Peidiwch Ag Ofni
Meddwl am y gorchymyn ‘peidiwch ag ofni’ a’r addewid y ‘bydd popeth yn iawn’.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am y gorchymyn ‘peidiwch ag ofni’ a’r addewid y ‘bydd popeth yn iawn’.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi deunyddiau.
Gwasanaeth
- Tybed allwch chi ddyfalu beth yw’r ymadrodd mwyaf cyffredin yn y Beibl?
Yn Saesneg , dau air cyntaf yr ymadrodd fyddai ‘Do not’... Peidiwch â gwneud y peth yma, a pheidiwch â gwneud y peth arall .... - Wedi fy nghlywed i’n dweud hyn, fe fydd llawer ohonoch chi’n meddwl yn syth am y Deg Gorchymyn - paid â lladrata, paid â bod yn eiddigeddus o’th gymydog, na chwennych ei dy, na’i wraig, na’i was, na’i forwyn, na’i anifeiliaid na dim sydd yn perthyn iddo, ac - ymysg pethau eraill - paid â lladd neb. “Na ladd.” “Na ladrata.” ac ati. Mae’n ymddangos fel rhybuddion ynghylch beth ddylem ni beidio â’i wneud. Fel arfer, pan welwn ni rybudd gyda’r geiriau peidiwch â gwneud rhywbeth, mae’n gyfarwyddyd i roi rhywbeth i lawr neu i’n rhwystro rhag gwneud rhywbeth a fyddai’n beryglus neu’n niweidiol i ni. Fodd bynnag, cyfarwyddiadau yw’r Deg orchymyn ar sut i fyw, a sut i gydfyw’n well gyda phobl eraill. Mae’r Deg Gorchymyn yn ddeddfau pwysig: dyma pam y mae’r deddfau sy’n llywodraethu ein gwlad a’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn seiliedig yn fras ar y gorchmynion hyn.
Yn wir, mae cyfarwyddiadau ‘Peidiwch â’ yn ymddangos yn aml iawn yn yr Hen Destament ac yn y Beibl cyfan drwyddo draw, ac mae nifer fawr ohonyn nhw’n ymwneud â phob math o bethau, yn cynnwys bwyd a dillad. - Ond, mae’r un geiriau yn cael eu defnyddio yn aml mewn ystyr arall yn y Beibl hefyd, a’r ymadrodd ar yr adegau hynny’n rhoi darlun gwahanol i ni o’r Duw sy’n dweud wrthym am beidio â gwneud y peth yma a’r peth arall. Fe roddaf un neu ddwy o enghreifftiau i chi o’r adegau y defnyddiwyd yr ymadrodd arall yma, sy’n dechrau â’r un geiriau. Allwch chi ddyfalu beth yw’r ymadrodd yn yr achosion hyn?
Yr angel Gabriel yn ymddangos i Mair i roi gwybod iddi ei bod yn mynd i gael babi, ac mai Iesu fyddai ei enw.
Yna, yr un angel yn ymddangos i’r bugeiliaid ar ochr bryn y tu allan i ddinas Bethlehem.
Mae Iesu’n defnyddio’r un ymadrodd wedyn i gysuro’r disgyblion wrth dawelu’r storm.
Clywodd Paul lais Duw yn dweud yr un geiriau wrtho cyn iddo gael ei roi ar brawf.
Ydych chi wedi gallu dyfalu beth yw’r ymadrodd dan sylw y tro yma? Yr ateb yw: ‘Paid ag ofni’, neu ‘Peidiwch ag ofni’ - ‘Do not be afraid’, a dyna’r ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio amlaf yn y Beibl. Caiff ei ddweud hyd at 365 o weithiau, wrth wahanol bobl, ar bob math o wahanol adegau: pan fydd rhai yn wynebu marwolaeth, yn wynebu Duw ei hun, neu hyd yn oed dim ond yn wynebu rhai digwyddiadau rhyfeddol. - Mae’n neges ddigon syml, ond eto mae’n neges sydd ag ystyr arbennig iawn iddi. Pan fydd rhywun yn ofni rhywbeth, mae wedi dychryn, yn ofnus ac yn ansicr. Mae bod ag ofn yn gallu ein rhwystro rhag gwneud pethau, a’n dal yn ôl. Beth fyddai wedi digwydd pe byddai Mair wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth yr angel Gabriel gan sgrechian mewn braw? Gall ofn uchder neu ofn y tywyllwch, neu ofn pethau fel nadroedd ein dal yn ôl. Gall hyd yn oed ofn rhywbeth sy’n ddieithr i ni, neu rywbeth dydyn ni ddim yn ei ddeall fod yn ddigon i ni osgoi pobl sy’n wahanol i ni neu sefyllfaoedd newydd.
- Yr hyn mae Duw’n ei ddweud wrthym ni yn y Beibl yw y dylem ni deimlo’r ofn ond eto fynd ymlaen er gwaethaf hynny! Mae’n dweud wrthym am beidio â chael braw, peidio â dychryn, ac os gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd popeth yn iawn, yna fe fydd pethau’n iawn. Felly, y tro nesaf y byddwch yn teimlo’n ofnus o rywbeth neu rywun, cofiwch yr ymadrodd ‘Paid ag ofni’, a cheisiwch eich gorau i goncro’r arswyd. Efallai na fydd pethau mor ddrwg ac y gwnaethoch chi feddwl ar y dechrau y bydden nhw.
Amser i feddwl
Rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl, dioddefodd merch o’r enw Julian, a oedd yn byw yn ymyl Norwich, afiechyd difrifol. Ar ôl iddi wella, fe ysgrifennodd lyfr am ei phrofiad pan oedd mewn coma. Roedd wedi cael gweledigaeth a’r geiriau canlynol yn rhan o’r weledigaeth: ‘All will be well, and all will be well, and all manner of things will be well.’
Roedd Julian yn byw mewn adeg o ryfel a haint. Felly os gwnaeth hi deimlo mai dyma addewid Duw iddi hi, fe allwn ninnau hefyd ystyried y geiriau hyn hyd yn oed ar yr adegau pan fydd pethau ddim yn dod yn rhwydd i ni yn ein bywyd.
Goleuwch gannwyll, ac ailadroddwch eiriau Julian, yna oedwch i feddwl.
Gweddi
Helpa fi i fod yn ddewr, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd iawn.
Pan fydda i’n teimlo’n unig,
Pan fydda i’n oer ac yn newynog,
Pan fydda i’n wynebu penderfyniadau anodd.
Helpa fi i beidio ag ofni.
Helpa fi i wybod sut i symud ymlaen yn y ffordd iawn.