Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ddeng Mlynedd Yn Ol I Heddiw...

Meddwl am ‘9/11’ yng ngoleuni marwolaeth Osama bin Laden.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Meddwl am ‘9/11’ yng ngoleuni marwolaeth Osama bin Laden.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Fe gymerodd yn agos at ddeg mlynedd i fyddin Unol Daleithiau America ddod o hyd i Osama bin Laden ar ôl i’r Arlywydd George W. Bush ddatgan ei orchymyn enwog: ‘ei ddal yn farw neu’n fyw’.  Yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11, roedd yn ddealladwy fod pobl yn ofnus ac yn amddiffynnol.  Datganwyd rhyfel yn erbyn mudiad al-Qa’eda, a’i sefydlydd Osama bin Laden, yr un a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau, ac yn erbyn y Taliban, a oedd bryd hynny’n rheoli Afghanistan, ac a wrthododd ildio arweinwyr y mudiad hwnnw.

  2. A hithau’n 2011 erbyn hyn, rydym yn gweld effaith y diwrnodau cynhyrfus yn dilyn yr ymosodiadau.  Mae’r rhyfel yn Afghanistan yn parhau.  Cafodd y Taliban eu trechu’n fuan gan rym milwrol llethol yr Unol Daleithiau, ond fe lwyddon nhw i aildrefnu eu hunain pan anelwyd sylw gwasg, gwleidyddion a byddin yr Unol Daleithiau at Irac.  Daeth y rhyfel yn Irac i ben yn y pen draw, ond arweiniodd at farwolaethau cannoedd o filoedd o ddinasyddion Irac (er bod nifer wedi cael eu lladd gan derfysgwyr: ni ellir rhoi’r cyfrifoldeb am y marwolaethau hyn yn gyfan gwbl ar y glymblaid).  Fe wnaeth y rhyfel yn Irac niwed i enw da Lloegr a’r Unol Daleithiau yn fyd-eang, hefyd, ac mae angen rhagor o waith i adfer hynny.

  3. Symudodd yr ymgyrch i hela bin Laden o Afghanistan i Bakistan, a chynyddodd yr amheuon bod bin Laden yn cuddio mewn ardal fynyddig bellennig ac anhygyrch.  Ers hynny, gwelwyd nad oedd hynny’n wir, o leiaf yn ddiweddar: cafwyd hyd i bin Laden mewn lle caeedig mewn tref faestrefol, ac yn fwy na hynny, lle sy’n gartref i nifer o gadfridogion sydd wedi ymddeol ac Academi Filwrol Pakistan. 

    Ond mae syniadau camarweiniol, gorliwio a chredoau ffug wedi bod yn nodwedd gyffredin wrth drafod bin Laden. Y mae wedi cael ei bortreadu fel cymeriad rhithiol, yn arweinydd cwlt peryglus gyda’r gallu i alw ar filoedd o ddilynwyr.  Nid yw hyn yn wir.  Yn hytrach, dyn arian oedd bin Laden: roedd yn Fwslim defosiynol a oedd wedi etifeddu ffortiwn, ac a oedd yn ddawnus wrth godi arian.  Daeth Mwslimiaid eraill at bin Laden i gael arian.  Y pwynt allweddol yw bod ideoleg benodol yn bod hebddo, ac y bydd yr ideoleg honno yn parhau.

  4. Gan fod bin Laden wedi cael ei ddal a’i ladd, mae’n demtasiwn dod â’r rhyfel yn Afghanistan i ben a gadael y wlad ar frys.  Yn achos yr Americaniaid a’u partneriaid, collodd nifer fawr eu bywydau yn y rhyfel, ond mae’r brwydro wedi ansefydlogi gwlad a oedd eisoes yn fregus hefyd.  Yn ogystal mae wedi arwain at sefyllfa ddiddatrys undonog ond angheuol: mae Afghanistan yn rhy fawr o lawer i’r milwyr gael unrhyw fath o rym parhaol yno.  Bob blwyddyn, mae’r Taliban yn ymosod o’r newydd.  Nid yw’r ymosodiadau hyn yn llwyddo’n aml, ond maen nhw’n effeithio’n fawr ar fyddin y gynghrair.  Mae nifer o resymau dros adael.

  5. Ond ni fydd gadael gwlad sydd wedi ei darnio a heb ei datblygu yn helpu unrhyw un.  Ideoleg Islam radical yw gwir elyn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth.  Am bob dinesydd y bydd y gynghrair yn ei ladd neu’n ei anafu’n ddamweiniol, mae perygl y bydd gelyn newydd yn cael ei feithrin.  Dyna yw cyfyng-gyngor y gwneuthurwyr polisïau: a ddylen ni fynd oddi yno, gan adael gwlad fregus yn nwylo’r Taliban, neu barhau i ymladd, ac nid yn unig peryglu bywydau ein milwyr ein hunain, ond bod mewn perygl o greu ton newydd o Fwslimiaid radical sy’n casáu’r Gorllewin?

  6. Yn y cyfamser, wrth i ni gofio digwyddiadau erchyll 9/11, ac anrhydeddu pawb a fu farw, mae’r cynghreiriaid yn myfyrio ar y rhyfeloedd a ddechreuwyd o ganlyniad i ddinistr y ddau dwr.  Mae’r cwestiynau ynghylch sut i adael yn anrhydeddus, a sut i helpu Irac ac Afghanistan i weithio tuag at ddemocratiaeth, yn parhau.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll ac oedwch.

Ddeg mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cofio am bawb a fu farw ar 9/11, a phawb sydd wedi marw o ganlyniad i weithredoedd y diwrnod ofnadwy hwnnw -

y rhai a oedd yn y tyrrau 
y swyddogion tân 
y rhai oedd yn yr ardal, nad oedd yn gallu dianc 

y milwyr a fu’n brwydro yn Irac ac Afghanistan
y dinasyddion, a gafodd eu dal yng nghanol rhyfel na ddechreuwyd ganddyn nhw.

Ac rydym yn meddwl am fyd gwell 
ac am yr heddwch y dylai pawb ohonom weithio tuag ato.

Gweddi
Dyma’r weddi a ddefnyddiwyd gan gaplan i Wasanaeth Tân Efrog Newydd a fu farw ar 9/11 pan oedd yn gweithio gyda’i gydweithwyr yn y tyrau dwbl:

Arglwydd, tywys fi i ble’r wyt ti eisiau i mi fynd,
gad i mi gyfarfod y rhai rwyt ti eisiau i mi eu cyfarfod,
dywed wrthyf beth rwyt ti eisiau i mi ei ddweud; 
a chadw fi allan o dy ffordd.
Amen

(addasiad o eiriau Mychal Judge, caplan Pabyddol gwasanaethau tân Efrog Newydd)

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon