Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arwyr

Helpu’r myfyrwyr i ystyried y syniad o arwyr, yn enwedig wrth feddwl am y rhai a oedd wedi eu caethiwo ac a achubwyd o’r mwynglawdd yn Chile.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ystyried y syniad o arwyr, yn enwedig wrth feddwl am y rhai a oedd wedi eu caethiwo ac a achubwyd o’r mwynglawdd yn Chile.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gyflwyniad PowerPoint o gymeriadau hanesyddol, a rhai o’r cyfnod presennol, sy’n cael eu hystyried yn arwyr. Fe allech chi gynnwys gofodwyr, fel Neil Armstrong, mynyddwyr, fel Sir Edmund Hillary (a oedd nid yn unig y dyn cyntaf i ddringo mynydd Everest, ond hefyd i sefyll ar Begwn y Gogledd a Phegwn y De), Nelson Mandela, Martin Luther King, Ghandi, Aung San Suu Kyi ( arweinydd yr wrthblaid yn Burma, a ryddhawyd yn ddiweddar o arestiad ty), pobl enwog eraill o’r byd milwrol a dderbyniodd fedalau am ddewrder, fel Private Johnson Beharry, a phobl enwog o fyd chwaraeon, fel David Beckham. Gofalwch gynnwys nifer dda o ddynion a merched. Fe allech chi hefyd gynnwys uwch arwyr o fyd ffuglen, fel Batman, Spiderman, Superman, Iron Man, ac ati.

  • Er mwyn cael hanesion ysbrydoledig am arwyr, edrychwch ar y wefan Pride of Britain Awardshttp://www.prideofbritain.com/. Fe allech chi weld enghraifft wedi’i dramodeiddio o un o’r hanesion arwrol  trwy edrych ar https://www.youtube.com/ a theipio’r geiriau ‘Pride of Britain Awards’.

  • Os ydych chi am weld erthygl am un o’r mwyngloddwyr o Chile a gweld gwir arwriaeth, edrychwch ar: https://www.christian.org.uk/news/video-jesus-was-the-real-hero-of-trapped-chilean-miners/.

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n gallu enwi’r bobl sy’n ymddangos yn y cyflwyniad PowerPoint? Pa eiriau y gallech chi eu defnyddio i ddisgrifio’r bobl hyn? Mae llawer o bobl yn eu hystyried yn ‘arwyr’. Beth yw arwyr? (Yma, fe allech chi ddangos clip fideo o hanes y mwynwyr o Chile’n cael eu hachub – gwelwch y gwefannau uchod, ond cofiwch wirio’r hawlfraint.)

  2. Mae arwyr yn cael eu cydnabod a’u dathlu fwyfwy yn ein cymdeithas heddiw:

    Caiff y rhaglen The Pride of Britain Awards ei darlledu bob blwyddyn ar ITV, ac mae’n dathlu arwyr anenwog o bob rhan o’r wlad. Fe fydd nifer fawr o sêr enwog yn bresennol yn y digwyddiad, pob un wedi dod ynghyd i ddathlu bod y bobl gyffredin hyn wedi gwneud rhywbeth anghyffredin. Fe fydd y categorïau’n amrywio o blant a phobl ifanc dewr i aelodau o’r gwasanaethau brys, athrawon a gofalwyr sydd wedi gweithredu y  tu hwnt i’w dyletswydd.

    Mae ‘Help for Heroes’ yn elusen enwog sy’n darparu gwell cyfleusterau i rai o’r gwasanaeth milwrol Prydeinig a anafwyd mewn  rhyfeloedd.

    Fe ddaeth y 33 mwyn gloddiwr, a oroesodd 69 diwrnod wedi’u caethiwo o dan y ddaear mewn mwynglawdd yn Chile y llynedd, yn arwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

  3. Pobl gyffredin yw arwyr, sy’n meddu ar rinweddau fel dewrder a gobaith, sy’n ostyngedig, yn anhunanol ac yn barod i wasanaethu eraill. Maen nhw’n ysbrydoliaeth i bawb ac mae gan bob un ohonom le i ddysgu ganddyn nhw ynghylch sut i wneud y byd yn well lle i fyw ynddo.

  4. Mae arwyr yn cydnabod bod ambell achos yn bwysicach na budd personol, er enghraifft y rhai hynny sy’n barod i beryglu eu bywyd eu hunain er mwyn achub bywydau pobl eraill. Enghraifft amlwg o hynny fyddai hanes . . . [soniwch am enghraifft arwrol ddiweddar].

    A yw pobl yn dal i gydnabod arwyr? Nid yw pob arwr yn cael ei gydnabod. Mae’n bosib, erbyn hyn, nad yw arwyr o ryfeloedd yn Affganistan ac Irac yn cael eu cydnabod yn yr un ffordd ag arwyr yr Ail Ryfel Byd. Pa orchestion arwrol sy’n dal sylw pobl yn ein hoes ni heddiw? Fe fydd ambell arwr yn colli ei statws wrth wneud camgymeriadau yn eu bywyd personol – er enghraifft, Tiger Woods y golffiwr enwog.

  5. Mae arwyr yn helpu i siapio ein cymdeithas trwy ddangos i ni beth sy’n wirioneddol werthfawr mewn bywyd. Ond, a yw’n anoddach heddiw i arwriaeth wneud argraff ar yr unigolyn cyffredin? Mewn diwylliant cyfryngol o negeseuon cyflym, Facebook, Twitter ac iPhones, mae cyfnod canolbwyntio pobl yn mynd yn gyfyng, ac mae sêr hunan-geisiol yn dod yn ‘arwyr’ y dydd. Beth yw barn y myfyrwyr am hyn? Ydyn nhw’n cytuno? Ydyn nhw’n meddwl bod hyn yn beth da neu’n beth drwg? All pobl adnabod ‘arwr’ pan fyddan nhw’n gweld un?

  6. Pwy yw ein harwyr ni erbyn hyn? Chefs enwog, fel Gordon Ramsay neu Jamie Oliver? Beirniaid rhaglenni fel yr X Factor, fel Cheryl Cole neu Simon Cowell? Roedd Simon Cowell yn bresennol yn y noson wobrwyo The Pride of Britain Awards ac fe ddywedodd beth fel hyn, ‘These awards are far superior to the Brits and the Baftas. I genuinely believe it’s the best award ceremony of the year. It makes you realize exactly what life is about and what people have to overcome.’ Roedd yn credu mai’r bobl a oedd yn cael eu gwobrwyo y noson honno oedd y gwir arwyr.

Amser i feddwl

‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.’
(Ioan 15.12–13)

Mae llawer o bobl nodedig wedi gwneud pethau a ddylai ein hysbrydoli. Fodd bynnag, ein dyletswydd ni yw cydnabod eu harwriaeth trwy wneud i hynny fod yn ysbrydoliaeth i ni a’n herio ni i fod yn bobl well. Mae gwir arwyr yn dangos i ni beth sy’n foesol werthfawr, a’r hyn sydd ddim felly. Bydd Cristnogion yn credu mai Iesu yw’r arwr pennaf, yr un a ddangosodd gariad rhyfeddol Duw tuag atom ni.

Mynnai un o’r mwyn gloddwyr oedd wedi’u caethiwo yn y mwynglawdd yn Chile, José Henriquez, nad oedd ef ei hun yn arwr, er gwaetha’r ffaith iddo gael ei ganmol am helpu ei gydweithwyr. Roedd Henriquez  yn arwain sesiynau astudio’r Beibl ddwy waith y dydd yn ystod yr amser pan oedden nhw’n gaeth o dan y ddaear, ac fe fu’n nodedig am gysuro’r dynion ar adeg anodd iawn. Fe fu’n gyfrwng i ddod â llonyddwch, Duw, ac undod i mewn i sefyllfa anodd. Ond ni fynnai glod am hynny. Dadleuai mai i Iesu Grist yn unig y mae’r clod yn perthyn: ‘Iesu yw’r unig arwr a ddylai gael ei gydnabod,’ meddai José Henriquez. ‘Heb sôn am unrhyw beth y mae unrhyw un wedi’i wneud y tu mewn neu’r tu allan i’r mwynglawdd yma, Iesu yw’r un sy’n haeddu’r anrhydedd a’r gogoniant.’

Gweddi
Arglwydd Dduw, diolch i ti am ysbrydoliaeth mwyn gloddwyr Chile.
Bydded i’w dewrder arwrol ein hysbrydoli ni i gyd.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch un o’r traciau a recordiwyd gan ‘The Soldiers’, ar gael i’w lwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon