Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn Ol I'r Dyfodol

Helpu myfyrwyr i ystyried dyddiadau pwysig yn y flwyddyn sydd i ddod, a meddwl am beth sydd gan y dyfodol mewn stôr i ni.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu myfyrwyr i ystyried dyddiadau pwysig yn y flwyddyn sydd i ddod, a meddwl am beth sydd gan y dyfodol mewn stôr i ni.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr, pa un o’r pethau sydd gennych chi sy’n wahanol i’r lleill, pa un yw’r ‘odd one out’ o’r tri gwrthrych? Ateb: y torsh neu’r gannwyll. Mae calendr a phapur newydd yn cofnodi amser sy’n cael ei dreulio, ond gall goleuni eich helpu i ddangos y ffordd ymlaen i chi i’r lleoedd anadnabyddus hynny.

  2. Gofynnwch i’r myfyrwyr awgrymu beth fydd rhai o ddigwyddiadau pwysicaf 2010 ar gyfer y wlad, ac ymhle y byddan nhw’n debygol o ddigwydd.  Ysgrifennwch y rhain ar y bwrdd gwyn.

  3. Meddyliwch am ddechrau’r flwyddyn hon, dim ond rhyw fis yn ôl. Mae dechrau blwyddyn yn amser cyffrous bob amser, ond mae eleni yn fwy cyffrous fyth oherwydd nid yn unig y mae’n ddechrau blwyddyn newydd, ond dechrau degawd newydd! Dywedwch wrth y myfyrwyr eich bod chi eisiau dweud rhywbeth wrthyn nhw am ‘ddyddiadau’ a ‘dyddio’! 

    Efallai ei bod hi’n wir y bydd rhai ohonoch yn mwynhau llawer o ddyddiadau fel y rhain eleni, yn arbennig felly gyda Dydd Sant Ffolant mor agos. Dywedwch eich bod yn hytrach, eisiau siarad gyda’r myfyrwyr am yr hyn all fod yn ddyddiadau pwysig iddyn nhw yn ystod y flwyddyn sydd o’u blaenau. 
    Cwblhewch y rhestr (gweler uchod) ar y bwrdd gwyn. Bydd rhai digwyddiadau cenedlaethol a rhyng-genedlaethol yn digwydd yn 2010, y gall y myfyrwyr eu crybwyll: Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Vancouver, Canada (12-28 Chwefror); y Gemau Paralympaidd (12-21 Mawrth); Cwpan Pêl-droed y Byd yn Ne Affrica (11 Mehefin-11 Gorffennaf).

  4. A oeddech chi’n gwybod am y pethau eraill yma sydd i fod i ddigwydd eleni? 

    Mae disgwyl i’r cwmni ceir modur Americanaidd, General Motors, gynhyrchu model masnachol ymarferol o’u car cysyniadol sy’n cael ei yrru-gan-wifr trwy ddefnyddio hydrogen fel tanwydd, car o’r enw ‘Hy-wire.’ 
    Bydd Israel, yn ôl ei Phrif Weinidog Ehud Olmert, yn cwblhau ei Gwahanfur Diogelwch a’i ddefnyddio fel sylfaen i’r ffin derfynol rhyngddi hi a gwladwriaeth Palestina (fel y cafodd ei adrodd yn 2006 gan y Wall Street Journal a nifer fawr o bapurau newydd eraill). 
    Bydd yr orbitor JAXA Planet-C yn cylchdroi o gwmpas y blaned Gwener, ac yn anfon lluniau yn ôl i’r ddaear. 
    Bydd yr Orsaf Ofod Ryngwladol wedi ei chwblhau. 
    Bydd NASA yn dirwyn rhaglen y Wennol Ofod i ben a’i chyfnewid am brosiect Constellation.  Yn rhan o’r prosiect newydd hwn bydd cerbydau gofod newydd o’r enw Ares 1 ac Ares V, yn ogystal â’r cerbyd gofodol Orion, sydd yn gallu teithio o’r Orsaf Ofod, i’r lleuad ac ymhen hir a hwyr i’r blaned Mawrth.

    Ac eleni un o’r penblwyddi pwysig oedd hwnnw a ddigwyddodd ar 13 Ionawr, pryd yr oedd hi’n gan mlynedd ers y darllediad radio cyhoeddus cyntaf o’r Ty Opera Metropolitan yn Efrog Newydd.

  5. Yn nes adref, beth tybed fydd rhai o’r digwyddiadau pwysig i’ch teulu chi eleni? A fydd eich rhieni neu eich brodyr a’ch chwiorydd yn dathlu’r penblwyddi pwysig eleni: 18 oed, 21ain, 30ain, 40fed, 50fed? A’ch teidiau a’ch neiniau - fe allan nhw fod yn dathlu eu pen-blwydd yn 60, 70, 80 neu 90! Beth am benblwyddi priodas?

  6. Tra bod rhai pethau y gallwn ragweld fydd yn digwydd yn y flwyddyn sy’n dod, fel Cwpan y Byd, Gemau Olympaidd y Gaeaf, penblwyddi a dathliadau arbennig, mae mwy o lawer o bethau sy’n anhysbys. Bydd raid i ni ddisgwyl a gweld beth ddaw. Fe fydd newid yn anorfod ac ni allwn droi’r cloc yn ôl. Rydym i gyd yn mynd yn hyn – ac yn ddoethach, gobeithio. 

    I rai pobl, mae meddwl am y dyfodol yn codi ofn arnyn nhw.  Maen nhw eisiau diogelwch ar eu taith trwy fywyd. Efallai eu bod yn bryderus ynghylch arholiadau pwysig a phenderfyniadau y bydd yn ofynnol iddyn nhw eu gwneud eleni ynghylch pa gyrsiau i’w dilyn a pha le i weithio.  

    Y gwir yw, mae bywyd yn hynod o werthfawr, yn gynhyrfus ac yn llawn digwyddiadau na allwch eu rhagweld. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n addo ein harwain ni trwy ein bywydau os wnawn ni ymddiried ynddo. Fe ddywedodd, ‘Myfi yw Goleuni’r Byd’ a’r ‘ffordd, y gwirionedd a’r bywyd’ (Ioan 14.6). Felly, mae Cristnogion yn credu y gallan nhw ymddiried eu dyfodol i’w ddwylo Ef.

  7. Beth ydych chi’n ei ddymuno fydd yn digwydd eleni yn eich bywyd chi? Eleni, wrth i ni lansio ein hunain i’r hyn sy’n hysbys ac sy’n anhysbys yn 2010 a thu hwnt, meddyliwch beth fydd y  lansiad hwnnw yn ei olygu i chi’n bersonol. Efallai y bydd yna bethau rhyfeddol a chyffrous, a fydd yn peri syndod yn eich aros. Rydw i am awgrymu i chi bedwar o bethau i’w hystyried:

    (1) Byddwch yn fentrus ac yn anturus. Oes yna unrhyw beth sy’n werth i chi ei fentro er mwyn ei gyflawni? Gall hyn olygu gweithio’n galetach i ennill gradd uwch na’r hyn y mae eich athrawon yn ei ddisgwyl gennych, rhywbeth fydd yn peri syndod iddyn nhw, i’ch rhieni a hyd yn oed i chi eich hun! Gall bod yn fentrus olygu rhoi’r gorau i arferiad dinistriol fel bwyta gormod o fwydydd seimlyd. Gall bod yn fentrus olygu wynebu hen ofnau a darganfod y gwobrau syfrdanol sydd yr ochr arall iddyn nhw. Mae caru eraill yn golygu bod yn fentrus: y risg o fod yn agored i niwed. 

    (2) Gosodwch nodau i chi’ch hun. Trefnwch gynllun i gyrraedd at ryw nod, a dywedwch wrth rywun yr hyn yr ydych yn dymuno’i gyflawni.

    (3) Edrychwch mewn drych a gofynnwch i chi eich hun pa fath o berson y dymunwch fod dros y flwyddyn sy’n dod. A ydych chi’n gallu parchu’r hyn yr ydych yn ei weld ohonoch eich hun? 

    (4) Cysegrwch eich bywyd i rywbeth sy’n fwy na chi eich hun, a theimlwch y fendith o wneud hynny. Efallai nad ydych yn ‘secret millionaire’ (fel yn y gyfres honno ar Sianel 4), ond gallwch hyd yn oed heb hynny wneud gwahaniaeth cadarnhaol, trwy helpu pobl yn eich ysgol chi a’r gymuned ehangach.

  8. Gadewch i mi eich annog i wynebu 2010 a’r ddegawd sydd ar gychwyn gyda dewrder. Ar ddydd Nadolig 1939, fe benderfynodd y brenin, Siôr V, tad Elizabeth II, wneud rhywbeth yr oedd yn ei gael yn anodd ac anghysurus: sef siarad gyda’r cyhoedd ar y radio. Roedd ganddo atal-dweud, ond yr oedd yn benderfynol o adfer y traddodiad yr oedd ei ddiweddar dad wedi ei ddechrau, a dod â neges flynyddol i bobl Prydain. A hwnnw’n Nadolig cyntaf y rhyfel yn erbyn yr Almaen, fe feddyliodd y byddai’r bobl yn gwerthfawrogi ei eiriau o anogaeth.  Fe ddarllenodd y geiriau hyfryd hyn i’r genedl: ‘Fe ddywedais i wrth y dyn oedd yn sefyll wrth borth y flwyddyn, “Rho oleuni i mi fel y gallaf ymlwybro’n ddiogel i’r lle anhysbys,” ac fe atebodd, “Dos allan i’r tywyllwch a rho dy law yn llaw Duw.  Bydd hynny i ti yn well na goleuni ac yn fwy diogel na ffordd sy’n adnabyddus!”’

  9. Mae blwyddyn newydd yn ddechrau newydd, yn rhodd sy’n llawn addewid.  Faint ohonoch chi sydd wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd? Faint ohonoch chi sy’n dal i gadw atyn nhw?

Amser i feddwl

Wrth i ni wynebu’r dyfodol, gadewch i ni feddwl am yr hyn yr hoffem ei weld ymhen blwyddyn. A yw’n cynnwys ennill graddau gwell, colli rhywfaint o bwysau, dechrau hobi newydd, cael gwell perthynas gyda’ch teulu? A ydych chi’n bryderus am y dyfodol?

Os oes gennych ffydd, meddyliwch am yr hyn y mae’r ffydd honno yn eich addysgu am gariad Duw a’i ofal dros bob unigolyn.

Os nad oes gennych ffydd, meddyliwch am yr holl bobl yr ydych yn eu caru ac yn gweithio gyda nhw, a sut y gallwch chi gyfrannu tuag at eu bywydau fel y byddan nhw’n cyfrannu tuag at eich bywyd chi.

Gweddi
Arglwydd, helpa ni i wynebu’r flwyddyn newydd â dewrder, gan ymddiried ynot Ti.  
Diolch i Ti am addo bod gyda ni beth bynnag fydd gan y dyfodol i’w gynnig i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon