Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amyrwiaeth A Stori'r Samariad Trugarog

Gwerthfawrogi ein bod ni’n byw mewn byd llawn amrywiaeth, a meddwl am yr effaith niweidiol y mae rhagfarn a hiliaeth yn gallu ei achosi.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi ein bod ni’n byw mewn byd llawn amrywiaeth, a meddwl am yr effaith niweidiol y mae rhagfarn a hiliaeth yn gallu ei achosi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gollage neu gyflwyniad PowerPoint yn dangos pobl o wahanol grefyddau a/ neu o wahanol gefndiroedd hiliol; pobl sydd ag anableddau; pobl ordew; pobl sy’n dal iawn neu sy’n fyr iawn; pobl sydd â syndrom Down.

  • Fe fydd arnoch chi angen bwrdd gwyn rhyngweithiol.

  • Darlleniad o’r Beibl: Luc 10.30–37. Efallai yr hoffech chi ofyn i un o’r myfyrwyr ddarllen y ddameg.

  • Dewisol: Llwythwch i lawr rai delweddau ar gyfer pwynt 5.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch ddelweddau o bobl a gofynnwch i’r myfyrwyr sgwrsio’n ddistaw am y math o enwau y bydden nhw’n cael eu galw, ganddyn nhw neu gan eraill. Yna gofynnwch i’r myfyrwyr rannu’r enwau hyn ar gyfer pob llun a ddangoswch iddyn nhw. Cofnodwch yr enwau hyn. Sicrhewch y myfyrwyr na fyddan nhw’n cael eu cosbi am unrhyw enw y byddan nhw’n eu hawgrymu, ond na ddylen nhw ddefnyddio geiriau anweddus.

  2. Unwaith y bydd y bwrdd gwyn yn llawn, rhifwch ac amlygwch y geiriau negyddol a’r geiriau cadarnhaol - yn goch a gwyrdd yn ôl eu trefn.  (Bydd y nifer o eiriau negyddol yn sicr o fod yn fwy na’r nifer o eiriau cadarnhaol.) 

    Dylai fod yn amlwg i’r myfyrwyr eu bod wedi awgrymu geiriau negyddol i bob pwrpas. Trowch i wynebu’r myfyrwyr a dywedwch wrthyn nhw mewn llais grymus, ‘Iawn, rydw i am fynd i nôl pob un o’r bobl hyn i’r gwasanaeth yn awr a’u cyflwyno nhw i chi, a dweud wrthyn nhw beth ydych chi’n feddwl ohonyn nhw.’ (Brasgamwch o’r ystafell ac allan o olwg y myfyrwyr.)

  3. Ar ôl ychydig funudau, dewch i mewn i’r ystafell ar eich pen eich hun. Holwch y myfyrwyr am eu teimladau o orfod wynebu’r bobl yn y lluniau (gall hyn ymddangos yn dacteg i godi arswyd arnyn nhw  – ond yn ffordd effeithiol o drosglwyddo’ch neges iddyn nhw).

  4. Trafodwch y dywediad Saesneg: ‘Sticks and stones may break my bones but names will never hurt me.’ Gofynnwch i’r myfyrwyr os ydyn nhw’n  cytuno â’r math yna o ddywediad. Mae rhai yn dweud peth fel hyn er mwyn gallu anwybyddu pobl sy’n dweud pethau cas wrthyn nhw. Ond, efallai bod y dywediad canlynol yn nes at y gwir: ‘Sticks and stones may break my bones - and words hurt, too!’ Ceisiwch gael y myfyrwyr i fynegi eu barn am hyn, a’u hatgoffa o sut yr oedden nhw’n teimlo pan oedden nhw’n credu y byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu pobl fel y rhai yn y lluniau.

  5. Trafodwch sut y mae galw enwau, a bod ag agwedd tuag at bobl sy’n wahanol i ni, yn beth peryglus dros ben. Dewisol: Dangoswch ffilm o derfysgoedd hiliol (e.e. ar YouTube) a thrafodwch hynny gyda’r myfyrwyr. Neu dangoswch ddarluniau o Nelson Mandela, a gafodd ei garcharu am 27 mlynedd am brotestio yn erbyn y polisïau gwahaniaethu rhwng y bobl dduon a’r bobl gwynion yn Ne Affrica.

  6. Darllenwch chi, neu gofynnwch i un o’r myfyrwyr ddarllen dameg Iesu am y Samariad Trugarog (Luc 10.30-37). Mae Iesu’n dweud y stori mewn ymateb i’r cwestiwn, ‘A phwy yw fy nghymydog?’

    "Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron marw ar ochr y ffordd. Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen. A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi’r ffordd a mynd yn ei flaen. Ond yna dyma Samariad yn dod i’r fan lle yr oedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd y dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a’u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a’i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety, a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. 'Gofala amdano,' meddai wrtho, 'ac os bydd costau ychwanegol, fe wna i dalu i ti y tro nesa bydda i’n mynd heibio.'
    "Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu’n gymydog i’r dyn y gwnaeth y lladron ymosod arno?"  Dyma’r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, "Yr un a wnaeth ei helpu."
    Yna dywedodd Iesu, "Dos dithau a gwna’r un fath."

  7. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddweud wrthych sut y byddai Iesu’n debygol o ddisgrifio’r bobl yn y llun.

Amser i feddwl

Rhowch gyfle i’r myfyrwyr edrych ar y lluniau a meddwl am y geiriau y gwnaethon nhw eu defnyddio wrth gyfeirio at y bobl sydd yn y lluniau.

Gweddi
Helpa ni i feddwl yn ofalus am y grym sydd yn y geiriau y byddwn ni’n eu defnyddio a meddwl am y ffordd y byddwn ni’n dweud pethau.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon