Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

India Mahatma Gandhi

Dangos sut y gall gweithredoedd unigolyn neilltuol symbylu pobl eraill, a gwneud gwahaniaeth mawr.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos sut y gall gweithredoedd unigolyn neilltuol symbylu pobl eraill, a gwneud gwahaniaeth mawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai lluniau o Mahatma Gandhi, fel cyfreithiwr, ac fel gwr sanctaidd.

  • Delweddau o fapiau o’r byd cyn oes Fictoria ac ar ôl y cyfnod Fictoraidd, yn dangos twf yr Ymerodraeth Brydeinig.

  • Bwrdd gwyn neu siart troi.

Gwasanaeth

  1. Trafodwch y ffaith bod yr Ymerodraeth Brydeinig wedi ehangu’n sylweddol yn ystod teyrnasiaeth y Frenhines Victoria (teyrnasiaeth ddaeth i ben yn 1901). Pwyntiwch at India ar y map, a dywedwch mai honno oedd un o’r gwledydd gyda’r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

  2. Roedd miliynau o bobl India yn byw bywydau tlawd a diflas. Nid yn unig yr oedd llawer ohonyn nhw’n casáu’r Saeson a oedd yn teyrnasu drostyn nhw, ond yr oedden nhw hefyd wedi eu rhannu’n grwpiau crefyddol gwahanol. Roedd pob un o’r grwpiau hyn yn credu nad oedd hi’n iawn i unrhyw un o’u crefydd nhw gael unrhyw beth i’w wneud â phobl o grefyddau eraill.

    Roedd llawer o bobl India yn dyheu am gael bod yn rhydd oddi wrth lywodraeth Brydeinig, a chael rheoli eu gwlad ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, roedd y Prydeinwyr yn fawr a holl-nerthol, a’r bobl yn India yn bell o fod yn gytûn i uno â’i gilydd (roedd gwrthdaro ymysg y grwpiau crefyddol yn India) i ffurfio mudiad fyddai’n gallu gwrthwynebu’r Prydeinwyr yn effeithiol.

    Beth oedd ei angen arnyn nhw yn y wlad oedd arweinydd, dyn a fyddai’n cael ei barchu a phobl yn ufuddhau iddo.

  3. Un diwrnod yn y flwyddyn 1914 camodd gwr o’r enw Gandhi oddi ar long oedd wedi teithio o Dde Affrica i Bombay. Roedd yn gwisgo gwisg draddodiadol India, gwisg wen laes.

    Pan gyrhaeddodd Gandhi India, roedd eisoes wedi cael ei gydnabod, ers cryn amser, yn gyfreithiwr parchus. Ac roedd wedi dod yn enwog am y modd y bu’n gweithio dros ddinasyddion o India a oedd yn byw yn Ne Affrica, a’u cynorthwyo i wella eu bywydau.

    Roedd Gandhi’n credu ei bod hi’n hanfodol i ddiddymu rheolaeth Prydain dros India. Beth feddyliwch chi wnaeth Gandhi i geisio cael y maen i’r wal? (Bydd y myfyrwyr yn dueddol o feddwl am brotestiadau treisgar, a rhyfel hyd yn oed,  efallai.)

  4. Eglurwch y byddai Gandhi wedi sylweddoli’n fuan na fyddai ei obeithion yn cael eu gwireddu, tra byddai pobl India yn ymladd ymysg ei gilydd. Roedd ganddo neges yr oedd yn ei hadrodd wrth ei bobl dro ar ôl tro. (Ysgrifennwch y neges hon fel yr ydych yn ei hadrodd, neu darparwch sleid ohoni.) Ei neges oedd:

    Rhaid i’r hen arfer yma o edrych i lawr eich trwyn ar bobl sydd o wahanol grefydd,  a gwahanol deuluoedd, ddod i ben.  Mae’n  amser bod yn garedig wrth bawb. Pan fyddwn yn edrych arnom ein hunain fel un bobl, gallwn droi ein sylw i ymladd y Prydeinwyr. 

  5. Gofynnwch i’r myfyrwyr unwaith eto, sut y maen nhw’n credu y llwyddodd pobl India i ddymchwel rheolaeth Prydain, yna ewch ymlaen â’r dyfyniad:

    Ond ni ddylem ymladd â gynau. Rhaid i ni ymladd gyda’n meddyliau. Rhaid i ni fod yn ddi-drais. Rhaid i ni wrthod ufuddhau'r Gyfraith Brydeinig. Pan ddaw'r milwyr atom i’n harestio rhaid i ni adael iddyn nhw wneud hynny. Rhaid i ni fynd i’r carchar dros yr hyn yr ydym yn ei gredu. Rhaid i ni ei gwneud hi’n amhosibl i’r Prydeinwyr aros yn India.

  6. Fe ddaeth llawer o bobl India i gredu yn Gandhi a dilyn ei ddysgeidiaeth. Roedden nhw’n edrych arno fel arweinydd mawr a chafodd yr enw ‘Mahatma’ (sy’n golygu ‘yr un mawr’) ganddyn nhw.

    Roedd egwyddorion Gandhi yn ei gwneud hi’n anodd iawn i’r Prydeinwyr reoli India. Yn fuan iawn, roedd disgyblion Gandhi wedi cynyddu i rai miliynau mewn nifer. Wnaethon nhw ddim llenwi’r ffurflenni y gofynnwyd iddyn nhw ei llenwi. Wnaethon nhw ddim talu trethi. Roedden nhw’n cyfarfod yn aml, a byddai’r arweinwyr yn siarad yn erbyn y cyfreithiau llym.

    Dros gyfnod o flynyddoedd, ymunodd mwy a mwy o bobl â Gandhi, gan fynnu bod gwlad India yn cael ei rhoi yn ôl i’w phobl. O’r diwedd, yn 1947, fe adawodd y Prydeinwyr i wlad India gael ei rheoli gan bobl India.

  7. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, doedd Gandhi ddim yn fodlon. Roedd ei bobl yn parhau’n rhanedig ac ni allai’r Hindwiaid a’r Mwslimiaid gytuno â’i gilydd. Roedd y Prydeinwyr wedi rhannu’r wlad yn ddwy ac wedi rhoi tiriogaeth i’r naill grwp a’r llall, ac o ganlyniad cafodd gwlad Pakistan ei chreu.

    Roedd Gandhi yn casáu’r rhaniad hwn ac fe fynegodd hynny lawer o weithiau. Roedd Gandhi eisiau cymod rhwng yr Hindwiaid a’r Mwslimiaid. Roedd llawer yn anghytuno ag ef, fodd bynnag, ac ar 30 Ionawr 1948, fe gafodd Gandhi ei lofruddio gan un o’i gyd-Hindwiaid.

  8. Trafodwch sut yr oedd Iesu hefyd yn ddyn a ddaeth â newidiadau mawr i fywyd pobl trwy brotest di-drais a dysgeidiaethau ar sut i fyw. Cafodd Iesu hefyd ei ddienyddio am yr hyn yr oedd yn ei gredu, a’r hyn yr oedd yn ei addysgu, oherwydd bod yr hyn roedd yn ei ddweud yn groes i’r hyn yr oedd pobl o rai grwpiau crefyddol ar y pryd yn ei addysgu. 

Amser i feddwl

Mae cael ffydd a chred yn ein hegwyddorion ein hunain yn bwysig iawn, ond mae’n hanfodol ein bod yn gallu derbyn safbwyntiau pobl eraill pan fyddan nhw’n wahanol i’n rhai ni. 
Ddylen ni ddim ymateb yn dreisgar tuag at bobl sy’n credu’n wahanol i ni, ond yn hytrach ceisio ymateb yn gadarnhaol.

Gweddi
Arglwydd, cynorthwya ni i sefyll dros y rhai colledig, y rhai sydd â neb yn eu caru, a’r  gorthrymedig.
Gad i’n gweithredoedd adlewyrchu cariad.
Cynorthwya ni i ddarganfod ffyrdd o wneud hyn,
a gad i ni beidio â cherdded ar ochr arall y ffordd gan osgoi’r broblem.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon