Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hunan Niweidio

Edrych ar y pwnc sensitif o hunanniweidio, yn y gobaith y bydd y rhai sy’n gwneud hynny yn gallu troi at rywun er mwyn cael help.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych ar y pwnc sensitif o hunanniweidio, yn y gobaith y bydd y rhai sy’n gwneud hynny yn gallu troi at rywun er mwyn cael help.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae angen sensitifrwydd eithriadol wrth gyflwyno’r gwasanaeth yma.

  • Awgrymir chwarae’r gerddoriaeth: ‘Frozen’ gan Madonna (ar gael yn rhwydd i’w lwytho i lawr).

Gwasanaeth

  1. Mae hunanniweidio yn bwnc tabw yn ein diwylliant ni. Mae’n rhywbeth does dim llawer o bobl yn siarad amdano, ond mae’n dod yn beth cyffredin. Credir bod un o bob deg yn eu harddegau yn niweidio eu hunain. Yn aml, fe fyddan nhw’n cael eu trin yn yr un modd ag unigolion sy’n gaeth i gyffuriau neu sy’n alcoholig. Maen nhw’n cael eu hystyried fel y rhai hynny sy’n tagu’r system gofal iechyd ar draul y rhai sydd wedi cael gwir anafiadau. Ond wrth ystyried faint o bobl ifanc sy’n ceisio niweidio’u hunain, ac wrth i ni ddod i ddeall seicoleg bersonol yn well, rydym yn sylweddoli bod agwedd fel hynny tuag at rai sy’n niweidio’u hunain yn agwedd anacronaidd neu’n agwedd gam amserol.

  2. Mae rhywfaint o’r agwedd honno tuag at y bobl yma’n deillio o natur ‘croes i reddf’ y weithred ei hun. Fyddai pobl sy’n weddol fodlon eu byd ddim, fel rheol, yn gallu deall beth sy’n gwneud i rai unigolion niweidio’u hunain. Ond, fe wyddom nad yw lwc dda mewn bywyd yn cael ei rhannu’n deg bob tro, ac ambell waith fe fydd gan rai ohonom broblemau rydyn ni’n methu eu datrys. Mae’r rhai hynny sy’n gweld eu hunain yn gaeth mewn sefyllfaoedd dychrynllyd, ac yn methu trafod eu problemau ag eraill, weithiau’n troi at hunanniweidio fel ffordd o gysuro’u hunain. Mae’r boen caled, sydyn, fel petai’n rhoi rhyw fath o ryddhad iddyn nhw, ac mae mecanwaith amddiffynnol y corff ei hun yn rhoi rhyw fath o gysur.

  3. Efallai mai dyma’r unig agwedd ar fywyd yr unigolyn hwnnw lle mae ganddo reolaeth arno, ac fe allai’r weithred hon ddatblygu’n rhywbeth caethiwus. Mae’r ffrwydrad o endorffinau, sef yr hormonau sy’n gwneud i chi ‘deimlo’n dda’, a ddaw ar ôl gwthio’r llafn yn fath o ergyd fel sydd i’w gael wrth gymryd cyffur. Gall fod yn deimlad braf o ryddhad ar y dechrau, ond a fydd yn datblygu’n arferiad caethiwus wedyn, ac a fydd o reidrwydd yn gwanychu’r unigolyn. Mae’r un sy’n niweidio’i hun yn gyson yn dod mor gaeth i’r torri ag y mae’r alcoholig yn gaeth i alcohol. Dydi sefyllfa fel hon ddim yn un dda i fod ynddi, a’r ffordd orau allan o’r sefyllfa yw trwy ymddiried mewn pobl eraill.

  4. Mae siarad gyda ffrind, neu rywun arall sy’n eich caru, neu efallai gyda chynghorwr mewn sesiwn gwnsela yn fodd o wella hunan barch, ac yn gallu datblygu teimlad parhaol o gael eich derbyn. Fe fydd hynny’n eich helpu i oresgyn yr awydd i niweidio eich hun ac yn help i ddatrys y broblem sy’n creu’r awydd hwnnw ynoch chi yn y lle cyntaf. Y peth pwysicaf i’w gofio am hunanniweidio yw eich bod nid yn unig yn niweidio eich hunan ond hefyd yn twyllo eich hunan. Mae’n achosi i’r corff ryddhau hormonau sy’n achosi rhywfaint o deimlad pleserus am foment, teimlad sy’n torri am ychydig ar sefyllfa annifyr. Ond, dydi hynny’n gwneud dim i ddatrys y broblem sy’n gwneud i’r dioddefwr deimlo mor isel ei ysbryd yn y lle cyntaf.

  5. Yn ffodus, mae’r agwedd yn dechrau newid o dipyn i beth yn y sefydliad meddygol ac yn y gymdeithas yn gyffredinol hefyd. Mae mwy o bobl erbyn hyn yn gweld gwerth mewn therapi o siarad er mwyn datrys problemau, a hynny’n cynnwys y rhai sydd heb broblemau meddyliol yn ogystal, ac mae cymdeithas hefyd yn fwy agored i wrando ar bobl yn siarad am eu problemau. Trwy’r pethau hyn i gyd, mae gobaith y bydd llai o achos i unigolion niweidio’u hunain.

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment am eich bywyd – yr agweddau da ar eich bywyd,
A’r agweddau sydd heb fod mor dda â hynny.

Meddyliwch am y bobl sy’n gwneud pethau cadarnhaol i chi yn eich bywyd,
Ac am y rhai hynny sy’n niweidio eich hunan-barch.

Nawr, meddyliwch am y bobl rheini sy’n eich caru chi.
Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am eu hwynebau, am eu lleisiau,
Ac am y teimladau da gewch chi pan fyddwch chi yn eu cwmni.

Ceisiwch dreulio amser bob dydd yn meddwl am y bobl rheini rydych chi’n teimlo’n ofalgar tuag atyn nhw, ac am y rhai sy’n dangos eu bod nhw’n ofalgar tuag atoch chi,
Trwy hynny, fe allwch chi gadw cydbwysedd rhwng y pethau sy’n dda yn eich bywyd a’r pethau sydd ddim cystal.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon