Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

William A Kate

Helpu’r myfyrwyr i feddwl am y briodas frenhinol rhwng y Tywysog William a Kate Middleton, ac ystyried pa mor bwysig yw ymrwymiad mewn perthnasoedd.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i feddwl am y briodas frenhinol rhwng y Tywysog William a Kate Middleton, ac ystyried pa mor bwysig yw ymrwymiad mewn perthnasoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd fodrwy briodas, tystysgrif addewid, tystysgrif graddio, tlws chwaraeon (casglwch y gwrthrychau eu hunain neu set o luniau’r rhain ar gyflwyniad PowerPoint).

  • Llun o’r cwpl brenhinol. Fe allech chi hyd yn oed ddangos y clip YouTube o’r cyfweliad gyda’r ddau wedi iddyn nhw gyhoeddi eu dyweddïad.

  • Er mwyn cael dewis o amrywiaeth o gerddoriaeth briodasol i’w llwytho i lawr, edrychwch ar y wefan: https://www.poemhunter.com/poems/marriage/

Gwasanaeth

  1. Dangoswch i’r myfyrwyr yr enghreifftiau (neu’r delweddau) sydd gennych chi o eitemau sy’n cynrychioli ymrwymiad, a holwch beth sy’n gyffredin yn achos yr eitemau hyn. Yr ateb yw eu bod yn symbolau o achosion o ymrwymiad.

  2. Ar 16 Tachwedd 2010, cyhoeddwyd bod y Tywysog William a’i gariad Kate Middleton yn mynd i briodi. Bydd y briodas ar 29 Ebrill 2011, yn Abaty Westminster, Llundain. Fe fydd y diwrnod hwnnw’n ddiwrnod o ddathlu ac yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol. Roedd y ddau wedi dyweddïo ym mis Hydref tra roedden nhw ar eu gwyliau mewn rhan anghysbell o wlad Kenya.

  3. Dichon y bydd nifer y gwylwyr ledled y byd a fydd yn gallu gwylio’r darllediad o’r briodas yn cyrraedd hyd at 4 biliwn. Mae hyn tua dwy ran o dair o boblogaeth y byd, ac mae’n debyg mai’r darllediad hwn fydd y darllediad mwyaf mewn hanes, erioed! A bydd y niferoedd gwylio’n uwch hyd yn oed gyda’r gwylio ar lein a thrwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.

  4. Y Tywysog William yw’r ail yn y llinell ar gyfer gorsedd Prydain ac mae’n ddigon posib y cawn ni ei weld yn frenin yn ein hoes ni. Yn y flwyddyn 2001 y gwnaeth Kate ac yntau gyfarfod gyntaf, tra roedd y ddau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol St Andrews, yn yr Alban. Ar ôl eu priodas, mae’r ddau’n bwriadu parhau i fyw ar Ynys Môn yng Nghymru, lle mae’r tywysog yn beilot yn y Gwasanaeth Chwilio ac Achub gyda’r Llu Awyr.

  5. Yn wahanol i rai o’r parau brenhinol yn y gorffennol, fe gafodd William a Kate ryddid i benderfynu drostyn nhw’u hunain ynghylch eu priodas. Chawson nhw ddim eu gorfodi i briodi. Fe oedodd y ddau am sbel er mwyn gofalu eu bod ill dau yn sicr o’r ffordd ymlaen ar gyfer eu bywyd. Cafodd Kate ei llysenwi’n ‘Waity Katy’ gan y cyfryngau wrth iddi aros yn amyneddgar i William ofyn iddi fod yn wraig iddo. Mae llawer o bobl yn credu nad peth i ruthro iddo yw priodas, ond yn hytrach rhywbeth i’w benderfynu’n bwyllog a doeth ar ôl llawer o feddwl ac ambell weddi efallai. Mae priodasau rhai o sêr byd y cyfryngau, yn anffodus, yn adlewyrchu’r hen ddywediad Saesneg, ‘Marry in haste, repent at leisure.’

  6. Yng nghanol yr holl gyfaredd, y gwychder a’r seremoni ar ddiwrnod y briodas, mae’n hawdd anghofio mai gwir ystyr yr achlysur yw ymrwymiad personol dwys rhwng dau unigolyn, am oes. Tra bydd diwrnod eu priodas yn ddigwyddiad gwych, mae eu hymrwymiad i’w gilydd yn llawer pwysicach. Mae ymrwymo i rywun neu rywbeth yn weithred gref iawn. Mae’n ymwneud â phenderfyniad, cryfder mewnol ac angerdd. Gall newid eich bywyd! Mae’r dewisiadau y byddwn yn eu gwneud yn llunio’n bywydau ni, yn enwedig pwy neu beth rydyn ni’n dewis ymrwymo iddo.

  7. Caiff eich ymrwymiad ei roi ar brawf - yn ddyddiol. Bydd llawer o bobl yn  gwneud addunedau Blwyddyn Newydd i ymuno â champfa neu ganolfan chwaraeon er mwyn ceisio cadw’n ffit. Ond efallai y byddan nhw’n rhoi’r gorau iddi cyn mis Chwefror am ei fod yn gofyn am ormod o hunanddisgyblaeth i fynd i’r ganolfan i wneud yr ymarferion.

    Fe allwn ni brofi methiant ac wynebu siomedigaeth a fydd yn herio ein hymrwymiad. Yn aml, mae’n amhosib cynnal ymrwymiad sydd wedi ei gytuno heb lawer o ystyriaeth. Rhaid i ni gyfrif cost yr ymrwymiad cyn ymrwymo, ac wedyn bod yn bendant gyda’r penderfyniad a sefyll yn gadarn ar ôl hynny gyda’r hyn rydyn ni wedi addo ei wneud. Mae hyn yn hynod o wir am ymrwymiad gydol oes fel priodas, ac mae’r un mor wir am unrhyw berthynas. Yn y cyfweliad teledu a gafodd William a Kate ar y diwrnod y cyhoeddwyd eu dyweddïad, fe ddywedodd y tywysog bod eu cyfeillgarwch gwir a da yn sylfaen gadarn ar gyfer eu priodas. Mae cyfeillgarwch da yn seiliedig ar ymrwymiad, felly hefyd briodas dda.

  8. Felly, pa un ai ymrwymiad i weithio’n galetach yn yr ysgol, ymrwymiad i ofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd ag anabledd neu afiechyd, neu ymrwymiad i gariad neu wr neu wraig sy’n cael ei wneud, mae ymrwymiad yn rhywbeth gwerth chweil!

    Heddiw, fe fydd pob un ohonom efallai yn gorfod gwneud penderfyniadau a fydd yn costio rhywbeth i ni ac yn effeithio ar eraill - ein ffrindiau neu aelodau ein teulu o bosib. Ein dewisiadau yw’r unig bethau y gallwn ni eu rheoli. Wrth ganolbwyntio ar y dewisiadau hyn, rydyn ni’n rheoli’r ymrwymiadau.

    Y flwyddyn nesaf, yn Llundain, pan fydd yr athletwyr Olympaidd yn dod i’r stadiwm yn ystod y seremonïau agoriadol, fe fyddan nhw’n adrodd y frawddeg ganlynol: 'I have prepared. I have followed the rules. I will not quit.'

    Pan fyddwn ni’n gallu dweud rhywbeth felly yn hollol onest, fe fyddwn ni’n gallu teimlo’n dda amdanom ein hunain, waeth beth fydd yn digwydd wedyn.

Amser i feddwl

Pa un ai ydych chi’n aelod o’r teulu brenhinol ai peidio, gadewch i ni ofalu bod ein perthnasoedd bob amser wedi’u hadeiladu ar gariad, ymddiriedaeth, hapusrwydd ac ymrwymiad.

Gweddi
Diolch bod y Tywysog William a Kate Middleton eisiau cyflwyno’u hunain i’w gilydd trwy eu priodas ar 29 Ebrill.
Bendithia’r ddau, a bydded iddyn nhw fwynhau llawer o flynyddoedd o gariad a hapusrwydd gyda’i gilydd.
Helpa ni i ddysgu pa mor werthfawr yw ymrwymiad yn ein bywyd a’n perthnasoedd ni ein hunain.

Cerddoriaeth

Chwaraewch un darn o gerddoriaeth briodasol rydych chi wedi’i ddewis i’w lwytho i lawr.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon