Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Buddugoliaeth Cariad

Myfyrio ar y ffaith y bydd cariad Duw yn fuddugoliaethus yn y pen draw, waeth pa mor fawr yw’r drygioni sydd yn y byd.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y ffaith y bydd cariad Duw yn fuddugoliaethus yn y pen draw, waeth pa mor fawr yw’r drygioni sydd yn y byd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. May the Force be with you.’  Efallai bod y ffilm wreiddiol wedi cael ei dangos am y tro cyntaf ymhell cyn i chi gael eich geni, ond cymaint yw enwogrwydd ffilmiau Star Wars fel fy mod i’n siwr y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gyfarwydd â’r dyfyniad.  Tra gallai technoleg ac effeithiau arbennig y ffilm wreiddiol (a ryddhawyd dan y teitl A New Hope) ymddangos yn hen-ffasiwn erbyn hyn, yn 1977 roedden nhw’n arloesol - doedd neb wedi gweld y fath beth cyn hynny.  O ychwanegu’r gerddoriaeth gyffrous a’r stori apocalyptaidd at hynny, nid yw’n syndod fod pobl wedi cael eu swyno erbyn iddyn nhw adael y sinema.  Daeth trioleg Star Wars yn feincnod diwylliannol eiconig yn niwedd yr ugeinfed ganrif, a daeth rhai o’r prif gymeriadau, Luke Skywalker a’r Darth Vader drwg, yn rhan annatod o isymwybod y cyhoedd, i’r fath raddau fod nifer o bobl wedi nodi mai ‘Jedi’ oedd eu crefydd yng nghyfrifiad 2001.

  2. Eto i gyd, gellid dadlau fod llwyddiant rhyfeddol ffilmiau Star Wars yn seiliedig ar eu hysbrydolrwydd cynhenid yn fwy nag ar effeithiau arbennig a dynion drwg oedd yn anadlu’n drwm - hynny yw, y ffordd roedden nhw’n crwydro i faes mytholeg grefyddol.  Mae’r ffilmiau yn cynnwys sawl elfen o lenyddiaeth apocalyptaidd y Beibl: er bod popeth fel pe bai’n ymddangos ei fod ar ben, mae’r ffyddlon yn fuddugol drwy ymddiried yn y ‘Grym’, neu’r Force - grym uwch sydd â’r rheolaeth eithaf. Ac yn Luke, wrth gwrs, mae gennym y ffigur Gwaredwr-Feseia.  Ond rhan ganolog y cyfanwaith yw’r gwrthdaro cosmig rhwng Da a Drwg - ar ffurf Luke a Darth Vader.

  3. Ond nid grym cosmig allanol yw Drygioni. Ar foment ingol ac enwog iawn yn yr ail ffilm, pan fydd Luc yn darganfod, er mawr syndod, iddo mai Darth Vader yw ei dad, mae’n rhaid iddo wynebu’r posibilrwydd fod gan ddrygioni’r potensial i fyw yn ei enaid ei hunan.  Yn adlais o’r stori Feiblaidd am yr angel a wrthryfelodd yn erbyn Duw, roedd Darth Vader ei hunan yn Jedi da cyn troi at yr Ochr Dywyll.

  4. O dan felodrama Star Wars, mae testun myfyrio o ddifrif.  Rydym yn byw mewn byd sydd yn gallu bod yn frawychus iawn, os ydym yn gwbl onest am y mater; byd lle mae grymoedd drygioni fel petaen nhw o’n cwmpas ni ym mhobman.  Rydym yn byw mewn byd lle mae dynion fel Josef Fritzl, y dyn a garcharodd ei ferch ei hun am nifer o flynyddoedd, a phobl ddrwg eraill yn tanseilio ein cred yn naioni’r ddynolryw; rydym yn byw mewn byd lle mae dynion a merched sy’n llawn casineb yn ceisio ffrwydro awyrennau yn yr awyr; rydym yn byw mewn byd lle mae cymaint o gasineb, anghyfiawnder ac ofn.

  5. A rhywbeth sy’n fwy brawychus byth – os oes gennym unrhyw ymwybyddiaeth o’n hunan – y byddwn ni’n gwybod fod hadau trais, casineb, dicter ac eiddigedd ynom ninnau hefyd.

  6. Ond tra bod hyn i gyd yn wir, mae Cristnogion yn credu mai cariad yw gwirionedd parhaus y bydysawd a’n bywydau ni ein hunain.  Dyma ein ffydd, dyma ein gobaith: efallai ein bod ni’n byw mewn byd brawychus, ond nid yw pobl sy’n arddel ffydd yn byw mewn ofn, gan fod cariad perffaith yn bwrw allan bob ofn.

  7. Mae’r hyder cadarn hwn yng nghariad Duw, a llawenydd dwfn, i’w weld ym mywydau nifer o Gristnogion. Gwrandewch ar eiriau Dr Desmond Tutu, Archesgob Emeritws Cape Town, De Affrica, sydd wedi treulio ei fywyd yn brwydro yn erbyn hiliaeth, anghyfiawnder a thrais, ond sydd wedi cadw’n driw at ei argyhoeddiad y byddai cariad yn trechu popeth yn y pen draw: Mae daioni yn gryfach na drygioni; cariad yn gryfach na chasineb; goleuni yn gryfach na thywyllwch; bywyd yn gryfach na marwolaeth. Ni fydd yn fuddugol, drwyddo Ef sy’n ein caru ni.

    Dyma’r dyfyniad yn Saesneg: Good is stronger than evil; love is stronger than hate; light is stronger than darkness; life is stronger than

            death. Victory is ours, through him who loves us.

Amser i feddwl

Mae’r darlleniad canlynol, sy’n dod o Lyfr y Datguddiad, y llyfr olaf yn y Beibl, yn adrodd stori buddugoliaeth yr Archangel Mihangel a’r angylion eraill yn erbyn y diafol (Satan) a grymoedd drygioni.  Mae’n ein hatgoffa o egwyddor sy’n rhan annatod o wneuthuriad y bydysawd: bydd daioni’n drech na drygioni yn y pen draw, waeth pa mor fawr yw’r drygioni hwnnw.  Waeth pa mor bwerus y mae grymoedd tywyllwch, casineb a marwolaeth yn ymddangos, bydd goleuni, cariad a bywyd yn eu trechu.

(Darllen Datguddiad 12.7–10)

Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig.  Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau, ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.  Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.

(Saib)

Nawr, ystyriwch sut y gallwch chi ychwanegu cariad at berthynas dywyll, a mannau tywyll.
Meddyliwch am y ffordd orau o wneud hynny, a thrwy hynny helpu eraill i ledaenu cariad yn hytrach na chasineb neu ddifaterwch.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon