Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Prinder

Archwilio effaith prinder ar wahanol boblogaethau ledled y byd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio effaith prinder ar wahanol boblogaethau ledled y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae hwn yn wasanaeth y gallai’r myfyrwyr ei arwain.

Gwasanaeth

  1. Trwy gydol hanes mae gwrthdaro a rhyfela wedi digwydd rhwng pobl sy’n uno gyda’i gilydd yn grwpiau. Fe fyddai aelodau’r grwpiau hyn yn uno â’i gilydd yn ôl nodwedd gyffredin, fel iaith, crefydd neu gynefin. Fe fyddai’r rhan fwyaf o’r gwrthdaro’n ymwneud â’r ymdrech i oroesi: oherwydd rhesymau fel prinder bwyd, dwr neu danwydd, a dim digon i bawb. Wrth gadw gyda’i gilydd fel grwp fe fyddai gwell pobl yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw’u hunain oroesi. Ond doedd honno ddim yn ffordd dda o fyw. Roedd y math yma o fywyd, fel y disgrifiodd yr athronydd Seisnig, Thomas Hobbes, ef yn fywyd ‘cas, bwystfilaidd a byr’ - ‘nasty, brutish, and short’. Fe allai perthnasau agosaf droi ar ei gilydd, a golygai hynny nad oedd bywyd byth yn ddiogel.

  2. Yn ffodus, dydi hyn ddim yn rhan o brofiad y rhan fwyaf ohonom. Yng ngwledydd Ewrop mae digon o fwyd i bawb. Er nad yw pawb yn gyfoethog, peth anarferol yw i rywun newynu yma. Rydyn ni’n gallu goroesi, o leiaf nes byddwn ni’n marw o achosion naturiol. Mae’r sicrwydd hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar bethau eraill fel addysg, chwarae a nwyddau traul.

  3. Eto, yn achos rhai pobl mewn gwledydd eraill, mae’r byd fel y disgrifiodd Hobbes ef yn parhau i fod yn rhywbeth real. Mae poblogaeth y byd yn chwe biliwn; er bod datblygiadau economaidd byd-eang wedi gwneud bywyd yn arwyddocaol ddiogelach i lawer, mae tua biliwn yn parhau i fod yn gaeth mewn tlodi llwyr ac sy’n ymddangos yn hollol ddiobaith. Dyma dlodi ar raddfa anodd ei dychmygu. Ceisiwch ddychmygu byw ar lai na $2 y dydd – tua £1.40 yw hynny. A dychmygwch, ar ben hynny, bod gennych chi blant i’w bwydo hefyd gyda’r swm hwnnw. Mae newyn a rhyfel yn aml yn tarfu ar fywyd y bobl hynny, bywyd sydd eisoes yn economaidd brin.

  4. Dagrau pethau yw bod modd atal llawer o’r trychinebau hyn beth bynnag. Yn y gorffennol, mater o anlwc oedd cynhaeaf gwael. Yn y byd modern, mae mudiadau fel ‘Green Revolution’ Norman Borlaug a’r farchnad fwyd fyd-eang yn gofalu bod digon o fwyd i allu goroesi cynhaeaf gwael. Gan ddechrau yn yr 1920au gyda’r Undeb Sofietaidd, mae llawer o’r newynau wedi digwydd o ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol maleisus neu anneallus. Mae hyn yn wir am y gwledydd cyfalafol yn ogystal â’r gwledydd comiwnyddol: pan fydd bwyd mewn ystordai a’r bobl dlawd yn methu ei fforddio, mae’n gyfystyr a phe na bai’n bod iddyn nhw.

  5. Mae digonedd yn achos gwerth ymrwymo iddo; mewn byd lle mae digonedd o fwyd, tanwydd a dwr, fydd y reddf ddynol ar ei gwaethaf ddim yn dod i’r amlwg mor aml. Prinder yw prif achos rhyfel, gwrthdaro a throsedd. Mae o fantais i bawb ofalu nad yw’r rhai hynny sy’n brin o bethau ddim yn brin am hir.

  6. Dros y misoedd diwethaf mae prinder cotwm wedi peri i un gwerthwr ar y stryd fawr, sydd ag enw am allu gwerthu pethau’n rhad, rybuddio y bydd prisiau’n codi’n fuan.

    Ond yn bwysicach, efallai, mae terfysg wedi bod mewn rhai gwledydd tlawd iawn, oherwydd bod y bobl ddim mwyach yn gallu prynu ymborth sylfaenol oherwydd y cynnydd yn y prisiau o achos prinder.

Amser i feddwl

Yn y Flwyddyn Newydd, efallai y byddwch chi’n cwyno wrth i brisiau godi, a phrisiau dillad newydd yn amlygu hynny.

Efallai y bydd eich bil am fwyd yn yr archfarchnad yn codi wrth i bris pethau fel bara godi, a hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod cynnydd ym mhris gwenith.

Fe fydd cynnydd ym mhris bwydydd i anifeiliaid yn golygu y bydd cig yn costio mwy.

Nawr, treuliwch foment neu ddwy yn meddwl y byddai’r un cynnydd hwnnw yng nghost gwenith yn golygu, yn achos rhai teuluoedd, eu bod yn brin o fwyd, ac y gallai hynny arwain at newyn a marwolaeth.

Sut y byddai’n bosib i ni, fel unigolion, newid ein ffordd o fyw a’r hyn y byddwn ni’n ei fwyta er mwyn lleddfu dioddefaint rhywun mewn gwlad bell?

Sut y gallaf fi newid fy arferion, o ran yr hyn y byddaf yn ei brynu, er mwyn i rywun arall gael bywyd gwell?

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon