Gwersi Wrth Dyfu Berwr
Egluro sut y gall myfyrwyr wneud gwahaniaeth yn y byd trwy hau geiriau a gweithredoedd o gariad a gwirionedd.
gan Tim and Vicky Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Egluro sut y gall myfyrwyr wneud gwahaniaeth yn y byd trwy hau geiriau a gweithredoedd o gariad a gwirionedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Blwch o ferwr mwstard o’r archfarchnad.
- Papur cegin, hambwrdd plastig neu dun, potel o ddwr, paced o hadau berwr mwstard.
- Gellir darganfod gwybodaeth am ferwr mwstard a sut mae modd ei dyfu ar: http://www.bbc.co.uk/dna/h2g2/A20928783Efallai y byddwch yn dymuno argraffu’r cyfarwyddiadau canlynol ar y modd y mae tyfu berwr, i’w dosbarthu ar ddiwedd y gwasanaeth i’r disgyblion hynny sydd yn dangos diddordeb.
- Plygwch nifer o ddalennau o bapur cegin i faint addas i orwedd yn yr hambwrdd a gosodwch nhw yn yr hambwrdd.
- Gan ddefnyddio jwg, cwpan, neu lestr cyffelyb, arllwyswch ychydig o ddwr yn araf ar y papur cegin nes ei fod yn ddigon i’w wlychu, ond peidiwch â rhoi gormod o ddwr.
- Gwasgarwch yn hael ac mor wastad â phosib nifer o hadau berwr ar y papur cegin.
- Gosodwch yr hambwrdd mewn lle addas, fel sil ffenestr, lle bydd yn derbyn y mwyaf o oleuni’r haul.
- Bydd yn ofynnol i chi edrych ar yr hadau a’r dwr yn ddyddiol er mwyn gofalu nad yw’r papur cegin yn sychu.
- Ymhen 12 i 14 diwrnod, fe ddylai’ch berwr fod wedi tyfu i’w lawn dwf, oddeutu 2 fodfedd o uchder, ac yn barod i’w gynaeafu; gellir gwneud hyn gyda siswrn miniog. Defnyddiwch ridyll i olchi’r berwr dan y tap dwr oer, rhowch ysgydwad iddo i’w sychu, a chadwch ef mewn cynhwysydd aerdyn. Wedi ei gynaeafu, ni fydd y berwr yn para yn hwy na thua 48 awr. - Y rhan o’r Beibl yw Mathew 13.31–32.
Gwasanaeth
- Dangoswch y berwr, ac edrychwch a oes unrhyw un yn ei adnabod fel berwr. Gofynnwch: Pwy sy’n hoffi berwr yn eu brechdanau? Eglurwch fod yna wahanol fathau o ferwr: Mae berwr cyffredin (sydd hefyd yn cael ei alw’n ferwr y tir neu’n ferwr Americanaidd) a berw thale yn ddau fath, a’r ddau fath yn cael eu tyfu mewn pridd. Un math cyffredin o ferwr yw berwr mwstard, nad oes angen pridd arno i dyfu ynddo.
Cymysgedd yw berwr mwstard o egin mwstard gwyn a berwr. Mae iddo flas perlysiog a phupurog. Mae gan ferwr lawer o ddefnydd - er enghraifft, mewn brechdanau wy, i addurno byseddfwyd mewn buffét, neu mewn cawl. - Gofynnwch a oes unrhyw un yn hoff o arddio, a cheisiwch ganfod a oes unrhyw un o’r myfyrwyr erioed wedi tyfu berwr neu flodau’r haul. Eglurwch fod berwr mwstard, fel blodyn yr haul, yn hawdd ei dyfu. Nid oes angen gardd na phridd arno. Gellir ei dyfu unrhyw amser o’r flwyddyn, ond mae’n tyfu orau yng ngolau’r haul.
Dangoswch eich hambwrdd, eich papur cegin a’r dwr, ac eglurwch mai’r cyfan sydd ei angen arnoch yw cynhwysydd bas addas, ychydig ddalennau o bapur cegin, sil ffenest sydd yn wyneb yr haul a digon o ddwr. Ac, wrth gwrs, paced o hadau berwr! (Dangoswch y camau cychwynnol, a chrynhowch weddill y camau: gweler y rhan sy’n nodi’r paratoadau uchod.) - Darllenwch y ddameg am yr hedyn mwstard a adroddodd Iesu (Mathew 13.31–32):
‘Mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard a gymerodd dyn a’i hau yn ei faes. Dyma’r lleiaf o’r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw’r mwyaf o’r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.’
Gofynnwch: A ydych erioed wedi teimlo na fedrwch chi ar ben eich hun wneud unrhyw wahaniaeth, oherwydd eich bod yn teimlo mor ddi-nod? Os felly, mae’r ddameg fach hon a adroddodd Iesu yn gweddu i’r dim ar eich cyfer chi, oherwydd mae’n ein hatgoffa bod yr hedyn mwstard, er mor fychan a di-nod, â’r potensial i dyfu a bod yn ddefnyddiol iawn. Dyma’n union sy’n digwydd pan fyddwn yn gofalu am y naill a’r llall ac yn mwynhau bywyd i’r eithaf. - Rydych chi yma yn yr ysgol hon yn awr, ac yn byw yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 2011, ac fe allwch chi hefyd wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, gwahaniaeth allai fod yn arwyddocaol.
Wrth i chi hau hadau cariad yn y pethau hynny a ddywedwch ac a wnewch, i’r sawl sy’n haeddu yn ogystal â’r sawl sy’n annheilwng, bydd Duw wrth weithio trwoch chi yn gallu cynhyrchu cynhaeaf o ddaioni yn y byd sydd o’ch cwmpas chi.
Mae’r potensial i gyd yna - y cyfan yr ydym ei angen yw amynedd a disgwyl yn ddyfal am y cynhaeaf. Craffwch am arwyddion o’r cynhaeaf. Gwrandewch ar yr hyn y bydd pobl yn ei ddweud heddiw a’r wythnos hon - efallai y byddwch yn cael eich canmol am rywbeth, neu fe fydd rhywun yn gofyn eich cyngor chi ar rywbeth.
Parhewch i fyw’n onest, yn ffyddlon ac yn siriol wrth i chi aros am arwyddion o gynhaeaf daioni trwy eich bywyd. Byddwch yn ymwybodol eich bod yn gweithio ar ran Duw a’r byd pan fyddwch yn byw fel hyn! - Gallwch awgrymu bod y myfyrwyr yn tyfu ychydig o ferwr. Fel y bydd y disgyblion yn ymadael â’r gwasanaeth, rhowch daflen gyfarwyddiadau i bawb sydd â diddordeb mewn derbyn un.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y cyfleoedd sydd ar gael i chi ledaenu cariad a charedigrwydd yn y lle hwn heddiw.
Sut y byddwch yn mynd ati i wneud hynny?
Gweddi
Annwyl Arglwydd,
diolch i ti nad wyf fi yn ddi-nod yn dy olwg di, ond yn hynod werthfawr.
Helpa fi, os gweli di’n dda, i fod yn ffyddlon i’th alwad
trwy hau hadau ffydd, gobaith a chariad heddiw
fel bo’n bosib cael cynhaeaf o ddaioni yn y byd hwn.
Emyn
Awgrymir chwarae cerddoriaeth emyn John Rutter’s hymn, ‘Look at the world’ (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we).