Dal Ati
Annog y myfyrwyr i ddal ati hyd yn oed pam fydd pethau’n mynd yn anodd.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ddal ati hyd yn oed pam fydd pethau’n mynd yn anodd.
Paratoad a Deunyddiau
- Ar gyfer y clip fideo, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=Nifq3Ke2Q30 (gwelwch adran 2).
- Y darlleniadau o’r Beibl yw Philipiaid 3.14; Rhufeiniaid 5.3 a Galatiaid 6.9.
Gwasanaeth
- Byddai geiriadur yn debyg o ddiffinio’r gair dyfalbarhad fel: y rhinwedd o ddal ati i geisio cyflawni nod neilltuol er gwaethaf anawsterau.
Mae dyfalbarhau yn anodd. Mae’n golygu peidio â rhoi’r gorau iddi hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu anawsterau mawr. Mae dywediad Saesneg cyfarwydd da sy’n dweud: ‘When the going gets tough, the tough get going’!
Yn ein bywyd ysgol ac yn ein bywydau y tu allan i’r ysgol, fe fydd pob un ohonom yn dod ar draws adegau pan fydd pethau’n anodd i ni. Yna, fe fydd yn rhaid i ni benderfynu ydyn ni’n rhoi’r gorau iddi neu’n dal ati ac yn dyfalbarhau? - Mae’r clip fideo yn dangos athletwr ifanc, Derek Redmond, a oedd wedi ymarfer ar hyd ei fywyd ar gyfer y ras rydych chi’n mynd i’w gweld nawr. (Y dyn sydd i’w weld ar y trac yn ei ymyl yw ei dad). (Dangoswch y clip fideo – gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)
- Yr wythnos ddiwethaf/mis diwethaf roeddem yn meddwl am y flwyddyn ysgol newydd; nod y gwasanaeth heddiw yw eich annog i ddal ati. Efallai y byddwch chi’n dod wyneb yn wyneb ag anawsterau yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Fe allai rhai ohonoch chi deimlo bod chwaraeon yn anodd, efallai y bydd rhai eraill yn gweld y gwaith academaidd yn anodd, efallai y bydd rhai’n cael anhawster i wneud ffrindiau. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi! Daliwch ati, gan ddyfalbarhau.
Yn y clip, mae tad Derek Redmond yn dod o’r dyrfa i helpu ei fab gyflawni ei nod o groesi’r llinell derfyn. Yn ein bywydau, fe fyddwn ninnau angen help ambell dro i ddal ati. Fyddwch chi byth yn gwybod pryd y bydd hi efallai’n dro i chi fod angen help eraill. Felly, gadewch i ni annog ein gilydd i ddal ati er mwyn cyflawni ein nod. - Mae llawer o adnodau yn y Beibl sy’n sôn am ddyfalbarhau. Dyma dair enghraifft:
– ‘... yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr ...’ (Philipiaid 3.14).
– ‘... oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál, ac o’r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith’ (Rhufeiniaid 5.3).
– ‘Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.’ (Galatiaid 6.9).
Amser i feddwl
Dyma rai dyfyniadau eraill am ddyfalbarhad hefyd. Fe wnaf eu darllen, ac oedi am ysbaid ar ôl pob un i roi cyfle i chi feddwl am eu hystyr:
– ‘Roedd y dderwen fwyaf, un tro, yn fesen fach a ddaliodd ei thir’ (awdur anhysbys).
– ‘Pan fydd y byd yn dweud, “Rwy’n rhoi’r gorau iddi,” mae gobaith yn sibrwd, “Rho un cynnig arall arni.” (awdur anhysbys).
– ‘Ystyriwch y stamp postio: mae ei ddefnyddioldeb yn ymwneud â’r gallu i lynu wrth un peth nes mae’n cyrraedd y nod’ (addasiad o eiriau Josh Billings).
– ‘Nid fy mod mor graff â hynny, dim ond fy mod yn oedi’n hwy gyda phroblemau’ (addasiad o eiriau Albert Einstein).
Gweddi
Annwyl Dduw,
weithiau mae’n anodd dal ati pan fyddwn ni’n teimlo bod pethau’n anodd,
neu pan fydd pethau’n ymddangos eu bod yn mynd o chwith.
Helpa ni beidio â rhoi’r gorau iddi, ond dyfalbarhau bob amser.
Helpa ni i fod yn bobl sy’n annog eraill i ddal ati,
am fod nod pob un ohonom mewn bywyd yn wahanol.
Diolch nad wyt ti byth yn rhoi’r gorau i ofalu amdanom ni.