Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Addunedau

Meddwl am beth mae’n ei olygu i wneud ‘adduned’, yn enwedig yng nghyd-destun Blwyddyn Newydd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am beth mae’n ei olygu i wneud ‘adduned’, yn enwedig yng nghyd-destun Blwyddyn Newydd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y clip fideo o Big Ben. Bydd gan bawb ei atgofion ei hun am beth wnaethon nhw wrth groesawu’r flwyddyn newydd, ac fe fydd llawer ohonom yn cofio gwrando ar y cyfrif fel y cyfrif ar y clip fideo.

  2. Tybed faint ohonoch chi a ddefnyddiodd ddechrau Blwyddyn Newydd fel cyfle i wneud Addunedau Blwyddyn Newydd. Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo. Fyddwch chi ddim yn gofyn beth oedd yr addunedau hynny, ond mae’n debyg mai pethau fel ‘gweithio’n galetach neu ymddwyn yn well yn yr ysgol oedd rhai ohonyn nhw!
  1. Mae nifer o ddiffiniadau o’r gair adduned, neu ‘resolution’, i’w cael mewn gwahanol eiriaduron. Y prif rai sy’n briodol ar gyfer y Flwyddyn Newydd yw: 

    – y stad neu’r ansawdd o fod yn benderfynol; penderfyniad cadarn;
    – penderfynu gwneud rhywbeth;
    – penderfynu ar ffordd o weithredu.
  1. Yn 2010, mae arolygon wedi dangos mai’r deg uchaf o Addunedau Blwyddyn Newydd ymysg oedolion oedd:

    Mwynhau bywyd yn well (34.4%)
    Colli pwysau neu fynd ar ddiet (24.4%)
    Bod yn fwy ffit / dechrau ymarfer (22.3%)
    Dysgu rhywbeth newydd (22.2%)
    Dod o hyd i wir gariad (21.6%)
    Cael swydd well (18.7%)
    Cynilo arian (18%)
    Talu fy nyledion (16.2%)
    Mynd ar daith arbennig (13.6%)
    Lleihau straen (10.6%)

    Yn dilyn y deg yma, fe ddaeth: Treulio rhagor o amser gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu; Rhoi’r gorau i ysmygu;  ac yfed llai o alcohol.
  1. Mewn arolwg ymysg myfyrwyr ysgolion uwchradd, dyma oedd y prif Addunedau Blwyddyn Newydd . . . Tybed ydych chi’n gyfarwydd â rhai o’r rhain!

    Bwyta llai o felysion
    Bod yn fwy clên gyda fy chwaer! (a brodyr hefyd!)
    Gwella fy sgiliau cyfrifiadurol
    Gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol
    Gwella fy sgiliau chwarae tennis
    Bod yn fwy clên gyda fy nghariad
    Siarad llai yn y dosbarth

  2. Mae ffigurau’n dangos bod y rhan fwyaf o Addunedau Blwyddyn Newydd yn cael eu torri cyn diwedd mis Ionawr - llawer ohonyn nhw erbyn yr ail o Ionawr! Mae seicolegwyr yn dweud mai’r rheswm am hyn yw oherwydd ei bod yn gosod nod rhy uchel i ni ein hunain. Yn y bôn, maen nhw’n bethau dydyn ni ddim eisiau eu gwneud mewn gwirionedd. Efallai ein bod yn hoffi’r syniad y bydden ni’n colli rhywfaint o bwysau pe bydden ni’n bwyta llai o bethau melys, ond pe bydden ni’n hollol onest fe fyddai’n well gennym fwyta lot o siocledi a phob math o felysion!
  1. Oherwydd y ffaith ein bod ni’n methu cadw'r addunedau, dydyn ni ddim mewn gwirionedd eisiau eu cadw, mae nifer o elusennau a mudiadau iechyd yn awr yn awgrymu y dylen ni wneud addunedau y mae gennym ni ryw fath o obaith cadw atyn nhw, ac a fyddai ar yr un pryd o fudd i rywun arall hefyd mewn rhyw ffordd. Dyma awgrymiadau: 

    - Penderfynwch wneud rhywbeth bob dydd (neu unwaith neu ddwy yr wythnos hyd yn oed) a fydd yn dda i’r amgylchedd, e.e. diffodd goleuadau dydyn ni ddim yn eu defnyddio, cerdded i’r ysgol yn hytrach na chael ein cario mewn car, ailgylchu rhyw bethau na fyddwn ni’n arfer trafferthu eu hail gylchu.
    - Gwnewch ryw weithred garedig o leiaf unwaith yr wythnos, e.e. rhannu bar o siocled gyda rhywun, golchi’r llestri, cynnig golchi’r car, ac ati.
    - Rhowch ganmoliaeth i rywun sy’n haeddu hynny.
    - Gwenwch ar bobl, neu ddweud helo wrth rai na fyddech yn eu cydnabod fel arfer.
    - Rhowch arian at elusen, neu wneud rhywfaint o waith gwirfoddol.
  1. Mae’r syniad o’r math yma o adduned wedi’i grynhoi mewn adnod yn y Beibl. 

    Mae’r adnod sydd yn Llythyr Paul at y Philipiaid 2.4 yn dweud, ‘Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.’ Gall peth bychan fel gwên neu ganmoliaeth wneud gwahaniaeth mawr i rywun.

  2. Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ni wneud adduned. Pam na ddilynwch chi un o’r awgrymiadau hyn a gweld a allwch chi wneud gwahaniaeth er gwell i fywyd rhywun arall?

Amser i feddwl

Mae gan bob un ohonom ddewis bob dydd a ydyn ni’n meddwl am bobl eraill a’u hanghenion, neu’n meddwl amdanom ni ein hunain yn unig. Fe fydd y rhan fwyaf ohonom wedi gwneud adduned i wneud rhywbeth fydd yn dda ar ein lles, neu adduned i roi’r gorau i wneud rhyw bethau neilltuol - er ein lles ni ein hunain. Ac fe fydd nifer ohonom wedi methu cadw’r addunedau rheini! Treuliwch foment i feddwl am yr awgrymiadau uchod. Oes rhyw un peth y gallech chi ei wneud er mwyn gwneud y byd yn well lle i rywun arall?

Gweddi  
Annwyl Dduw,
Helpa ni i beidio ag anghofio bod pobl eraill yn bwysig hefyd.
Helpa ni i beidio â bod mor brysur yn meddwl am ein hanghenion ein hunain fel eu bod yn anghofio am y bobl eraill sydd o’n cwmpas.
Helpa ni addunedu i roi pobl eraill yn gyntaf ac i fynd ati i wneud y byd yn well lle i fyw ynddo.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon