Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Well done, Mum!

Helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi beth sy’n gwneud mam dda neu ‘ffigur mam’ dda, ac anrhydeddu pob gwraig sydd wedi chwarae rôl fel mam yn eu bywydau.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi beth sy’n gwneud mam dda neu ‘ffigur mam’ dda, ac anrhydeddu pob gwraig sydd wedi chwarae rôl fel mam yn eu bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun o’ch mam chi eich hun, efallai, neu rywun sy’n ‘ffigur mam’ i chi, neu gasgliad o luniau mamau enwog a’u plant.

  • Fe allech chi chwarae gêm matsio plant enwog â’u mamau (bydd gennych chi eich casgliad eich hun, o bosib, ond dyma rai enghreifftiau):
    Heledd Cynwal – Elinor Jones 
    Charles, Anne, Andrew ac Edward Windsor – Y Frenhines Elizabeth 
    Malia Ann and Natasha (Sasha) – Michelle Obama
    Brooklyn, Romeo a Cruz – Victoria Beckham 
    Bart, Lisa a Maggie – Marge Simpson
    Amy, Kelly a Jack – Sharon Osbourne

  • Fel cyflwyniad, neu fel cân i ddiweddu’r gwasanaeth, chwaraewch ‘Mamma Mia’ gan Abba.

  • Rhybudd: Byddwch yn sensitif ynghylch sut rydych chi’n ymdrin â’r pwnc yma. Efallai nad yw profiad pawb yn brofiad positif bob tro. Gall Sul y Fam fod yn amser anodd i blant sydd heb fam yn byw gartref. Felly, yn y gwasanaeth yma, ‘ffigur mam’ mewn ystyr gyffredinol a ddylid ei ddathlu – fe allai hynny gynnwys llysfamau, mamau maeth, modrybedd, neiniau a chwiorydd hyn yn ogystal â mamau.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y lluniau sydd gennych chi - naill ai llun eich mam chi eich hun neu’r lluniau sydd gennych chi o famau enwog a’u plant.

    Ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, bydd y bobl yno’n dathlu Sul y Fam ar y pedwerydd Sul yn y Garawys, ac eleni Mawrth 14 fydd y diwrnod hwnnw. Fe allwn ni ddefnyddio’r diwrnod hwnnw nid yn unig i anrhydeddu ein mam ond hefyd i ddiolch i ferched eraill sydd wedi chwarae rôl fel mam yn ein bywydau. Fe allai’r rhain fod yn bobl fel mam faeth neu fodryb, chwaer fawr neu nain neu unrhyw un sydd wedi bod yn gofalu amdanom. 

    Fe fydd plant yn aml yn rhoi anrheg a cherdyn i’w mam ar y diwrnod arbennig yma er mwyn diolch iddi. Yn aml, fe fydd llawer o eglwysi yn rhoi sylw arbennig i hyn yn eu gwasanaeth y diwrnod hwn ac yn rhoi tusw o flodau’r gwanwyn i’r plant yn y gynulleidfa er mwyn iddyn nhw allu eu rhoi i’w mam fel arwydd o ddiolch am eu gofal a’u cariad trwy gydol y flwyddyn.

    Bydd pobl ledled y byd yn dathlu Sul y Fam, ond ar adegau gwahanol ar y flwyddyn mewn gwahanol wledydd. Ond mae rôl y fam wedi bod yn rhywbeth i’w ddathlu a’i anrhydeddu trwy hanes yr oesoedd ers amser yr hen Roegiaid. Mae’n bwysig gwerthfawrogi ein mamau, wedi’r cyfan maen nhw wedi gofalu amdanom ni ers y dydd y cawsom ni ein geni, a chyn hynny hyd yn oed.

  2. Mae mamau’n teimlo’n aml iawn nad yw eu gwaith byth yn dod i ben. Maen nhw’n aml yn teimlo wedi blino, does dim cyflog i’w gael am yr holl waith, ac yn aml mae cymdeithas yn anwybyddu rôl y fam. Felly, pam trafferthu bod yn fam? Pam y mae miliynau o ferched bob blwyddyn yn penderfynu eu bod eisiau bod yn fam?

    Mae adegau emosiynol yn bethau cyffredin i bob mam, y cymysgiad o boen a llawenydd sydd i’w gael ar adeg geni babi bach; rhieni newydd yn dysgu ymdopi â chyfrifoldebau newydd a nosweithiau digwsg, ac yna ymhen blynyddoedd ar ôl hynny, rhaid dysgu gadael i’w plant ‘adael y nyth’ wedi iddyn nhw dyfu’n oedolion, heb sôn am y profiadau cymysg yn y cyfamser. 

    Ond mae bod yn fam yn brofiad gwerthfawr - mae’n bosib cael pleser anhygoel yn ddyddiol. Allwch chi byth orbrisio dylanwad mam dda. Mae arweinwyr yfory yn cael eu siapio yn eu cartrefi heddiw yn aml dan ddylanwad eu mam.

  3. Mae ein mamau yn golygu llawer i ni. Mae mam gan bawb, er efallai nad yw mam pawb yn byw gyda nhw. Mae gan bawb rywun arbennig sy’n chwarae rôl mam iddyn nhw. Fe ddylen ni bob amser werthfawrogi popeth y mae ein mam neu’r bobl arbennig eraill yma yn ei wneud i ni.

  4. Ydych chi’n cofio eich mam yn trysori’r lluniau roeddech chi wedi’u gwneud pan oeddech chi’n llai? Ydych chi’n cofio eich mam yn eich dysgu i gau carai eich esgidiau cyn i chi ddod i’r ysgol? (Neu efallai mai Velcro oedd gennych chi’n cau eich esgidiau!) A meddyliwch am yr holl bethau mae eich mam wedi eu gwneud i chi ers hynny, ac mae hi’n dal i’w gwneud i chi, a hynny am ei bod yn eich caru chi.

  5. Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi gael eich annog gan eich mam, naill ai wrth iddi ddweud rhywbeth wrthych chi neu wneud rhywbeth i’ch helpu chi? Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi ddweud diolch wrth eich mam am ei chariad a’i holl ofal drosoch chi? 

    Yn awr ac yn y dyfodol, (gan y bydd llawer ohonoch chi’n rhieni eich hunain), mae angen i ni werthfawrogi'r hyn y mae mamau yn ei wneud. Peidiwch ag anghofio dweud tri gair bach wrth famau neu’r rhai sy’n chwarae rôl mam: ‘Da iawn, Mam.’

Amser i feddwl

Mae Sul y Fam yn rhoi cyfle i ni gofio am ein mam neu’r rhai sydd wedi bod fel mam i ni yn ystod ein bywyd. Gadewch i ni dreulio munud neu ddau yn meddwl am y bobl arbennig hyn: meddwl am y pethau maen nhw’n ei wneud i ni, meddwl am sut y gallwn ni ddweud wrthyn nhw ein bod yn eu gwerthfawrogi.

Er enghraifft, os ydyn ni’n gweld ein mam fel rhywun sy’n esiampl dda i ni, rhaid i ni gofio dweud diolch wrthi am hynny.

Gadewch i heddiw fod yn achlysur i ni anrhydeddu ein mam a phawb sydd wedi bod fel mam i ni ac sydd wedi ein magu a’n dysgu a’n hysbrydoli ni.

Mae mamau yn aml yn anhunanol, ac yn aml yn fodlon gwneud heb rywbeth er mwyn i’w plant gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn diolch i’n mamau a’r rhai sy’n gofalu amdanom am y math yma o gariad anhunanol.

Wrth gwrs, fe fydd ambell adeg o anghydweld a rhwystredigaeth o dro i dro efallai rhwng eich mam a chithau, ond ceisiwch weld pethau o’i safbwynt hi. Ceisiwch edrych ar y darlun eang. Mae hi’n eich caru chi ac fe fyddai hi’n fodlon gwneud unrhyw beth i’ch helpu yn enwedig pe byddech chi mewn trafferthion.

Yn olaf, meddyliwch am y ffaith bod Cristnogion yn credu bod Duw yn bartner perffaith - yn dad ac yn fam i bob un ohonom ni. Mae Duw yno bob amser i’n caru ni ac i’n cefnogi ni, beth bynnag y byddwn ni’n ei wneud.

Gweddi
Annwyl Dduw, diolch i ti am ein mamau
ac am y rhai sydd wedi bod fel mam i ni yn ein bywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon