Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gynnau

Ystyried deddfau sy’n ymwneud a gynnau yng ngwledydd y Deyrnas Unedig, a meddwl am eu pwrpas.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried deddfau sy’n ymwneud a gynnau yng ngwledydd y Deyrnas Unedig, a meddwl am eu pwrpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Yn y flwyddyn 2012, bydd Llundain yn llwyfannu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paraolympaidd. Mae’r stadia a’r cyfleusterau yn cael eu hadeiladu yn awr, ac mae’r athletwyr yn brysur yn ymbaratoi. Un tîm sydd â threfn hyfforddi anarferol, fodd bynnag, yw’r tîm saethu. Mae gynnau yn cael eu gwahardd bron yn gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r gwaharddiad hwn yn cynnwys hyd yn oed y tîm saethu. Felly, maen nhw wedi bod yn hyfforddi yn y Swistir.

  2. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, cafodd pob math o ynnau eu gwahardd yn raddol. Mae’n rhaid cael trwydded a rheswm dilys iawn er mwyn cadw’r ychydig rai sy’n weddill, ac mae’n drosedd ddifrifol i beidio â dilyn y drefn honno. Cafodd y deddfau hyn i wahardd gynnau eu pasio yn wyneb nifer o ddigwyddiadau treisgar a thrasig. Yn 1987, saethodd dyn 16 o bobl yn farw yn nhref Hungerford, Swydd Berkshire. Yn 1997, lladdwyd 16 o blant ysgol oed cynradd a’u hathrawes yng nghyflafan Dunblane. Mewn ymateb i’r digwyddiad hwnnw cafodd drylliau llaw eu gwahardd, gynnau a oedd tan hynny yn bosib eu cadw dan drwydded gan eu perchnogion.

  3. Nid oes mudiad mawr yn y D.U. sy’n bleidiol i gadw gynnau. Gan y D.U. y mae rhai o’r deddfau rheoli gynnau llymaf sy’n bodoli, sy’n ymddangos eu bod yn cyd-fynd â dymuniadau’r bobl. Gellir cymharu hyn â’r Unol Daleithiau, lle mae’r Gymdeithas Reiffl Genedlaethol (National Rifle Association), sy’n cael ei harwain gan yr actor Charlton Heston, yn lobïo’n rymus iawn i gadw hawliau ynglyn â chadw gynnau.  Mae cyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn gwarantu’r hawl i bob unigolyn gario gynnau, cymal oedd, yn ei hanfod, yn galluogi milisia’r bobl (gwyr arfog) i amddiffyn y famwlad. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r Unol Daleithiau yn gymdeithas heddychol sy’n cael ei rheoli’n gyfreithiol ac yn cael ei hamddiffyn gan y lluoedd arfog mwyaf grymus yn y byd, felly cedwir gynnau gan bobl ar gyfer amddiffyn eu hunain neu i’w defnyddio mewn chwaraeon. Mae ysgolheigion Cyfansoddiadol yn trafod a oes yna reswm pam y mae’r Unol Daleithiau fodern angen yr hawl i gario gynnau, yn wyneb y niwed sy’n cael ei achosi i gymdeithas trwy gyfrwng troseddau yn ymwneud â gynnau. Wrth gwrs, nid yw hawl yn hawl o gwbl os yw’r llywodraeth yn gallu ei ddiddymu yn groes i ddymuniadau’r bobl.

  4. Mae’r bobl sydd o blaid gynnau yn dadlau nad gynnau sydd yn lladd pobl; pobl sydd yn lladd pobl. Mae gronyn o wirionedd yn yr honiad hwnnw. Offeryn yw gwn, ac i’w ddefnyddio, ar wahân i’r digwyddiadau prin o saethu damweiniol trasig, rhaid cael mesur o gymhelliad ac o fwriad. Ond ar y llaw arall, mae defnydd o ynnau yn galluogi rhywun i droi dadl neu anghytundeb yn rhywbeth llawer mwy brawychus. Un achos sy’n dangos hynny’n glir yw un Tony Martin, yn 1999, a ddarganfyddodd grwp o fyrgleriaid i mewn yn ei gartref. Roedd yn ddeilydd gwn dan drwydded ac fe ddefnyddiodd ei wn i saethu un byrgler yn farw fel yr oedd yn ceisio dianc. Mae’r achos hwnnw’n codi pob math o gwestiynau moesegol. Roedd hawl gan Martin i amddiffyn ei gartref. Ond mae’n anodd cyfiawnhau, yn y byd modern sydd ohoni, lladd byrgleriaid sy’n ceisio dianc. Roedd y ffaith bod Martin yn berchen ar wn yn ei osod mewn sefyllfa ble roedd yn abl, ac yn teimlo cyfiawnhad dros gymryd bywyd rhywun arall, pan nad oedd ei fywyd ef ei hun mewn perygl. Cafodd ei garcharu am ddynladdiad. Er ei fod wedi cael ei ddal yn dwyn, nid oedd y byrgler marw yn haeddu cael ei ladd yn y fath fodd. 

  5. Nid yw pobl bob amser yn synhwyrol. Mae llid, straen, neu drallod i gyd yn gallu bod yn ffactorau sy’n atal meddylfryd cyffredinol call. Gall gwn ladd rhywun yn hawdd mewn eiliad. Pe byddech yn gofyn i un sydd yn y carchar am droseddu â gwn sut y maen nhw’n teimlo am eu trosedd, byddai’r rhan fwyaf yn datgan eu bod yn edifarhau.

Amser i feddwl

Dim ond ychydig fisoedd sydd wedi pasio ers y saethu trasig yn Cumbria, gan ddyn oedd yn berchen ar arfau angheuol yn gyfreithiol. Sut ydych chi’n teimlo am ddeddfau sy’n ymwneud a gynnau?

Ydych chi’n credu ei bod hi’n iawn fod y wlad hon yn meddu ar ddeddfau mor llym yn ymwneud a gynnau?

A allech chi gyfiawnhau lleddfu’r deddfau – ynteu a fyddai hynny yn debygol o achosi cynnydd mewn trais â gynnau ac o ganlyniad, mwy o farwolaethau?

Mae crefyddau mawr y byd i gyd yn addysgu y dylem ymddwyn tuag at eraill fel y byddem yn dymuno i eraill ymddwyn tuag atom.  Pa ran sydd gan ynnau yn hynny?

Gweddi
Rydym yn cofio am yr holl bobl sydd wedi colli anwyliaid trwy gael eu lladd â gynnau.
Gweddïwn am fodd i ni ddatrys anawsterau ac anghydfodau heb droi at drais, trwy drafodaeth, deialog a chydweithio.
Boed i ni fod yn dangnefeddwyr, yn hytrach nag yn hebryngwyr trais, trwy gydol ein bywyd.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon