Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Ffactor X

Meddwl am gariad, a chydnabod mai’r ‘rhywbeth anniffinadwy’ hwnnw yw cariad a charu, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am gariad, a chydnabod mai’r ‘rhywbeth anniffinadwy’ hwnnw yw cariad a charu, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: delwedd o logo’r rhaglen The X Factor (gwiriwch yr hawlfraint).

  • Gong, symbalau neu unrhyw offeryn taro swnllyd.

  • Darlleniad o’r Beibl: 1 Corinthiaid 13.1–8a.

Gwasanaeth

  1. Faint ohonoch chi fu’n gwylio’r rhaglen deledu The X Factor? Nifer fawr! Dim rhyfedd, gan fod rhifau gwylio’r sioe wedi cyrraedd 19.7 miliwn yn 2009- dyna gynulleidfa o 64 y cant o’r holl bobl sy’n gwylio’r teledu .
    Rhag ofn bod rhywun sydd ddim yn gwybod hynny, cystadleuaeth Brydeinig yw’r X Factor lle mae cantorion yn cymryd rhan mewn clyweliadau i ymgeisio am le mewn cystadleuaeth flynyddol, a gychwynnodd ym Medi 2004.
    Y beirniaid, Simon Cowell, Louis Walsh, Dannii Minogue a Cheryl Cole sydd â’r dasg enfawr o feirniadu’r cannoedd sy’n awyddus i gymryd rhan, ac maen nhw’n dechrau ar y broses trwy gynnal clyweliadau yn y rhan fwyaf o ddinasoedd mawr Prydain. Wedyn, fe fydd rhai o’r cystadleuwyr gorau (a rhai o’r rhai gwaelaf hefyd, ambell dro, yn ôl pob golwg!) yn cael mynd drwodd i’r rownd nesaf, ac i’r ‘boot camp’, lle maen nhw’n cael eu hyfforddi i ganu’n well, edrych yn well, dawnsio’n well a hyd yn oed i ymddwyn yn well!

    Mae’n gadarnhaol iawn bod cyfle’n curo ar ddrws pobl ifanc cyffredin iawn ac yn gyffrous iawn eu gweld yn cael siawns i ddatblygu eu cariad amlwg at ganu. Ond, ymysg y cyfan, yn y frwydr am y safle, mae dos fawr o gynnwrf emosiynol, ymffrost a chynnen. Mae’r da sy’n amlwg yn y broses yn gallu hefyd amlygu’r elfen waethaf mewn pobl!

  2. Felly, beth yw’r ‘X factor’? ‘X factor’ y sioe deledu yw’r ‘peth anniffinadwy hwnnw sy’n eich gwneud yn seren’. Fe fydd Cheryl Cole yn cyfeirio at y peth hwnnw fel rhywbeth na allwch chi roi eich bys arno’n union. Mae’n anodd i ni ddweud felly os yw’r ffactor yma gennym ni ai peidio!

  3. Gallai’r apostol Paul yn y Beibl fod wedi gwneud beirniad da ar banel yr X Factor. Fe ddaeth Paul i gysylltiad â phobl oedd yn gallu siarad pob math o ieithoedd, pobl oedd yn gallu proffwydo’r dyfodol yn hynod o gywir, a phobl ddoeth iawn. Roedd rhai â chymaint o ffydd fel y gallen nhw wneud unrhyw beth - hyd yn oed symud mynyddoedd! Ac roedd eraill wedi rhoi’r gorau i bopeth oedd ganddyn nhw er mwyn mynd i ofalu am bobl dlawd. Ydi, mae hynny’n swnio’n dda iawn.

    Tarwch beth bynnag sydd gennych chi fel offeryn taro a gwnewch swn mawr!

    Dyna beth oedd Paul yn ei feddwl o’r cyfan! 

    Darllenwch 1 Corinthiaid 13.1-8a (fe allech chi drefnu i un o’r myfyrwyr ddarllen):

    ‘Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar. Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim. Ac os rhof fy holl borthiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hynny ddim lles i mi.

    Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.

    Nid yw cariad yn darfod byth.’

    Yn achos Paul, cariad yw’r ffactor X. Fe fydd pob un o’r pethau eraill yn mynd heibio ac yn darfod, meddai, fel ein hatgofion ninnau am yr enillwyr a’r rhai fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth yr X Factor yn 2010, 2009, 2008, 2007, 2006, 2005 ac yn 2004.

  4. Cariad – a yw’r gair cariad yn ffitio gyda’r ddau ddiffiniad o’r ‘X factor’?
    ‘Cariad . . . yw’r ‘peth anniffinadwy hwnnw sy’n eich gwneud yn seren’.
    ‘Cariad . . . yw’r ‘rhywbeth hwnnw na allwch chi roi eich bys arno’n union’.
    Os yw’r diffiniad y ffitio, yna rwy’n credu fy mod i’n adnabod sawl seren. Beth amdanoch chi?

Amser i feddwl

Meddyliwch am rywun rydych chi’n ei adnabod y mae ei gariad, neu ei chariad, tuag atoch chi wedi gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd.
Ydi’r ffactor y mae Paul yn cyfeirio ato gennych chi?

Beth am geisio meithrin y peth hwnnw!

Gweddi
Diolch i ti fod ym mhob un ohonom y ddawn enfawr honno i allu caru a gofalu am bobl eraill.
Diolch i ti am y bobl rheini y mae eu ffactor X wedi cyffwrdd ein bywydau mewn ffyrdd cadarnhaol.
Helpa ni i ddal ar bob cyfle sy’n dod i’n rhan er mwyn i ni allu datblygu’r ddawn o garu.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Fe allech chi lwytho i lawr un o’r traciau y mae un o enillwyr y gystadleuaeth X Factor wedi ei recordio ar y thema cariad.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon