Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Holi

Deall yr ystyr sydd y tu ôl i Wyl Holi a’i defnydd o liwiau llachar.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Deall yr ystyr sydd y tu ôl i Wyl Holi a’i defnydd o liwiau llachar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r gân ‘True Colours’ gan Phil Collins.

  • Ceisiwch ddelweddau o bobl yn dathlu Gwyl Holi yn India - chwiliwch am ddelweddau ar y rhyngrwyd.

  • Paratowch dri darllenydd. Fe allech chi hefyd ddefnyddio rhai o’r myfyrwyr i ffurfio lluniau llonydd o’r golygfeydd yng ngwahanol rannau’r stori.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o bobl yn dathlu gwyl Holi. Beth ydych chi’n feddwl y mae’r bobl yma’n ei wneud? Derbyniwch rai atebion - mae’n debyg y cewch chi atebion fel ‘taflu paent at ei gilydd! 

    Darllenydd 1:  Mae’r bobl yma’n rhoi paent lliw dros y naill a’r llall. Fe fyddan nhw’n ei daenu dros eu hwynebau, ac fe fyddan nhw’n taflu powdr o wahanol liwiau, a dwr, at ei gilydd hefyd. 

    Arweinydd:  Pwy sy’n gwneud hyn? Derbyniwch atebion. 

    Darllenydd 2:  Hindwiaid yw’r bobl yma. 

    Arweinydd:  Ble mae hyn yn digwydd? Fe allen nhw fod yn Hindwiaid mewn unrhyw wlad, ond mae’r Hindwiaid yma yng ngwlad India.

  2. Leader: Pam y maen nhw’n gwneud hyn? Eto, derbyniwch awgrymiadau. Mae’n debygol y byddwch chi’n cael yr ateb rydych chi’n chwilio amdano gan rywun. 

    Mae’r Hindwiaid yma’n dathlu gwyl Holi. Gwyl Hindwaidd y lliwiau yw Holi. Ond mae hefyd yn wyl o ddathlu’r gwanwyn a bywyd newydd. Mae’n wyl lachar a bywiog, pryd mae pob synnwyr o unrhyw wahaniaethu’n cael ei roi o’r nelltu. Bydd rhai o wahanol safleoedd yn y system ‘cast’ yn dathlu gyda’i gilydd - dynion a merched, hen ac ifanc, pawb yn ymuno yn yr hwyl o daflu paent lliw at ei gilydd. Bydd y bobl yn gwisgo dillad gwyn er mwyn i’r lliwiau fod yn amlwg. Mae’n ymddangos yn wyl llawn hwyl a chyffro. Nid yn aml y cewch chi gyfle i daflu paent at bobl eraill!

  3. Fel gyda’r rhan fwyaf o’r gwyliau Hindwaidd, mae stori’n gysylltiedig â Holi, stori y gallech chi ei hactio neu ei hailadrodd. Ceisiwch ddyfalu beth yw’r neges neu’r wers foesol sydd yn y stori ganlynol. Dyma’r brif stori sy’n gysylltiedig â gwyl Holi.

    Darllenydd 2:  Diafol benywaidd oedd Holika, ac roedd yn chwaer i Hiranyakashyap, a oedd yn frenin y diafoliaid. Roedd Hiranyakashyap yn meddwl ei fod yn rymus iawn, ac ystyriai ei hun yn rheolwr y bydysawd. Roedd yn teimlo ei fod yn uwch na’r holl dduwiau. 

    Darllenydd 3:  Roedd gan Hiranyakashyap fab o’r enw Prahalad. Roedd Hiranyakashyap yn ei ddirmygu am fod Prahalad yn ffyddlon i’r duw Vishnu. Gofynnodd y brenin iddo un diwrnod, ‘Pwy yw’r mwyaf, Duw neu fi?’ 

    Atebodd ei fab, ‘Duw yw’r mwyaf, dim ond brenin ydych chi.’ Pan glywodd hyn, roedd y brenin yn gynddeiriog ac fe benderfynodd lofruddio’i fab ei hun.

    Darllenydd 1:  Ond, bob tro y byddai’r brenin yn rhoi cynnig ar ei ladd, roedd yn aflwyddiannus. Gwthiwyd Prahalad dros ymyl clogwyn, ond ni chafodd ei ladd; gwasgwyd ef gan eliffantod, ond roedd yn dal yn fyw; brathwyd ef gan nadroedd, ond doedd o ddim gwaeth; ymosodwyd arno gan filwyr arfog hyd yn oed, ond wnaeth o ddim marw. Roedd hi’n amlwg bod rhywun ar ei ochr!

    Darllenydd 2:  Mewn penbleth a rhwystredigaeth fawr, gofynnodd y brenin i’w chwaer, Holika, ladd y bachgen. Gafaelodd Holika yn Prahalad ac eistedd yng nghanol tân gyda’r bachgen ar ei glin - fe fyddai hynny’n sicr o’i ladd! Neu, dyna beth a feddyliai’r brenin beth bynnag ....

    Darllenydd 3:  Roedd gan Holika rym a roddwyd iddi gan y duwiau a oedd gallu gwneud iddi wrthsefyll tân. Felly, roedd Hiranyakashyap yn meddwl y byddai hynny’n gynllun da i gael gwared â Prahalad. Fe fyddai Prahalad yn llosgi’n ulw, ond fe fyddai chwaer y brenin yn ddianaf. Ond nid yw bob amser yn beth doeth cymryd rhoddion duw’n ganiataol, a’u camddefnyddio!

    Darllenydd 1:  Oherwydd bod Holika yn defnyddio’i dawn er mwyn gwneud rhywbeth drwg, fe ddiflannodd y grym arbennig hwnnw, ac fe losgodd yn lludw. Ond parhaodd Prahalad yn driw i’w dduw, Vishnu, gan weddïo arno wrth eistedd ar lin ei fodryb ddieflig, ac ni chafodd ei gyffwrdd gan y tân. Roedd Vishnu wedi ei warchod, ac fe barhaodd Prahalad yn fyw hyd yn oed trwy’r artaith yma hefyd. 

    Darllenydd 2:  Yn fuan wedyn, lladdwyd y Brenin Hiranyakashyap gan Vishnu, ac fe lywodraethodd Prahalad fel brenin doeth yn lle ei dad. 

    Er mwyn dathlu’r stori, fe fydd Hindwiaid yn llosgi coelcerthi yn ystod gwyl Holi. Mewn sawl lle yn India, fe fyddan nhw’n llosgi delw o Holika i gofio am ei gweithredoedd drwg.

  4. Felly beth yw’r wers yn y stori? Y wers yw bod y da bob amser yn trechu’r drwg, a bydd y rhai hynny sy’n ceisio poenydio gweision ffyddlon a chywir y duwiau yn cael eu dinistrio. Mae hon yn neges rymus iawn, ac yn un sy’n cael ei hamlygu gan bwysigrwydd y lliwiau a’r hwyl ym mhrif ran yr wyl. 

    Mae’n gysur gwybod bod y rhai hynny sydd wedi bod yn ddrwg yn mynd i gael eu cosbi, a bod daioni yn cael ei wobrwyo. Fe allwn ni feddwl am storïau eraill sy’n debyg, ond mae hon yn pwysleisio neges arbennig: daioni fydd drechaf, ym mhob achos! Ie, hyd yn oed os byddwch chi’n cael eich gwasgu gan eliffantod ac yn cael eich brathu gan nadroedd!

Amser i feddwl

Gweddi
Gad i mi weld y da yn hytrach na’r drwg,
a defnyddio fy noniau er mwyn gwneud daioni,
yn hytrach na’u camddefnyddio at bwrpasau eraill.
Gad i wyl Holi ddangos i mi mai trwy fod yn dda y mae ennill o ddifrif y gwobrwyon yr ydw i’n eu ceisio.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon