Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

50 Mlynedd Yn Ol Yn Hanes Y Gofod

Ystyried hanes bywyd a chyflawniad y bod dynol cyntaf i fynd i’r gofod, a myfyrio ar wneud y gorau o bob cyfle.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried hanes bywyd a chyflawniad y bod dynol cyntaf i fynd i’r gofod, a myfyrio ar wneud y gorau o bob cyfle.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema, ac eglurwch mai’r bod dynol cyntaf erioed i fynd i’r gofod oedd y cosmonot Sofietaidd, Yuri Gagarin, a hynny ar 12 Ebrill 1961, ychydig dros 50 mlynedd yn ôl.

    Os teimlwch fod angen hynny, eglurwch y termau canlynol - ‘Sofiet’: ymerodraeth dan arweinid Rwsiaidd yn y ganrif ddiwethaf; a ‘cosmonot’: y gair Sofietaidd am ofodwr, rhywun sy’n teithio i’r gofod.

  2. Cafodd Yuri Gagarin ei eni ar 9 Mawrth 1934, mewn pentref bach yn Rwsia. Gweithio ar fferm yr oedd ei rieni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd eu pentref gan fyddin Hitler, a phan aeth y milwyr Almaenig oddi yno fe wnaethon nhw daflu’r bobl allan o’u cartrefi. Bu raid i deulu Gagarin dyllu lloches iddyn nhw’u hunain yn y ddaear i oroesi gaeaf oer a chaled Rwsia. Dim ond wyth oed oedd Yuri bryd hynny.

  3. Ar ôl dechrau ofnadwy fel hwn i’w fywyd, fe ddechreuodd pethau wella i Yuri Gagarin, a oedd wrth ei fodd gydag awyrennau a’r syniad o hedfan. Yn 1950, pan oedd yn ddim ond 16 oed, anfonwyd ef i ffatri ym Moscow i ddysgu sut i gynhyrchu dur. Fe wnaeth argraff ar y penaethiaid yno, ac fe roddwyd cyfle iddo gael hyfforddiant gyda thechnegau arbennig. Ymunodd ag ‘AeroClub’ y ffatri a dysgodd hedfan awyrennau, ac ar ôl hynny cafodd ei ddewis yn beilot i hedfan jetiau milwrol y Llu Awyr Sofietaidd.

  4. Un diwrnod fe ddaeth ymwelwyr dieithr i’r man lle roedd Yuri’n gweithio, yn chwilio am beilotiaid i wneud gwaith a oedd yn gwbl gyfrinachol. Fe wirfoddolodd sawl un - beth bynnag oedd y gwaith roedd yn ymddangos yn gyffrous iawn - ond roedd y profion mor anodd roedd llawer o’r peilotiaid yn methu. Ond nid Yuri! Fe basiodd Yuri yr holl brofion, ac roedd wrth ei fodd pan ddeallodd ei fod wedi cael ei ddewis i fod yn gosmonot - a chael cyfle efallai i deithio i’r gofod.

  5. Trafodwch y peryglon a fyddai yn ymwneud â hedfan i’r gofod:

    -   Mae tanwydd roced yn llosgi ar dymheredd uchel iawn, ac fe allai’r camgymeriad lleiaf achosi ffrwydradau enfawr.

    -   Yna, mae anawsterau anferth ynghylch cadw person yn fyw mewn gwactod yn y gofod.

    -   Yn 1961, roedd technoleg yn gyntefig iawn o’i gymharu â safonau heddiw; doedd dim cyfrifiaduron ar y llong ofod, dim cyfrifianellau hyd yn oed. 

    -   Doedd neb yn gwybod beth fyddai peryglon effaith ymbelydredd wrth hedfan yn y gofod oherwydd fe fyddai’r cosmonot yn hollol ddiamddiffyn rhag ynni llawn yr haul.

    -   Doedd neb yn gwybod ychwaith beth fyddai peryglon yr effaith ar fod dynol o fod am gyfnod maith yn ddi-bwysau wrth droi o gwmpas yn y gofod.

    -   Doedd gwyddonwyr ddim hyd yn oed yn gwybod yn iawn a allai bod dynol oroesi taith i’r gofod.

  6. Dewiswyd ugain o beilotiaid, ac un ohonyn nhw fyddai’r person cyntaf erioed i adael y Ddaear a hedfan i’r gofod - pwy fyddai’r un hwnnw?

    Roedd Yuri’n ymgeisydd perffaith mewn sawl ffordd: roedd yn hwyliog ac yn gallu delio â pheryglon, roedd yn beilot da iawn, ac roedd yn deall egwyddorion hedfan yn y gofod yn dda. Ond, roedd un nodwedd arall yn perthyn i Yuri Gagarin: roedd yn ddyn byr! Roedd hynny’n golygu ei fod yn un o ddau beilot a oedd yn ddigon bychan o gorffolaeth i ffitio i mewn i gapsiwl y llong ofod fach y Vostock 1 (roedd mwy o le yn y fersiynau diweddarach). Ac roedd yn ddyn gweddol ysgafn hefyd - ac mae pob cilogram yn cyfrif wrth i chi geisio troi o gwmpas y Ddaear!

  7. Felly, wedi’i wasgu i mewn i’r capsiwl bychan, ar ben roced bwerus, taniwyd Yuri Gagarin i’r gofod. Fe gylchynodd y Ddaear mewn ychydig dan ddwy awr - y person cyntaf erioed i wneud hynny, yr un a oedd wedi teithio gyflymaf erioed, ac a oedd wedi teithio bellaf erioed, ac wrth gwrs y person cyntaf erioed i adael y Ddaear a mynd i’r gofod. 

    Ond, bu bron iawn iddo fethu â dod yn ôl! Roedd y llong ofod Vostock 1 wedi’i chynllunio’n ardderchog. O dan y capsiwl yr oedd Yuri Gagarin i fod i deithio yn ôl ynddo, roedd modiwl gwasanaeth. Ac yn ôl y cynllun, wrth iddo ddod yn ôl roedd y ddwy ran i fod i wahanu. Fe deithiau’r capsiwl yn ôl i’r Ddaear ac fe fyddai’r modiwl gwasanaeth yn cael ei adael ar ôl i losgi wrth iddo ddychwelyd i atmosffer y Ddaear.

    Fe wahanodd y capsiwl oddi wrth y modiwl fel y cynlluniwyd, ond fe ddaliodd un wifren ynghlwm. Dechreuodd y capsiwl droelli’n gyflym ac yn hollol ddi-reolaeth. Roedd posibilrwydd y byddai Yuri a’r capsiwl yn llosgi’n ulw wrth i atmosffer y Ddaear boethi’r llong ofod wrth iddi wibio ymlaen. Ar ôl deg munud, ac ar y foment olaf, fe losgodd y wifren a thorri. Yn ffodus felly, ar ôl hynny, fe wnaeth y capsiwl sefydlogi digon i Yuri allu agor ei barasiwt.

    Ac, yn unol â’r cynllun, fe ddaeth Yuri Gagarin allan o’r Vostock 1, ac fe laniodd y dyn cyntaf i fynd i’r gofod yn ôl ar y Ddaear yn ddiogel - wyneb yn wyneb a nifer o weithwyr fferm wrth eu gwaith!

Amser i feddwl

Beth ydych chi’n ei feddwl o stori’r dyn cyntaf i fynd i’r gofod? Ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan yr hanes:
gan ddewrder y gofodwr, 
gan y cyflawniad technegol rhyfeddol, 
gan y stori gyffrous y bu bron iddi ddiweddu’n drychinebus?

Mae teithio i’r gofod yn beryglus ac yn gostus.
Ydych chi’n ystyried ei fod yn beth da i ddynoliaeth wneud hynny?

Roedd Yuri Gagarin yn dod o gefndir tlawd; 
fe oroesodd ryfel ofnadwy a ddinistriodd ei gartref 
i ddod yn un o bobl bwysicaf y byd.
Un rheswm am ei lwyddiant oedd ei ddiddordeb angerddol mewn awyrennau a hedfan.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi i weithio’n galed a chyflawni eich gorau?

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon