Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhyfel Cyfiawn

Archwilio’r cysyniad o ‘ryfel cyfiawn’.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o ‘ryfel cyfiawn’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai y bydd angen i chi addasu’r cyfeiriad at Libya a’r Cyrnoliaid Gadaffi.

  • Fe allwch chi lwytho i lawr rai lluniau nodweddiadol o ryfeloedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu luniau o’r mannau lle mae byddin y D.U. yn ceisio cadw’r heddwch neu’n ymwneud â rhywfaint o frwydro.

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol i chi arddangos yr amodau dros ryfel cyfiawn wrth i chi eu rhestru a’u trafod.

Gwasanaeth

  1. Nid yw blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif ar hugain wedi bod yn heddychlon iawn yn y byd. Mae’r D.U. wedi bod yn ymwneud â dau ryfel mawr, ac mae’n ymddangos ein bod ar fin ymwneud â thrydydd rhyfel hefyd. Mae fel petai’n norm i fod wrthi’n rhyfela mewn dau ryfel ar y tro. Mae ein harweinwyr yn dweud wrthym fod y rhyfeloedd hyn wedi dechrau am fod angen iddyn nhw ddigwydd, a bod yn iawn i’n gwlad weithredu. Er bod rhyfel y peth mwyaf erchyll i ymwneud ag ef, rydyn ni’n draddodiadol wedi ystyried bod ambell ryfel yn fater o raid.

  2. Rhaid i ‘ryfel cyfiawn’ gwrdd ag amryw o amodau. Dyma’r amodau: 

    – rhaid bod achos cyfiawn, hynny yw, rhaid i’r rhyfel fod yn ymateb i weithred ddieflig neu ymosodiad, er enghraifft, i ail-ddal tir a gollwyd mewn goresgyniad anghyfiawn; 
    – rhaid i’r ochr gyfiawn fod yn amlwg yn foesol uwchraddol i’r ymosodwr; 
    – rhaid i’r rhyfel fod wedi ei dechrau gan arweinydd dilys a derbyniol neu awdurdod cyfreithlon – mewn termau ymarferol, negyddu hawl unbeniaid anghyfreithlon i alw rhyfel – a rhaid i fwriad yr arweinydd hwnnw fod yn gadarn; 
    – rhaid ceisio atebion heddychol yn gyntaf cyn tanio’r gwn;
    – rhaid bod siawns resymol o lwyddiant, ac er mwyn gwerthuso hynny, rhaid i’r nodau fod yn hollol glir;
    – rhaid pasio barn na fydd rhyfel yn dod â mwy o ddrygioni na’r drygioni sydd eisoes yn cael ei ddioddef.

  3. Caiff yr Ail Ryfel Byd ei ddefnyddio’n aml fel enghraifft o ryfel cyfiawn, o safbwynt y cynghreiriaid. Er enghraifft: 

    – dechreuwyd y rhyfel mewn ymateb i ymosodiad Natsiaidd, i amddiffyn cenhedloedd sofran democrataidd;
    – dangoswyd rhagoriaeth foesol amlwg y cynghreiriaid yn rymus wrth iddyn nhw gipio gwersylloedd carcharu Treblinka ac Auschwitz-Birkenau; 
    – fe geisiodd Prydain a Ffrainc ddelio â Hitler cyn mynd i ryfel.

  4. Er hynny, waeth pa mor gyfiawn yw achosion y rhyfel, mae’r ffordd y mae rhywun yn brwydro mewn rhyfel yn bwysig hefyd: 

    - ni ddylid targedu dinasyddion yn benodol (er, yn yr oes fodern, mae hyn yn llai syml, er enghraifft wrth dargedu ffatrïoedd arfau rhyfel); 
    - ni ddylid annog unrhyw weithredu sy’n debygol o achosi marwolaeth i ddinasyddion yn dorfol, waeth beth fydd potensial yr ennill milwrol;
    - unwaith y bydd byddin y gelyn wedi’i gorchfygu, dylid rhoi’r arfau i lawr a pheidio â dial yn erbyn cenedl y gelyn sydd wedi’i orchfygu.

  5. Wrth gymharu’r Ail Ryfel Byd gyda’r ail grwp o feini prawf, mae’r achos yn ymddangos yn llai du a gwyn. 

    - Roedd ymgyrchoedd bomio dinasyddion yn rhan o strategaeth y naill ochr a’r llall. Yn achos bomio dinas Dresden yn yr Almaen gan y Cynghreiriaid yn 1945, lladdwyd 25,000 o bobl. Ac nid milwyr oedd y rhan fwyaf o’r bobl ond dinasyddion neu ffoaduriaid yn dianc rhag y llinell flaen a oedd yn llechfeddiannu. 
    - Er mwyn cael buddugoliaeth yn y Dwyrain, roedd yn rhaid i’r Cynghreiriaid weithio gyda Stalin, unben y gallech chi ei gymharu â Hitler o ran ei greulondeb. 
    - Fe achosodd cipio Berlin, gan y lluoedd Sofietaidd yn 1945, drosedd amlwg yn erbyn y maen prawf olaf yn adran 4: aeth milwyr dialgar ati i dreisio, ysbeilio, anrheithio a llofruddio.

  6. Nid yw hyn yn dadwneud yr angen am ryfel. Yr hyn mae’n ddweud, efallai, yw ei bod hi’n naïf i gymhwyso amodau o gyfiawnder i rywbeth sydd mor annynol a dinistriol â rhyfel diwydiannol modern. Mae arwyddocâd yn hyn ar gyfer ein syniad o ryfel cyfiawn.

    Wrth i awyrennau rhyfel fomio Libya, mewn beth sy’n cael ei alw’n ymyriad moesol, yn anochel fe fydd dinasyddion yn Lybia’n cael eu lladd a’u hanafu. Tra mae’r ymgais i rwystro Gadaffi rhag gallu dial yn greulon yn erbyn pobl Libya’n gryf, rhaid i ni ofyn a yw’r achos moesol i ymyrryd yn ddigon i ddadwneud y cywilydd moesol o ladd dinasyddion.

  7. O ystyried grym dinistriol arfau modern, fe allwn yn hawdd holi a yw’n bosib cwrdd ag amodau ar gyfer rhyfel cyfiawn. Felly, mae’r dyfodol yn edrych yn ddu. Fe all grym milwrol fod yn rym er lles yn y byd, oherwydd mae llawer achos yn parhau o’r cryf yn gorthrymu’r gwan. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei ystyried yw, ar ba bwynt y mae ymyrraeth gyfiawn yn datblygu i fod yn ddim ond rhyfel arall?

Amser i feddwl

Meddyliwch am y rhyfeloedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, rhyfeloedd y mae ein lluoedd arfog ni yn ymwneud â nhw.
Sut mae cyfiawnhau’r gweithredu hwn?
Pe byddech chi’n un o’r prif gadlywyddion, pa amodau fyddai’n eich gwneud chi i fynd i ryfel?

Nawr meddyliwch am eich bywyd eich hun, a’ch perthnasoedd.
Ydych chi ‘mewn rhyfel’ ag unrhyw un ar hyn o bryd?
A yw’r ‘rhyfel’ hwn yn un cyfiawn?
Os nag ydyw – sut rydych chi’n mynd i gael yr heddwch yn ôl?

Gweddi
Yn y tawelwch, meddyliwch am yr holl bobl sydd wedi eu dal mewn rhyfeloedd ar hyn o bryd:
y rhai diniwed - merched, plant, ffoaduriaid, dinasyddion.
Sut y gallwn ni weithio i ddod â heddwch i’n dyddiau ni?

Cerddoriaeth

Y gân ‘War, what is it good for?’ gan Edwin Starr (ar gael i’w llwytho i lawr).

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon