Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

The end of the world as we know it

Ystyried gwahanol syniadau am ddiwedd y byd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried gwahanol syniadau am ddiwedd y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar YouTube mae nifer o erthyglau byr am ddiwedd y byd. Cofiwch wirio’r hawlfraint

Gwasanaeth

  1. Tybed a ydych chi wedi gwneud popeth rydych chi eisiau ei wneud?  Os ydych chi’n 12 oed, mae’n siwr nad ydych chi.  Hyd yn oed os ydych chi lawer yn hyn – yn 40 oed, 60 oed, neu’n 80 oed, mae’n siwr fod rhai pethau heb eu gorffen: y mannau nad ydych chi wedi eu gweld, pobl nad ydych chi wedi eu cyfarfod, pethau nad ydych chi wedi eu cyflawni.

    Pe baech chi’n gwybod fod y byd yn mynd i ddod i ben ar amser penodol, fyddech chi’n ceisio gwneud yr holl bethau hynny?  Sut fyddech chi’n paratoi eich hunan?

  2. Mae syniadau gwahanol ynghylch sut y bydd y byd yn dod i ben, a gellir eu rhannu’n syniadau crefyddol a secwlar.  Gadewch i ni edrych ar y syniadau secwlar yn gyntaf.

    Mae’n siwr fod y rhan fwyaf ohonoch wedi gweld ffilmiau fel Deep Impact neu Armageddon, lle mae meteoryn anferth ar lwybr uniongyrchol at y Ddaear, ac a fydd yn dinistrio’r blaned. 

    Yn y ffilm The Day after Tomorrow, mae newidiadau mawr i’r hinsawdd yn newid bywydau pawb a phopeth ar y Ddaear.

    Mae syniadau o’r fath yn cael eu galw’n ELEs yn y Saesneg (ynganir y gair fel ‘Ellies’).  Ystyr hynny yw ‘extinction level events’ – digwyddiadau ar lefel difodiant.  Mae ELEs yn cynnwys sawl tsunami anferth; methiant yng nghnydau’r holl fyd, sy’n arwain at newyn enfawr; afiechyd tebyg i’r Pla; neu hyd yn oed losgfynydd anferth.  Mae rhai gwyddonwyr yn credu bod y llosgfynydd tawel dan Barc Yellowstone yn Unol Daleithiau America wedi hen gyrraedd cyfnod pan ddylai ffrwydro, a phan fydd hynny’n digwydd, bydd bywyd yn newid i bawb a phopeth ar y Ddaear.

    Mae gwyddonwyr eraill wedi ystyried oes yr haul, gan amcangyfrif y bydd yn dechrau marw ymhen 5 biliwn o flynyddoedd, gan ddod yn seren enfawr ac yna oeri’n ddim.

    Mae’r rhain i gyd yn bosibiliadau sy’n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau naturiol – hynny yw, digwyddiadau sy’n deillio o natur y greadigaeth, ond beth am ran bodau dynol?

    Mae newid yn digwydd i’r hinsawdd – a allai ein hymddygiad arwain at yr Oes Iâ nesaf, neu beri i’r blaned gynhesu ac i lefel y môr godi?  Neu a fyddwn yn wynebu rhyfel niwclear, a dinistr popeth byw?

  3. Beth mae crefyddau yn ei ddweud am Armageddon - diwedd y byd?

    Mae’r tair crefydd sy’n arddel un Duw - Cristnogaeth, Islam ac Iddewiaeth - i gyd yn dweud y bydd pob un ohonom yn cael eu barnu gan Dduw ar ddiwedd y byd.

    Efallai eich bod chi wedi clywed am y ‘Gwynfyd’ neu’r ‘Rapture’ a oedd i fod i ddigwydd ar 21 Mai 2011. (Mae hyn yn cyfeirio at y gred y bydd Cristnogion yn cael eu codi oddi ar y ddaear hon a’u huno â Christ pan ddaw unwaith eto i’r ddaear.  Bydd y rhai nad ydyn nhw’n Gristnogion yn cael eu gadael ar ôl.)  Penderfynwyd ar 21 Mai 2011 fel dyddiad y Gwynfyd gan grwp bychan o Americaniaid sy’n credu y bydd hyn yn digwydd.  Yn ôl y grwp hwn, bydd diwedd y byd nawr yn digwydd ar 21 Hydref 2011!

    Er hynny, os bydd y diwrnod hwnnw’n pasio heb olwg o ddiwedd y byd, mae proffwydoliaeth gan un o lwythau’r Maya yn dweud y daw’r byd i ben ar 21 Rhagfyr 2011.

    Mae’n siwr y byddai’n well i bawb ohonom ofalu ein bod ni wedi gwneud cymaint ag y gallwn ni!

Amser i feddwl

Pe bai’r byd yn dod i ben yfory, beth fyddech chi’n ei wneud heddiw?
Pa newidiadau fyddech chi’n eu gwneud i’ch perthynas gyda phobl eraill?
Wrth bwy y byddech chi’n dweud eich bod yn eu caru? 
I bwy y byddech chi’n diolch?
Sut y byddech chi’n paratoi?

Gweddi
Rydym yn diolch i ti, o Dduw, nad oes unrhyw un yn gwybod pa bryd y daw’r byd i ben. 
Ond rydym yn cydnabod yr angen i unioni
rhai pethau yn ein bywydau y mae gennym gywilydd ohonyn nhw.
A heddiw, fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i wneud y diwrnod yn ddiwrnod da!

Cerddoriaeth

Y gerddoriaeth gan y band R.E.M. ‘The end of the world as we know it’. (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y we)

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon