Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Cysyniad Cristnogol Y Dduw

Archwilio’r cysyniad Cristnogol o Dduw fel Trindod.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad Cristnogol o Dduw fel Trindod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Delweddau ar PowerPoint o bethau a thair rhan iddyn nhw, er enghraifft, triongl, trisgel, tripledi.

  • 3 darllenydd.

  • Pianydd, neu rywun sy’n ddigon cerddorol i ganu’r tri nodyn ar y piano (gwelwch adran 3).

Gwasanaeth

  1. Ys gwn i fedrwch chi ddweud wrthyf beth sy’n gyffredin rhwng y delweddau a’r gwrthrychau hyn i gyd? (Gyda gobaith, fe gewch yr ateb yr ydych yn ei geisio.)

    Rhagorol, maen nhw i gyd yn cychwyn gyda’r rhagddodiad ‘tri’: mae ‘tri’ yn awgrymu bod tair elfen i’r peth dan sylw. Bydd y gwasanaeth heddiw yn sôn am air arall sy’n cychwyn gyda ‘tri’: ‘Trindod’.

  2. Mae’r gair ‘Trindod’ yn un pwysig mewn Cristnogaeth oherwydd ei fod yn egluro’r ddysgeidiaeth allweddol am y modd y mae Cristnogion yn deall natur Duw.  I Gristnogion, mae Duw yn drindod, hynny yw, yn uniad o dri, neu yn dri wedi eu huno ynghyd. 

    Mae’n bwysig deall nad yw hyn yn golygu bod Cristnogion yn amldduwiol – dydyn nhw ddim yn addoli mwy nag un Duw – pobl undduwiaeth ydyn nhw, yn addoli un Duw. Ond iddyn nhw, mae tair rhan neilltuol a gwahanol i’r un Duw hwnnw. Mae Duw yn dri yn un ar yr un pryd. Byddwn yn galw’r rhannau hyn yn, ‘Dad’, ‘Mab’ ac ‘Ysbryd Glân’.

  3. Wedi drysu?  Peidiwch â phoeni, mae hyn yn rhywbeth y mae’r mwyafrif o bobl yn ei gael yn anodd ei ddeall, ac mae llawer o ddiwinyddion a Christnogion wedi bod wrthi’n ceisio ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd. Byddai’n well i ni ddefnyddio cyfatebiaeth neu enghraifft, ac mae gennyf wirfoddolwyr yma gyda mi i’m helpu. 

    Darllenydd 1: Mae’r enghraifft gyntaf o ddysgeidiaeth Sant Padrig.  Roedd ef yn defnyddio’r ‘shamrock’ i’w helpu. Er mai un planhigyn yw’r shamrock, mae’n cynnwys tair deilen ar wahân, ond un coesyn. Felly mae tair rhan ar wahân i’r Drindod o’r un canol cyffredin. 

    Darllenydd 2: Pan ddarganfu Christopher Columbus ynys Trinidad, roedd yn credu ar y dechrau bod yno dair ynys ar wahân. Wrth ddynesu, fodd bynnag, sylweddolodd bod yr ynysoedd i gyd wedi eu huno gan lain o dir isel: tair ynys ar wahân, wedi eu cysylltu ynghyd gan un llain o dir. Galwodd yr ynys yn La Trinidad, sy’n golygu ‘trindod’.

    Darllenydd 3: Y drydedd enghraifft yw cord cerddorol sydd yn cynnwys tri nodyn. Cymerwch y tri nodyn C, E a G. Gellir eu chwarae ar wahân. (Gofynnwch i’r cyfeilydd eu taro.) Mae modd eu chwarae gyda’i gilydd hefyd fel cord. (Gofynnwch i’r cyfeilydd chwarae’r cord.) Yn y cord, mae’r nodau wedi cael eu huno ac yn gyflenwol.

  4. Mae llu o enghreifftiau eraill.  (Mae wy Pasg ‘Creme Egg’ yn enghraifft dda.  
    Ond rydych yn siwr o fod wedi gallu gafael erbyn hyn ar y syniad bod tair rhan ar wahân ond eto dim ond un uned.  

    Mae’r un peth yn wir am y syniad Cristnogol o’r Drindod. Mae’r Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân ar wahân ond yn ffasedau, neu’n wynebau, o’r un Duw. 

    Darllenydd 1: Duw’r Tad, yr un sy’n gofalu drosom ni ac sy’n ein caru fel tad da.  Ef yw creawdwr a chynhaliwr y byd. 

    Darllenydd 2: Duw’r Mab, Iesu, yr un a gafodd ei anfon i’r byd fel bod dynol er mwyn iddo achub dynolryw oddi wrth ei bechodau ei hun. Mae’n gyfan gwbl Dduw ac yn gyfan gwbl ddynol.  Mae’n enghraifft o sut y dylem fod. 

    Darllenydd 3: Duw’r Ysbryd Glân, yw’r nodwedd o Dduw sy’n bresennol ac sydd ar waith yn y byd. Fel y gwynt, nid oes modd gweld yr Ysbryd Glân, ond gellir teimlo ei nerth. Mae’r Ysbryd yn draddodiadol yn cael ei gydnabod fel y wedd fenywaidd yn Nuw. 

  5. Ac felly, mae’r tair rhan sydd ar wahân yn dod ynghyd i greu Duw’r Cristnogion.  Maen nhw ar wahân ac eto’n gweithio gyda’i gilydd ac oddi mewn i’w gilydd.

 
Meddyliwch am faint o enghreifftiau y gallwch chi feddwl amdanyn nhw, sydd o’n cwmpas heddiw lle mae tri yn ymdoddi’n un.  Byddwch efallai yn synnu.   

Amser i feddwl

Meddyliwch unwaith eto am yr enghreifftiau yr ydym wedi eu trafod.  
Sut y mae’r hyn yr ydych wedi ei glywed a meddwl amdano heddiw yn cael effaith ar y ddelwedd bersonol sydd gennych o Dduw?

Gweddi
Dad,
anfonaist dy Air
i ddod â’r gwirionedd 
a’th Ysbryd i’n sancteiddio.
Trwyddyn nhw y deuwn i wybod 
am ddirgelwch dy fywyd.
Helpa ni i’th addoli,
yn un Duw mewn Tri Pherson,
trwy ddatgan a byw ein ffydd ynot ti.
Gofynnwn hyn i ti, Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
un gwir a bywiol Dduw, yn dragywydd.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon