Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Democratiaeth

Helpu’r myfyrwyr i ddeall mai ystyr democratiaeth yw bod pobl yn gallu mynegi eu barn a dweud eu dweud.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddeall mai ystyr democratiaeth yw bod pobl yn gallu mynegi eu barn a dweud eu dweud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwnewch daflen syniadau sy’n gwahodd y myfyrwyr i gofnodi eu syniadau ar wella eu hysgol (dywedwch wrthyn nhw am fod yn foesgar, ond hefydi fod yn greadigol a mawreddog gyda’u syniadau!).

  • Mae’n bosibl y bydd llywodraethwyr yr ysgol â diddordeb gwirioneddol am y syniadau sydd gan y myfyrwyr ar sut i wella’r ysgol. Gadewch i’r Pennaeth wybod am y gwasanaeth hwn a gofynnwch iddo/iddi am gefnogaeth y llywodraethwyr.  Efallai yr hoffech chi wahodd un o lywodraethwyr yr ysgol i ddod i siarad am ei rôl yng ngweinyddiaeth yr ysgol gyda’r myfyrwyr.

  • Gallech wneud arddangosfa yn yr ysgol o safbwyntiau’r myfyrwyr neu hyd yn oed gynnal pleidlais ar ychydig o awgrymiadau y byddai’n bosibl eu gwireddu yn eich ysgol. 

  • Byddwch angen darllenydd ar gyfer y dyfyniad ymhellach ymlaen yn y gwasanaeth.

  • Paratowch raglen arddangos ‘PowerPoint’ o’r cymeriadau mwyaf enwog yn y llywodraeth sydd newydd ei sefydlu ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Os nad ydych wedi paratoi’r daflen syniadau o flaen llaw, gwnewch hynny i gychwyn y gwasanaeth.

  2. A welodd unrhyw un ohonoch y darllediadau o’r etholiad ym mis Mai? All rywun egluro beth y mae ‘Senedd Grog’ yn ei olygu?  Oeddech chi’n hapus gyda’r canlyniad? 

    Cyfleoedd i ni benderfynu ar y math o wlad yr ydym yn dymuno byw ynddi yw etholiadau.

  3. Mae gwledydd democratig yn cynnal etholiadau er mwyn ceisio newid eu gwledydd - er gwell. Rydym ni’n byw yn un o wledydd democrataidd hynaf y byd. Mae rhai haneswyr yn dadlau bod y symudiadau cyntaf tuag at sefydlu democratiaeth yn y wlad hon wedi digwydd pan gafodd cytundeb o’r enw ‘Magna Carta’ ei lunio yn y flwyddyn 1215. Roedd y cytundeb hwnnw’n gorfodi’r  Brenin John, brenin Lloegr ar y pryd, i ddiogelu rhai hawliau oedd yn perthyn i’w ddeiliaid, a chwtogi ei rym dan y gyfraith.

  4. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol hon, rydym am i chi feddwl am eich hoff bethau a’r pethau hynny nad ydych yn hoff iawn ohonyn nhw yn amgylchfyd yr ysgol hon.  Rydym yn awyddus i chi gael dweud eich dweud. Ydych chi’n credu bod hwn yn lle deniadol i fod ynddo? Oes yma ddigon o gyfrifiaduron ar eich cyfer chi? Oes gennych chi syniadau ar sut i wella’r ysgol hon? (Fe fydd eich sylwadau’n cael eu cyflwyno i lywodraethwyr yr ysgol ac fe fyddwch chi’n cael y cyfle i bleidleisio ar ba syniad y gellir gweithredu arno yn y dyfodol).

  5. Darllenydd: ‘Cyfrifoldeb llywodraeth yw ei gwneud hi’n anodd i bobl wneud pethau’n anghywir, ond hawdd i’w gwneud yn gywir,’ dyma beth ddywedodd William Gladstone, prif weinidog Rhyddfrydol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - ‘It is the duty of government to make it difficult for people to do wrong, easy to do right,’.

  6. Mae angen arweinwyr da ym mhob rhan o’n cymdeithas. Heb arweinwyr gwleidyddol da, fe fyddai deddfau yn cael eu pasio a fyddai’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl weithredu’n anghywir a pheidio ag wynebu cosb. Roedd Gladstone yn iawn pan eglurodd i beth y mae llywodraethau yn bodoli ar ei gyfer - mae arweinwyr da yn ei gwneud hi’n anos i wneud drwg ac yn haws i wneud da. Heb arweinwyr gwleidyddol da, byddai’r wlad yn disgyn i le ansefydlog, lle na fyddai’r tlotaf a’r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas yn derbyn unrhyw ofal. Mae llawer yn credu y dylai cymdeithas gael ei barnu ar y modd y mae hi’n gofalu am y rhai mwyaf anghenus a mwyaf bregus o’i phobl. Bydd llywodraeth dda yn rhyddhau pobl i gymryd cyfrifoldeb er mwyn gwneud daioni a gwrthsefyll pethau pan fydden nhw’n ddrwg.  

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a chymerwch saib.
Dangoswch y PowerPoint o’r llywodraeth newydd.
A allech chi wneud hyn rhyw ddydd? A all un ohonom, yma yn y gwasanaeth hwn, weithio fel gwleidydd, neu efallai yn y llywodraeth, neu hyd yn oed arwain y llywodraeth?
Neu, a allech chi yn y pen draw fod yn llywodraethwr ysgol, yn dylanwadu ar yr hyn    sy’n digwydd i blant a phobl ifanc fel chi, yn eu hysgol?
Does yna ddim rheswm pam na all hynny ddigwydd.

Gweddi
Rydym yn meddwl am ein harweinwyr - naill ai’r rhai sydd â grym gwleidyddol neu'r rhai hynny sy’n gwirfoddoli eu hamser i wasanaethu fel llywodraethwyr ysgol er mwyn helpu i redeg yr ysgol. Diolch i Ti am ddemocratiaeth sy’n darparu ffordd i ni gael dweud ein dweud.

Cerddoriaeth

Awgrymir chwarae cân ‘Things can only get better’ gan D:ream, neu un o’r darnau sy’n cael eu cysylltu â’r etholiad diweddar.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon