Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Edrych Yn Ol Edrych Ymlaen

Ystyried y newidiadau sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf ar ddechrau degawd newydd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried y newidiadau sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf ar ddechrau degawd newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi.

Gwasanaeth

  1. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, roedd y byd yn unedig mewn optimistiaeth. Daeth diwedd ar wrthdrawiadau mawr a ddigwyddodd yn yr ugeinfed ganrif rhwng democratiaeth a ffasgaeth, a rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth. Roedd consensws byd-eang yn ymddangos: mai’n syml trwy fasnach rydd a democratiaeth gynrychioliadol yw’r ffordd orau ymlaen i unrhyw wladwriaeth.  Roedd ychydig o allgreigiau yn weddill, ond byddai’r rheini yn raddol yn cael eu sgubo i ffwrdd gyda thon o ryddid sy’n amlyncu’r byd. Yr athronydd Americanaidd, Francis Fukuyama, lwyddodd orau i ddal y teimlad cyffredinol hwn yn ei lyfr The End of History and the Last Man, a gyhoeddwyd yn 1992. Rhesymeg Fukuyama oedd bod yr ymgyrchoedd mawr a’r brwydrau ideolegol sydd wedi nodweddu hanes i gyd wedi eu datrys. Yn gam neu’n gymwys, roedd hi’n ymddangos fod yr Unol Daleithiau wedi sefydlu ei hun fel y genedl ddelfrydol: byddai’n dda i genhedloedd eraill eu hefelychu cyn agosed â phosibl.

  2. Cymharwch y syniad hwn o’r byd gyda’r hyn a welwn yn digwydd ynddo’n awr.  Mae llawer o wahaniaethau. Nid yr UDA yw’r unig archwladwriaeth yn y byd mwyach, yn fwyfwy mae barn a gweithredoedd Tsieina yn cyfrif.  Mae ton o wleidyddiaeth Islamaidd wedi lledaenu dros y Dwyrain Canol a thu hwnt, ac mae hynny’n her uniongyrchol i gonsensws economaidd a gwleidyddol y Gorllewin. Yn dilyn dymchweliad yr Undeb Sofietaidd o ganlyniad i ddiwedd y Rhyfel Oer, mae Rwsia unwaith yn rhagor yn genedl nerthol, falch.  Ac mae rhyfel, yn dilyn cael ei ystyried yn gyfeiliornad, yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn normal. Mae’r rhyfel byd-eang ar derfysg, heb amcan clir diffiniadwy na gelyn, yn golygu bod llawer o wledydd y Gorllewin, yn arbennig Prydain a’r UDA, mewn sefyllfa o ryfel barhaol. Mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar ryddid sifil: mae rhai llywodraethau wedi honni ei bod hi’n angenrheidiol i garcharu unigolion yn ddi-gyhuddiad a lansio ymgyrchoedd i lofruddio rhai sy’n cael eu hamau o fod yn elynion. Mae’r peryglon sydd ynghlwm wrth y math yma o feddylfryd yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn gan lawer o bobl.

  3. Yr hyn y mae’r ddegawd ddiwethaf wedi ei ddangos i ni, yn fwy na dim, yw bod y cyfnod rhwng diwedd y Rhyfel Oer a digwyddiadau Medi 11 - y digwyddiad a sefydlodd y patrwm o feddwl am weddill y ddegawd - ddim yn ‘Ddiwedd Hanes’, ond yn seibiant byrhoedlog pryd yr oedd un wladwriaeth yn casglu ynghyd ddigon o rym i fod yr unig archwladwriaeth yn y byd. Ar raddfa fyd-eang, ni welwyd cyfnod tebyg o’r blaen, ac o bosib ni welir cyfnod tebyg eto. Ond ni wastraffwyd optimistiaeth y cyfnod. Gwnaed datblygiadau mawr mewn technoleg yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Mae’r rhyngrwyd wedi ymestyn dros y byd, ac o ganlyniad yn addo perthynas newydd rhwng y ddynoliaeth a gwybodaeth, ac yn datblygu cymdeithas newydd yn ei sgil. Rhyddhaodd yr ‘Human Genome Project’ fap cyflawn o’r corff dynol yn 2003, gan addo ymestyniadau newydd mewn meddygaeth ac athroniaeth.

  4. Yn olaf, ffaith nodedig am y ddegawd ddiwethaf yw bod bywyd wedi gwella i niferoedd lawer o bobl.  Mae’r twf aruthrol yn economïau Tsiena ac India wedi creu dosbarth canol allddodol yn y gwledydd enfawr hyn. Yn Ne America, sydd ers amser yn cael ei gyfrif fel cyfandir lle nad oedd yn llewyrchus iawn ei economi, rydym yn awr yn gweld gwledydd fel Brasil, yr Ariannin a Chile yn datblygu i chwarae eu rhan ar y llwyfan byd-eang. Ond fel y mae cyfoeth wedi cynyddu, ac yn ei dro wedi’i gleisio hefyd gan y creisis cyllidol ar ddiwedd y ddegawd, mae cwestiynau yn cael eu codi am effeithiau pellgyrhaeddol y ddynoliaeth ar yr amgylchfyd naturiol. Gyda chonsensws mawr gwyddonol yn cael ei adeiladu o gwmpas y ddamcaniaeth o gynhesu byd-eang, daw yn amlwg y bydd amcanion pobl ar gyfer y ddegawd nesaf yn gorfod cwmpasu perthynas fwy cytûn gyda’r byd sydd o’n hamgylch. 

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll ac oedwch.

Meddyliwch am y deng mlynedd ddiwethaf o’ch bywyd – efallai y byddwch yn cael trafferth i gofio’n ôl gymaint o amser â hynny!

Allwch chi gofio 9/11 (11 Medi 2001) yn glir, neu ydi eich meddwl wedi’i glymu yn y ffilm o’r digwyddiad yr ydym yn ei gweld yn aml?

Sut y gallwn ni ddefnyddio digwyddiadau’r deng mlynedd ddiwethaf ac adeiladu’n gadarnhaol arnyn nhw?

Yn awr, ystyriwch eich bywyd dros y deng mlynedd nesaf. Mae hi bron yn amhosibl meddwl ymhle y byddwch chi, na beth fyddwch yn ei wneud ar ddechrau 2021!

Meddyliwch am y cyfeiriad yr hoffech chi ei gymryd.

Yn awr penderfynwch ar dri pheth a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno. Ysgrifennwch y tri pheth hynny i lawr yn rhywle saff, ar ôl y gwasanaeth hwn. A daliwch ati i edrych ar y targedau hynny.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Y gân ‘Fragile’ gan Sting, ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon