Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim Rhagor O Achosion Coll

Ystyried goblygiadau stori Atgyfodiad y Pasg.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried goblygiadau stori Atgyfodiad y Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch a pharatowch bedwar darllenydd i gymryd rhan.

  • Awgrym ar gyfer cerddoriaeth: ‘Beautiful Day’ gan U2.

Gwasanaeth

  1. Rydym yn dweud weithiau fod rhyw sefyllfa yn achos coll. Beth ydym yn feddwl wrth ddatgan y fath beth? Dyma ychydig o enghreifftiau:

    Darllenydd 1:  Fydda i byth yn gallu mynd ar y cwrs yna yr oeddwn i eisiau ei gychwyn.  Roedd dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ddoe, ac fe anghofiais yn llwyr anfon fy ffurflen drwy’r post. Mae’n gorwedd ar y bwrdd gartref gyda stamp dosbarth cyntaf ar yr amlen. Ond dydi’r ffurflen yn da i ddim yn y fan honno.  Fe ddylai fod yn y coleg. Fe fydd yn rhaid i mi ddisgwyl am flwyddyn gron yn awr i gael cyfle eto. Mae’n achos coll.

    Darllenydd 2:  Fydd y planhigyn yma ddim yn blodeuo byth eto.  Fe wnes i ei adael ar sil y ffenest tra roeddwn i ar fy ngwyliau ac mae’r haul wedi ei sychu’n grimp. Mae’r dail yn frown, ac mae’r pridd fel llwch. Roedd Mam wrth ei bodd gyda’r blodau tlws oedd ar y planhigyn yma.  Fe fydd hi’n ddrwg arnaf am hyn. Waeth i mi ei daflu ar y domen wastraff, bellach.  Mae’n achos coll.

    Darllenydd 3:  Gyda dwy funud o amser ychwanegol i fynd, rydyn ni ddwy gôl ar ei hôl hi yn y gêm derfynol. Maen nhw wedi ein cau ni yn ardal ein blwch cosbi ac mae’n rhyfeddol nad ydym wedi ildio trydedd os nad pedwaredd gôl. Allwn ni byth ennill rwan. Mae’n achos coll.

    Darllenydd 4:  Fydd ef (neu hi) byth yn ymddiried ynof fi eto. Ar yr union adeg yr oedd angen i mi ei gefnogi, fe wnes i gilio. Rydw i wedi ei werthu go iawn. Fyddwn ni byth yn ffrindiau eto. Mae’n achos coll.

  2. Ydych chi’n dechrau deall y dywediad yn awr? Rhywbeth tebyg i hyn oedd y sefyllfa i ffrindiau a dilynwyr Iesu ar ddiwedd y dydd Gwener hwnnw pan gafodd ei ddienyddio ar groesbren gan y Rhufeiniaid. Fe gymerodd hi dipyn o amser iddo farw, ond pan roddodd ei anadl olaf, roedd hi’n amlwg fod y cyfan drosodd. Yr holl obeithion hynny am amseroedd da i ddyfod: y deyrnas newydd yr oedd Iesu wedi ei haddo, diwedd ar ormes y Rhufeiniaid, Duw yn ennill buddugoliaeth dros ddrygioni, roedd y cyfan i gyd wedi mynd am byth. Dim ond achos coll arall. Nid yw’n syndod eu bod wedi llithro ymaith yn ddistaw i guddio yn rhywle saff. Efallai byddai’r Rhufeiniaid ar eu holau nhw y tro nesaf.

  3. Ac eithrio… ac eithrio’r ffaith mai dyna sydd yn gwneud stori’r Pasg mor wahanol o arwyddocaol. Deuddydd ymhellach, roedd pob arlliw o’r corff clwyfedig, gwaedlyd wedi diflannu o’r bedd, lle rhoddwyd ef i orffwys yn dilyn marwolaeth Iesu. Nid yn unig hynny, fe ymddangosodd Iesu eto, ac roedd yn fyw, yn cerdded, yn siarad o flaen bob un o’r ffrindiau a’r dilynwyr hynny. Roedd y person yr oedden nhw wedi ei weld yn marw ar y groes, rwyfodd wedi cael ei atgyfodi i fywyd drachefn. Nid yn unig yr oedd yr achos coll wedi cael ei ennill, ond roedd Iesu wedi addo mai’r dechrau yn unig oedd hyn. O’i fuddugoliaeth dros farwolaeth byddai trefn byd newydd yn dod i rym, yr hyn yr oedd ef wedi ei ragfynegi a fyddai’n bosib. Yn dilyn y Pasg cyntaf hwnnw, fyddai yna ddim y fath beth ag achos coll mwyach. Am dros 2,000 o flynyddoedd mae Cristnogion wedi credu yng ngrym yr Iesu Atgyfodedig, ac maen nhw’n hawlio bod gobaith, iachâd a chymod wedi eu profi ar draws y byd.

  4. Mae atgyfodiad Iesu ar Sul y Pasg cyntaf hwnnw, i Gristnogion, yn symbol o rym Duw i ddod â daioni allan o sefyllfaoedd sydd yn ymddangos yn anobeithiol.  Gadewch i ni ddychmygu, er enghraifft:

    Darllenydd 1:  Fe wnes i anfon y ffurflen gais i mewn beth bynnag. Yn ôl pob golwg, roedden nhw wedi’u plesio gymaint gyda’r hyn yr oeddwn wedi ei ysgrifennu fel eu bod yn awyddus i gynnig lle i mi ar y cwrs. Yn naturiol, fodd bynnag, rydw i wedi dysgu gwers. Fyddai ddim yn anghofio rhoi llythyr pwysig fel hwnnw yn y post eto.

    Darllenydd 2:  Fe wnes i dynnu’r dail brown yn ofalus a rhoi pridd newydd i’r planhigyn a digon o ddwr. Bore heddiw fe wnes i ddarganfod eginyn gwyrdd newydd.

    Darllenydd 3:  Rydw i’n credu eich bod yn gallu dyfalu beth ddigwyddodd.  Os na, holwch unrhyw un o gefnogwyr y tîm oedd yn chwarae yn ein herbyn.

    Darllenydd 4:  Dim ond y gair ‘Sori’ oedd ei angen. Mae’n air sy’n helpu i adfer cymaint o berthnasoedd toredig.  Nid oedd yr un ohonom am i’n perthynas ddod i ben.

Amser i feddwl

Treuliwch funud yn meddwl am yr ystyriaethau canlynol. Efallai yr hoffech chi eu trosglwyddo i weddi:

Byddwch yn ddiolchgar am y sefyllfaoedd anobeithiol hynny yn eich bywyd sydd wedi cael eu hachub yn rhyfeddol.

Byddwch yn edifar am y niwed yr ydych chi wedi ei achosi yn gam neu’n gymwys i’r berthynas yr ydych wedi ei cholli.

Lluniwch gynllun i weithredu ar rai o’r materion sydd wedi codi o’r gwasanaeth heddiw. Efallai’n wir y byddwch yn synnu beth wnaiff ddigwydd - yn arbennig felly os byddwch yn gwahodd Duw i’ch helpu a bod yn rhan o’ch cynllun.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon