Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwreiddioldeb Mewn Ffilmiau

Annog y myfyrwyr i ymarfer eu creadigrwydd, trwy ystyried ffilmiau mawr yr haf eleni.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ymarfer eu creadigrwydd, trwy ystyried ffilmiau mawr yr haf eleni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr rai o’r hysbysluniau ar gyfer y ffilmiau sydd gennych chi dan sylw, i’w chwarae wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae’r haf wedi cyrraedd, ac am ryw reswm, y dyddiau braf rheini pan fydd y tywydd yn ddelfrydol i fynd am dro i lan y môr neu i dreulio amser yn yr ardd, yw’r adeg pan fydd y stiwdios ffilmiau mwyaf yn rhyddhau eu ffilmiau mwyaf uchelgeisiol a chostus. Felly beth sydd ganddyn nhw ar ein cyfer ni yr haf hwn?

  2. Yn gyffredinol, y ffaith fwyaf amlwg am y ffilmiau mawr hyn sy’n cael eu rhyddhau yn yr haf yw diffyg gwreiddioldeb. Mae’r rhan fwyf o’r ffilmiau’n ddilyniannau (sequels) neu’n rhai wedi’u hail wneud. Mae gennym ni fersiwn newydd o X-Men, ffilm Cars newydd, Transformers newydd a ffilm Planet of the Apes newydd  . . .

  3. Mae’r ffilmiau hyn yn siwr o wneud elw, ac o bosib ei bod hi’n talu i’r cwmnïau chwarae’n saff ar adegau gwael yn economaidd, fel y mae pethau y dyddiau hyn. Fe allai ffilmiau arloesol fod yn fethiant os nad yw’r gynulleidfa’n gallu deall neu’n gallu derbyn y plot neu’r cymeriadau. Yn aml, fe fydd grwp bach yn gwerthfawrogi’r ffilm ac yn dod i’w mwynhau ond, o bosib, na fyddai’n llwyddiant ysgubol ar unwaith. Ar y dechrau, doedd ffilmiau fel Donnie Darko a Blade Runner yn llwyddiannau masnachol mawr, ond fe ddaethon nhw’n boblogaidd wrth i bobl basio’r neges ymlaen, a dweud rhywbeth fel: ‘Mae hon yn werth ei gweld.’

  4. Er hynny, mae dwy ffilm enwog wedi bod yn amlwg iawn yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gyntaf, Avatar, yn nodedig oherwydd mai hon oedd y ffilm a wnaeth y mwyaf o arian erioed. Fe gostiodd Avatar y swm syfrdanol o $237 miliwn i’w gwneud, ond fe enillodd dros $2 biliwn, elw ffantastig i’r stiwdio. 

    Aeth llawer o’r gyllideb ar yr effeithiau arbennig arloesol yn y ffilm, effeithiau a oedd yn ymwneud â dal lluniau actorion go iawn a’u newid am gymeriadau ffilm wedi’u creu ar gyfrifiaduron. At hynny, dyma’r ffilm fodern lwyddiannus gyntaf i’w rhyddhau mewn 3D, a hynny’n peri i’r gynulleidfa ymgolli mewn golygfeydd estronol a oedd yn edrych yn ogoneddus. Roedd y ddelweddaeth anhygoel hon wedi’i chyfuno hefyd a phlot traddodiadol yn amlygu brodorion heddychol a goresgynnwr rheibus ac ymosodol. Roedd hynny’n adlewyrchu teimladau o euogrwydd yr Americaniaid ynghylch yr oruchafiaeth yn y Gorllewin dros yr Americaniaid Brodorol.

  5. Yn achos y ffilm arall, Inception, doedd hon ddim wedi gwneud cymaint o arian a’r ffilm Avatar, er iddi wneud elw nodedig o $825 miliwn allan o gyllideb o $160 miliwn, ond fe gafodd dderbyniad ardderchog gan y beirniaid. 

    Llwyddiant Inception oedd cyfuno golygfeydd o ddigwyddiadau arloesol a chyffrous (gyda dim ond ychydig o fewnbwn cyfrifiadurol) gyda phlot cymhleth ac athronyddol a oedd wrth fodd cynulleidfaoedd. Dangosodd y ffilm hon ei bod hi’n talu cymryd amser i weithio ar sgript sy’n rhoi her i’r gynulleidfa.

  6. Ond dydyn ni dim wedi gweld ffilm fel Inception nac Avatar eleni. Fe gamblodd y ffilmiau rheini symiau enfawr o arian gan roi ffydd yn y ffaith y byddai’r gynulleidfa’n awchu am brofiadau newydd yn hytrach na derbyn ail-ddangosiadau.

    Mae gwreiddioldeb, a rhyddhau rhywbeth gwreiddiol, yn gambl bob tro. Ond nid yw hynny’n rheswm dros beidio rhoi cynnig arni. I’r rhai hynny sydd wedi blino ar weld yr un hen gymeriadau, a’r un plotiau hawdd eu rhagfynegi, y cyngor gorau yw peidio â gadael i chi eich hunain gael eich tynnu i lawr gan gyfyngiadau llawer o’r diwylliant cyfoes. Byddwch lle’r hoffech chi fod, ac os yw’r fan honno ar flaen y gad, yna mae hynny’n ardderchog.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a rhowch gyfle i’r myfyrwyr gael saib i feddwl.)

Meddyliwch am y ffilm ‘orau’ rydych chi wedi’i gweld yn ddiweddar, naill ai ar DVD, gartref ar y teledu, neu yn y sinema.

Beth oedd ynghylch y ffilm a wnaeth y profiad o’i gwylio yn un mor dda i chi?
Pa mor heriol oedd y stori yn y ffilm?
Pa mor naturiol oedd plot y stori?

Nawr meddyliwch am eich creadigedd eich hun.
Sut y byddech chi’n mynd ati i greu rhywbeth newydd: yn ffilm, llyfr, cerdd, paentiad neu raglen gyfrifiadurol?
Sut rydych chi’n ymarfer eich creadigrwydd?

Gweddi
Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r geiriau canlynol fel gweddi:

Arglwydd Dduw,
diolch am bopeth sy’n ein gwneud ni’n greadigol –
y storïau rydyn ni’n eu hysgrifennu
y gwaith rydyn ni’n ei greu
y lluniau y byddwn ni’n eu gwneud.
Helpa ni i beidio rhoi’r gorau i ddefnyddio’n creadigrwydd
oherwydd, heb y creadigrwydd, dydyn ni ddim cystal pobl.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Llwythwch i lawr y gerddoriaeth o un o’r ffilmiau mwyaf cyfarwydd i’w chwarae wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r gwasanaeth ac wrth iddyn nhw ymadael.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon