Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Caru Eich Hun

Trafod gobeithion a dyheadau’r myfyrwyr, a thrafod eu teimladau o hunan werth.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Trafod gobeithion a dyheadau’r myfyrwyr, a thrafod eu teimladau o hunan werth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen siart troi a phinnau ffelt, neu fwrdd gwyn.

  • Casgliad o ddilladau sy’n gysylltiedig â gwahanol bobl enwog. Er enghraifft, crys pêl-droed mawr gydag enw peldroediwr arno, crys T gydag enw seren pop enwog arno (fe ddylai’r rhain fod yn llawer rhy fawr, neu’n llawer rhy fach i’r disgyblion).

  • Iwnifform aelod o’r heddlu, gown pennaeth yr ysgol, cot wen meddyg.

  • Lluniau o bobl enwog (celebrities) sydd wedi bod yn llwyddiannus ar un adeg, ond wedi difetha eu bywyd wedyn.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddweud wrthych chi beth hoffen nhw fod pan fyddan nhw wedi tyfu’n oedolion.  Ysgrifennwch eu hawgrymiadau. Yna, dosbarthwch y swyddi dan dri phennawd: ‘Enwogrwydd’, ‘Gwasanaethau cyhoeddus’, a ‘Busnes’.

  2. Os yw eich ysgol unrhyw beth yn debyg i’m hysgol i, fe fydd y mwyafrif o’r myfyrwyr eisiau swydd fydd yn dod ag enwogrwydd iddyn nhw yn hytrach na swydd fydd yn cynnig cymorth i bobl eraill. Gofynnwch i’r myfyrwyr drafod pam y mae cymaint o bobl yn dymuno cael bod yn enwog.  Derbyniwch awgrymiadau, ond anwybyddwch i raddau unrhyw syniadau sy’n ymwneud â’r dymuniad i dderbyn cariad neu i ennyn edmygedd eraill.

  3. Yn awr gofynnwch pa un sydd bwysicaf: bod yn ganwr da neu fod yn feddyg da? Pa un, yn eu meddwl nhw, fyddai’n byw y bywyd hapusaf? 

    Dangoswch rai lluniau o enwogion o ‘fri’ sydd wedi gorfod ymdrechu gyda’u henwogrwydd, er enghraifft: Britney Spears, John Terry, Ashley Cole, George Best, ac eraill sy’n addas i’r cyfnod presennol. Gofynnwch a yw (neu a oedd) y bobl hyn yn hapus?

    Yn awr, meddyliwch am bobl eraill. Eich athrawon yma - ydyn nhw’n hapus? A yw eich meddyg yn hapus, tybed? Trafodwch enghreifftiau eraill, fel hyn.

    Trafodwch yr angen i allu bod yn hapus gyda chi eich hunan cyn derbyn cariad ac edmygedd pobl eraill. Heb hunan-barch fe fyddwn yn debygol o beidio â bod yn hapus, beth bynnag a wnawn.

  4. Gofynnwch i rai myfyrwyr i ddod atoch a gwisgo’r dillad sydd efallai yn perthyn i bobl enwog. A yw rhai ohonyn nhw’n ffitio? (Ceisiwch sicrhau nad ydyn nhw.) Mae angen i ni fod y bobl unigryw yr ydyn ni, ac fe fydd ein dillad ni ein hunain yn ein ffitio ni’n well na dillad pobl eraill. Gallwn edmygu pobl eraill a mwynhau cael ein diddanu ganddyn nhw, ond rhaid i ni gofio ein bod i gyd yn arbennig yng ngolwg Duw. Os defnyddiwn ni ein talentau neu ein doniau er lles eraill, yna gallwn ddweud ein bod wedi byw bywyd Cristnogol da.

  5. Yn y Beibl, fe ddywed Iesu mai’r ddau orchymyn pwysicaf ar gyfer byw bywyd Cristnogol yw ‘câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl ac â’th holl nerth’, ac i ‘garu dy gymydog fel ti dy hun’.

Amser i feddwl

Byddwch yn fodlon â chi eich hunan. Peidiwch â chwennych cymeradwyaeth pobl eraill.
Mae gormod o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, yn ei ddweud, ei brynu neu ei wisgo, yn cael ei ysgogi gan deimlad dwfn o gael ein derbyn gan eraill.
Mae Duw yn ein derbyn yn ddiamod, ac yng ngolwg Duw, rydym i gyd yn werthfawr ac amhrisiadwy.
Canolbwyntiwch ar hyn, ac ni fyddwch felly’n gwastraffu amser ac ymdrech i fod yn rhywun nad ydych chi.

Gweddi
Helpa ni i ddathlu’r byd amrywiol yma rydyn ni’n byw ynddo.
Rho gyfleoedd i mi ddysgu a dathlu gyda phobl sydd yn meddu ar wahanol ddoniau a galluoedd.
Gad i mi ymdrechu bob amser i gredu ynof fi fy hun a gwneud fy ngorau glas er lles y gymuned rydw i’n byw ynddi.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon