Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathlu Hanner Canrif Ers Pan Aeth Y Dyn Cyntaf I'r Lleuad

Dathlu a gwerthfawrogi gallu bodau dynol i addasu, yn wyddonol ac yn ysbrydol, i bethau sydd o’u cwmpas.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dathlu a gwerthfawrogi gallu bodau dynol i addasu, yn wyddonol ac yn ysbrydol, i bethau sydd o’u cwmpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cymhorthion gweledol o system cysawd yr haul, neu fodel 3-D o’r ddaear, y lleuad a’r haul.

  • Mapiau Groegaidd o’r byd yn dangos y ddaear yn fflat.

  • Clip ffilm o’r dynion cyntaf yn glanio ar y lleuad (yn anochel fe fydd yr ansawdd yn wael).

Gwasanaeth

  1. Am filoedd o flynyddoedd, roedd pobl yn meddwl bod y byd yn fflat. Ond, mor gynnar â 300 CC, roedd yr Hen Roegwyr yn damcaniaethu bod y byd yn grwn, er hynny roedden nhw’n llunio mapiau yn dangos y ddaear yn fflat.

    Wrth i bobl archwilio mwy ar y byd, roedden nhw’n gallu mapio arwynebedd mawr. Yn 150 OC, fe luniodd y seryddwr Groegaidd enwog,  Ptolemy, fapiau a oedd yn cynnwys  Ewrop, Asia a’r rhan fwyaf o Asia. Ond yn bwysicach na dim, roedd y mapiau hyn yn dangos y ddaear yn grwn!

    Ar ôl gwaith Ptolemy, cafodd y gwaith o lunio mapiau ei esgeuluso wedyn am gannoedd o flynyddoedd. Anghofiwyd llawer o wybodaeth am y byd a’r syniad ei fod yn grwn. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, fe ail ddechreuwyd ymddiddori yng ngwaith Ptolemy. Unwaith eto, fe ddechreuodd pobl gredu y gallai’r byd fod yn grwn. Taith Columbus i’r Byd Newydd yn 1492 a brofodd yn derfynol bod y byd yn grwn.

  2. Mae dynoliaeth, ar hyd yr oesoedd, wedi gofyn cwestiynau am y lleuad a’r gofod. Seryddwyr a mathemategwyr oedd y rhai cyntaf i ddarganfod bod y ddaear a’r haul yn siâp sffêr a bron yn grwn fel pêl. Y wybodaeth wyddonol a mathemategol honno a helpodd bobl yr Undeb Sofietaidd, fel ag yr oedd hi ar y pryd, (gweriniaethau comiwnyddol Dwyrain Ewrop ac Asian a oedd yn cael eu llywodraethu gan Moscow - yr USSR) i anfon eu cosmonot cyntaf, Yuri Gagarin, i’r gofod i deithio o gwmpas y ddaear ym mis Ebrill 1961. 
    Ar 25 Mai 1961, fe gyflwynodd yr Arlywydd John F. Kennedy her i NASA (yr asiantaeth ofod Americanaidd). Yr her oedd curo’r Undeb Sofietaidd yn ras y gofod, trwy ofalu mai’r Unol Daleithiau fyddai’n gyntaf i allu anfon bod dynol i’r lleuad.

  3. Roedd ras y gofod wedi dechrau yn niwedd y 1950au. Ras oedd hi i fod ar y blaen yn y broses o archwilio’r gofod. Rhwng 1957 a 1975, roedd yr ymryson rhwng yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau, y Rhyfel Oer - Cold War yn canolbwyntio ar fod yn gyntaf i wneud popeth yn ymwneud ag archwilio’r gofod. Roedd buddugoliaeth yn ras y gofod yn cael ei hystyried fel rhywbeth angenrheidiol yn achos sicrwydd cenedlaethol ac fel prawf o ragoriaeth dechnolegol ac ideolegol. Fel rhan o ras y gofod ymdrechwyd i lansio lloerennau artiffisial artificial satellites , trefnu hediadau yn y gofod o gwmpas y ddaear, a theithiau i’r lleuad moon  - rhai di-griw ac eraill gyda phobl yn teithio yn y llongau gofod.

    Dechreuodd Ras y Gofod gyda’r Sofietiaid yn lansio’r lloeren artiffisial Sputnik 1  ar 4 Hydref 1957 a daeth yr ymgiprys i ben y mis Gorffennaf 1975 gyda’r Apollo-Soyuz Test Project , sef y genhadaeth i’r gofod gyntaf ar y cyd rhwng yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau. 

    Rhoddodd ras y gofod gychwyn ar wario mawr ar addysg ac ymchwil wyddonol. Canlyniad hyn oedd cynnydd yn y nifer o ddarganfyddiadau gwyddonol a arweiniodd at ddatblygu technolegau fel:

    -  dechrau’r symudiad amgylcheddol environmental movement : Bu i’r lluniau lliw cyntaf o’r ddaear, lluniau a dynnwyd o ddyfnder y gofod, gael eu defnyddio fel eiconau i ddangos y blaned fel pelen las fregus wedi’i hamgylchynu â duwch y gofod;
    -  teledu lloeren;
    -  technoleg ffonau symudol.

    All rhywun feddwl am ragor o enghreifftiau? (y defnydd ‘Velcro’ , a’r defnydd anlynol - non-stick - a ddefnyddir fel haen i orchuddio tu mewn sosbenni ac ati, yw’r pethau mwyaf adnabyddus, o bosib, a ddaeth i fri o ganlyniad.)

  4. Yn 1969, gwelwyd cymal olaf y ras i’r lleuad. Erbyn hynny, roedd yr Unol Daleithiau ar y blaen yn dilyn hediad Apollo 8 o amgylch y lleuad adeg y Nadolig 1968. Yn ddiarwybod i’r Americaniaid, roedd rhaglen teithio i’r gofod y Sofietiaid mewn anawsterau mawr. Er mai nhw oedd wedi anfon y llong ofod ddi-griw gyntaf i’r lleuad (yn 1966) a llwyddo i lanio, roedden nhw wedi cael nifer o ddamweiniau trychinebus, a doedden nhw ddim ar y pryd yn barod i anfon bod dynol i’r lleuad. Roedd yr Americaniaid, ar y llaw arall, yn barod i fynd ymlaen â’u hymgais i lanio ar y lleuad. 

    Roedd y llong ofod Apollo 11 wrthi’n cael ei pharatoi ar gyfer taith i’r lleuad ym mis Gorffennaf. Roedd tair rhan i’r llong ofod, neu dri modiwl: y command module, a enwyd yn Columbia; y lunar module, a enwyd yn Eagle; a’r service module sef y modiwl gwasanaeth a oedd yn dal yr ocsigen y dwr a’r tanwydd.

    Criw’r Apollo 11 oedd y Comander Neil Armstrong ; Michael Collins  peilot y command module; ac Edwin ‘Buzz’ Aldrin  peilot y lunar module. Fe gawson nhw’u dewis fel criw ym mis Ionawr 1969, ac fe fuon nhw’n hyfforddi ar gyfer y daith hyd at ddyddiad y lansiad, fwy neu lai. 

    Ar 16 Gorffennaf 1969, cododd y roced enfawr Saturn V o Cape  Canaveral yn Florida, gyda’r Apollo 11 arni. Aeth Saturn V i droi o gwmpas y ddaear. Yna, gyda chwythad grymus o’i pheiriannau ei hun, fe saethodd Apollo 11 oddi wrth y Saturn a disgyrchiant y ddaear, ac anelu am y lleuad.

    Ychydig dros dri diwrnod gymerodd hi i gyrraedd y lleuad. Cylchodd Apollo 11 o gwmpas y lleuad 11 o weithiau. Yna, fe aeth Armstrong ac Aldrin i’r Eagle, y lunar module, a chychwyn tuag at wyneb y lleuad. Ar ôl goresgyn anawsterau a sawl diffyg cyfrifiadurol, fe aeth Armstrong ati i reoli’r hediad â’i law ei hun ar uchder o tua 180 metr (590 troedfedd) o’r man glanio. Llywiodd Armstrong yr Eagle i lanio ar ran o wyneb y lleuad a enwir yn Sea of Tranquillity am 8.17 p.m. ein hamser ni, ar 20 Gorffennaf 1969. 

    Disgwyliodd y bodau dynol cyntaf i lanio ar y lleuad chwe awr arall cyn mentro allan o’u llong ofod. Ar 21 Gorffennaf 1969, am 2.56 a.m. ein hamser ni, fe ddaeth Neil Armstrong y person cyntaf i roi ei droed ar arwynebedd llwyd y lleuad. (Yn Amser Safonol Dwyrain America, 9.56 p.moedd hyn, ar 20 Gorffennaf.)

    Bu o leiaf 500 miliwn o bobl yn dystion i’r cam cyntaf enwog hwnnw ar y lleuad wrth iddyn nhw, ar y ddaear, wylio darllediad o’r digwyddiad. Geiriau cyntaf Neil Armstrong, wedi iddo gamu oddi ar y pad glanio oedd, ‘That’s one small step for man, one giant leap for mankind.’ Ymunodd Aldrin ag ef ar wyneb y lleuad tua 20 munud yn ddiweddarach. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw dreulio ychydig llai na dwy awr a hanner y tu allan i’w llong ofod. 

    Y diwrnod canlynol, 22 Gorffennaf, fe wnaethon nhw’r lansiad cyntaf erioed oddi ar blaned heblaw’r ddaear, ac ail ymuno â Michael Collins yn y command module. Saethodd Apollo 11 allan o gylchdro’r lleuad, ac ar 24 Gorffennaf 1969 fe laniodd yn ôl ar y ddaear ym Môr y Pasiffig.

  5. Gwyliwch neu gwrandewch ar glip o hanes y glanio ar y lleuad.

Amser i feddwl

Meddyliwch gymaint rydyn ni wedi symud ymlaen o ran ein deallusrwydd, o fod yn meddwl bod y byd yn fflat i fod yn anfon pobl i’r lleuad ac yn ôl. 
Roedd hynny amser maith yn ôl.
Mae cymaint o bethau wedi digwydd ers hynny.
Y Rhyngrwyd.
Yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Lloerennau’n archwilio ein cymdogion yng nghysawd yr haul.
Os gallwn ni gyflawni pethau fel hyn, allwn ni gyflawni unrhyw beth?

(Chwaraewch gerddoriaeth fyfyriol a dangoswch y delweddau o Armstrong ac Aldrin ar y lleuad, neu rai o’r lluniau o’r ddaear a dynnwyd o’r gofod.)

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Man on the moon’ gan R.E.M 
Walking on the moon’ gan Police
‘Space oddity’ gan David Bowie

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon