Un Dyn Yn Dod Yn Enw Cariad
Annog y myfyrwyr i sefyll yn gadarn dros yr hyn sy’n iawn, trwy ddangos bod un person sy’n gweithredu mewn achos cyfiawn a da yn gallu gwneud gwahaniaeth.
gan Paul Hess
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i sefyll yn gadarn dros yr hyn sy’n iawn, trwy ddangos bod un person sy’n gweithredu mewn achos cyfiawn a da yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen recordiad o’r gân, gan y band U2, ‘Pride (In the Name of Love)’, sydd i’w chael ar yr albwm U2 The Best of 1980–1990. Fe allwch chi chwarae hon wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, neu fe allech chi chwarae’r rhan gyntaf i ddechrau’r gwasanaeth wedi i bawb ddod i mewn ac eistedd.
- Fe fyddai’n dda pe gallech chi arddangos llun y dyn ifanc y cyfeirir ato fel y Tiananmen Square Tank Man. Mae’n bosib cael hyd i’r ddelwedd mewn sawl lle ar y Rhyngrwyd.
- Mae delweddau o Martin Luther King, Rosa Parks and Gandhi ar gael yn rhwydd hefyd oddi ar y we, ac fe fydden nhw’n ychwanegu at y cyflwyniad.
Gwasanaeth
- One man come in the name of love . . .
One man to overthrow.
Early morning April 4
Shot rings out in the Memphis sky
Free at last, they took your life
They could not take your pride.
Dyma eiriau o gân a ryddhawyd gan y band U2, ac fe gyfansoddwyd y gân er anrhydedd i Dr Martin Luther King Jr a lofruddiwyd ar 4 Ebrill 1968. - Yr hyn sy’n cael ei bwysleisio yn y gân yw, er bod bwled y llofrudd wedi rhoi terfyn ar fywyd Martin Luther King, doedd y fwled honno ddim yn rhoi terfyn ar ei weledigaeth, sef yr hunaniaeth a luniodd i’r Americanwyr, yn bobl ddu a phobl wyn. Yr hyn y mae U2 yn ei nodi yw bod grym cariad, grym a ymgorfforwyd ym mywyd Martin Luther King, yn llawer cryfach na grym arfau, gorthrwm a chasineb. Roedd Martin Luther King yn ‘one man come in the name of love’.
- Roedd y protestiadau, ledled y wlad, a arweiniwyd gan Martin Luther King wedi cychwyn oherwydd gweithredoedd rhywun dewr arall, Rosa Parks. Merch ddu gyffredin oedd Rosa a oedd yn byw yn nhref Montgomery, Alabama yn yr Unol Daleithiau yn 1955. Roedd y bobl ddu yn aml yn cael eu cadw ar wahân oddi wrth y bobl wyn yn Montgomery. Un diwrnod wrth i Rosa deithio adref o’i gwaith ar fws a oedd yn orlawn, fe’i gorchmynnwyd i godi o’i sedd i wneud lle i rywun gwyn eistedd. Wedi hen flino ar y ffordd roedd y bobl ddu’n cael eu darostwng gan y bobl wyn dros y blynyddoedd, fe wrthododd Rosa godi o’i sedd, a wnaeth hi ddim ufuddhau i’r gorchymyn y diwrnod hwnnw. Roedd y tocynnwr ar y bws yn ddig iawn wedi synnu at hyn, ac yn methu credu ei bod mor herfeiddiol. Fe arestiwyd Rosa Parks.
Canlyniad y weithred hon o eiddo Rosa Parks oedd i’r bobl ddu ym Montgomery ddechrau boicotio’r bysiau yno, a bu hyn yn astell ddeifio ar gyfer yr ymdrech fawr a fu wedyn er budd iawnderau sifil. Roedd Rosa Parks yn ‘one woman come in the name of love’. - Ar 5 Mehefin 1989, rowliodd tanciau y fyddin Tsieineaidd yn fygythiol i Sgwâr Tiananmen yn Beijing, Tsieina. Bwriad gyrwyr y tanciau oedd chwalu’r protestiadau gan fyfyrwyr ac actifyddion eraill a oedd o blaid democratiaeth, protestiadau a oedd wedi bod yn cael eu cynnal ledled Tsieina yn ystod y gwanwyn y flwyddyn honno.
Yn sydyn, ac er syndod i bawb oedd o gwmpas, fe ddaeth un dyn allan o’r dyrfa – a sefyll yn union o flaen un o’r tanciau! Fe lwyddodd un dyn cyffredin i atal grym ofnadwy byddin Tsieina! Wrth i’r tanc geisio mynd rownd heibio iddo, fe symudodd yntau i’w rwystro. Yn y diwedd, fe ddringodd y dyn i ben y tanc a siarad gyda’r gyrrwr.
Wyddom ni ddim yn union beth ddigwyddodd i’r dyn dewr hwnnw, sydd erbyn hyn wedi dod yn adnabyddus fel y ‘Tank Man’, ond fe ddangosodd ei weithred nerth yr ysbryd dynol i wrthsefyll gormes. Roedd y ‘Tank Man’ yn ‘one man come in the name of love’ hefyd. - Roedd yr un peth yn wir hefyd am nerth Mahatma Gandhi – y gwr bach gostyngedig mewn dillad gwerinwr, a lwyddodd gyda’i arfogaeth o gariad, heddwch a chyfiawnder, i ddarostwng yr Ymerodraeth Brydeinig rymus i lawr ar ei gliniau. Credai Gandhi’n angerddol os oedd ei achos yn gyfiawn y byddai’n ennill – waeth pa mor nerthol oedd y grymoedd a oedd yn ei erbyn. Mae brawddeg enwog o’i eiddo sy’n tanlinellu hyn: ‘Even if you are a minority of one, the truth is the truth.’ Hyd yn oed os ydych chi mewn lleiafrif o un, y gwir yw’r gwir. Roedd Gandhi yn ‘one man come in the name of love’.
- Yn ganolog i’r ffydd Gristnogol mae un arall sy’n ‘one man come in the name of love’. Mae Iesu’n dod i mewn i Jerwsalem gan wybod y bydd yn dod i wrthdrawiad â grym yr Ymerodraeth Rufeinig yno ac yn wynebu cynddaredd y sefydliad crefyddol Iddewig. Ac mae hefyd yn dod wedi’i arfogi – gyda’i arfogaeth o gariad, maddeuant a thangnefedd – ac mae’n dod ar gefn ebol asyn gostyngedig.
I fyd o ymraniadau, barbariaeth a thrais – byd, mewn geiriau eraill, heb fod yn annhebyg i’n byd ni – y daw Tywysog Tangnefedd, un y mae ei nerth yn bresennol nid mewn grym milwrol ond mewn cariad anhunanol. A dyma’r peth pwysig: mae ei deyrnas, a sefydlwyd trwy nerth cariad, yn hytrach na bwledi, wedi parhau yn llawer hirach ac wedi bod yn llawer mwy dylanwadol na theyrnas unrhyw goncwerwr milwrol.
Amser i feddwl
Beth ydych chi a fi yn fodlon ei wneud yn enw cariad?
Oes gennym ni hyd yn oed ffracsiwn o ddewrder y Tank Man
neu Rosa Parks
neu Martin Luther King
neu Gandhi?
Allwn ni gerdded gydag Iesu ar y ffordd i’r groes?
Yn wyneb byd o drachwant, trais a gormes;
yma yn yr ysgol yn wyneb y bwli a’r ymosodwr,
neu yn wyneb y rhai hynny sydd, yn syml, ddim ots ganddyn nhw -
Beth fyddech chi’n ei wneud yn enw cariad?
Gweddi
Arglwydd Dduw,
rho i ni weledigaeth fel y gallwn ni weld byd gwell,
a rhoi i ni ddewrder fel y gallwn ni weithredu i wneud i hynny ddigwydd.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
Chwaraewch y gân ‘Pride (In the Name of Love)’, gan U2 wrth i’r myfyrwyr adael y gwasanaeth.