwyn delfrydol i’w ddilyn - yn rhywun i’w edmygu ac i’w ddefnyddio fel canllaw i’w moesoldeb eu hunain a’u ffordd o fyw.  

  4. Tynnwch sylw’r myfyrwyr at y ‘montage’ o Kaka, a ddylai gynnwys y llun enwog ohono’n dathlu trwy wisgo crys T gyda’r slogan ‘I belong to Jesus’. Gofynnwch i’r myfyrwyr am eu hymateb i’r llun hwnnw. Beth maen nhw’n feddwl sy’n atal Kaka rhag dewis yr un math o ffordd o fyw ag a wnaeth George Best?

  5. Gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl a ydyn nhw’n credu bod ffydd a chanllawiau crefyddol sy’n rheoli ein ffordd o fyw yn gallu ein helpu trwy adegau anodd.  Myfyriwch ar y ffaith bod gan Kaka ffydd o ddifrif, ac efallai bod y ffydd honno yn ei gynorthwyo i wneud y penderfyniadau anodd rheiny.  

  6. Hyn yn oed os nad ydym yn credu yn Nuw, gallwn barhau i fyw ein bywydau oddi mewn i ganllawiau moesol da a gwneud dyfarniadau sy’n ein helpu i fyw bywydau gwell.  

Amser i feddwl

Ail-ddangoswch y ‘montages’ wrth i’r myfyrwyr feddwl am y gwasanaeth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Cynorthwya ni i wneud y gorau o’n bywydau
a sicrhau ein bod ni’n cynorthwyo pobl y byddwn yn eu cyfarfod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon