Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sain Distawrwydd

Myfyrio ar arwyddocâd distawrwydd.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar arwyddocâd distawrwydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fersiwn gerddorfaol o waith John Cage, 4’33’’ (y darn cerddoriaeth y mae ei deitl yn cael ei ynganu fel ‘Four minutes, thirty-three seconds’ neu, fel mae’n well gan y cyfansoddwr ei hun gyfeirio ato fel ‘Four, thirty-three’). Fe allwch chi edrych ar y fideo o’r darn wrth fynd ar y wefan: https://www.youtube.com/watch?v=81EQ16UqhZg.

  • Mewn clip fideo arall mae’r cyfansoddwr John Cage yn trafod arwyddocâd distawrwydd, edrychwch ar: https://www.youtube.com/watch?v=pcHnL7aS64Y.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch bawb i ddychmygu eu bod mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol. Yn y llif olau ar ganol y llwyfan mae piano mawr hardd, piano traws (neu grand piano). Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith newydd gan gyfansoddwr o’r enw John Cage. Mae’r gerddoriaeth mewn tair rhan, a theitl y darn yw 4’33’’. Mae’r gynulleidfa’n cymeradwyo wrth i’r pianydd gyrraedd y llwyfan. Mae’n gosod tudalennau o bapur gwyn glân o’i flaen ar y piano. Ar ôl saib, mae’r pianydd yn cau clawr y  piano ac yn codi ei law dde fel pe byddai’n paratoi i ganu’r piano. Am  30 eiliad, does dim i’w glywed ar wahân i swn y gwynt yn chwythu trwy’r coed y tu allan i’r neuadd gyngerdd. Mae’r pianydd yn agor y clawr eto am foment, ac yna’n ei gau am gyfnod eto. Mae’n ymddangos unwaith eto fel pe byddai’n mynd i ganu’r piano, ond eto does dim swn. Yr hyn sydd i’w glywed yw swn y glaw’n taro ar y to. Eto, mae’r clawr yn cael ei agor a’i gau. Erbyn hyn mae’r bobl o’ch cwmpas yn dechrau anesmwytho ac yn sibrwd: ‘Beth sy’n digwydd?’ Mae rhai yn ddig ac yn codi a mynd allan. Ar ôl pedwar munud a thri deg tri eiliad, mae’r clawr yn cael ei agor eto ac mae’r perfformiad wedi dod i ben.

  2. Eglurwch eich bod newydd ddisgrifio perfformiad cyntaf o waith John Cage, 4’33’’ yn Efrog Newydd yn y flwyddyn 1952. Fe ddaeth y darn yn enwog ac roedd hefyd yn ddarn dadleuol iawn. Weithiau mae pobl yn cyfeirio at y gwaith fel darn distaw. Er hynny, beth rydych chi’n ei glywed wrth wrando ar 4’33’’ yw gwahanol seiniau ar hap. Wrth gael ei gyfweld yn ddiweddarach yn ei fywyd fe ddywedodd John Cage: ‘People expect listening to be more than listening . . . I love sounds just as they are.

  3. Meddyliwch am y ffaith, er bod pobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i 4’33’’, mae’r darn yn gwahodd pawb i wrando ar gerddoriaeth eu hamgylchfyd ac i ddarganfod sain distawrwydd.

  4. Cyfeiriwch at sut y gwnaeth ymgyrch Facebook, ‘Cage against the Machine’ ym mis Tachwedd 2010, geisio annog pobl i brynu recordiad o 4’33’’ yn hytrach na’r sengl a fyddai’n cael ei rhyddhau gan enillydd y  gystadleuaeth X-Factor yn fuan wedyn. Oedd hi’n bosib i 4’33’’gyrraedd rhif un y siartiau erbyn y Nadolig ? Tybed sut y byddai’n ‘swnio’ fel rhan o raglen radio?

  5. Gwahoddwch aelodau o gymuned yr ysgol i feddwl am eu profiad o ddistawrwydd. Holwch ac ystyriwch:

    A fyddai distawrwydd yn ein helpu i werthfawrogi’r byd o’n cwmpas yn well?

    Mae dywediad yn Saesneg sy’n nodi y cewch chi rai adegau pan fydd distawrwydd yn gallu dweud mwy na geiriau -  ‘silence speaks louder than words.’

    Er enghraifft, mewn adegau o brofedigaeth, mae distawrwydd yn gallu mynegi undod a chyfleu’r galar rydych chi’n ei rannu.

    Ambell dro, fe all distawrwydd wneud i chi deimlo’n anghysurus.

    Eto, mae rhai pobl yn sôn am wrando arnoch chi eich hun, a defnyddio distawrwydd fel modd o gynyddu eich hunanymwybyddiaeth.

    Ac mae rhai pobl ffydd yn credu ei bod hi’n bosib i Dduw siarad trwy ddistawrwydd. Tybed beth mae hynny’n ei olygu?

    Fyddai’r bugeiliaid yn stori’r Nadolig wedi clywed ‘cerddoriaeth y nefoedd’ yn llonyddwch y  nos?

    Roedd John Cage yn dadlau mai sain sy’n golygu dim yw cerddoriaeth - ‘music is sound that doesn’t mean anything’. Beth yw eich barn chi?

    . . . Neu,  a oes ystyr i’w gael yn sain distawrwydd?

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy mewn distawrwydd. Neu, edrychwch ar y recordiad fideo o 4’33’’ (yn amodol ar yr hawlfraint).

Fe ddywedodd John Cage mai’r profiad gorau ganddo o sain yw’r profiad o ddistawrwydd, ‘The sound experience I prefer to all others is the experience of silence.’

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘Sound of Silence’ gan Simon and Garfunkel, ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon