Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sukkot

Archwilio pwysigrwydd gwyl Sukkot i’r bobl Iddewig, a’r syniad mai cael amddiffyniad gan Dduw yw’r peth pwysicaf mewn bywyd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio pwysigrwydd gwyl Sukkot i’r bobl Iddewig, a’r syniad mai cael amddiffyniad gan Dduw yw’r peth pwysicaf mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Meddyliwch am yr holl bethau sy’n eich amddiffyn chi rhag yr elfennau. Wrth i fis Hydref agosáu, y dydd yn byrhau, a’r tywydd yn mynd yn fwy gaeafol, rwy’n siwr eich bod i gyd yn falch bod gennych chi got ar ddiwrnod oer, yn falch o ambarél i gysgodi oddi tani pan fydd hi’n arllwys y glaw, ac yn ddiolchgar am gartref i fynd iddo.

  2. Mae gwyl Iddewig, y Sukkot, sydd hefyd yn cael ei galw’n wyl y Tabernaclau, yn coffau’r blynyddoedd a dreuliodd yr Iddewon yn yr anialwch ar eu ffordd i Wlad yr Addewid. 

    Roedd y bobl wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft, ond roedd Moses wedi eu harwain allan o’r Aifft: hon oedd y ddihangfa fawr a elwir yr Exodus. Ar ôl yr Exodus, fe dreuliodd y bobl 40 mlynedd yn yr anialwch, heb gartrefi parhaol. Roedd yn rhaid iddyn nhw adeiladu cartrefi dros dro allan o unrhyw ddefnyddiau y gallen nhw ddod o hyd iddyn nhw yn yr anialwch. Llochesi sylfaenol syml iawn oedd y llochesi hyn. Rhywbeth tebyg yn ein hoes ni fyddai gwersyll ffoaduriaid, neu bentrefi pebyll sy’n cael eu codi ar ôl trychineb naturiol fel daeargryn, er enghraifft. 

    Roedd llochesi’n angenrheidiol i amddiffyn y bobl, nid yn unig rhag y tywydd ond hefyd rhag eu gelynion, rhag lladron a rhag anifeiliaid gwyllt.

    Yr enw a roir ar y llochesi dros dro hyn gan y bobl Iddewig yw sukkot (enw Hebraeg lluosog yw sukkot; y gair unigol yw sukkah) a dyna pam y gelwir yr wyl hon, sy’n cofio ac yn dathlu’r adeg hon yn hanes yr Iddewon, yn wyl y Sukkot. 

    Nid yw llochesi dros dro yn adeiladau cryf iawn, fel y bydd llawer ohonoch chi sydd wedi bod yn gwersylla ryw dro yn gwybod, neu’r rhai ohonoch chi fu adeiladu ‘den’ i chi eich hunain, pan oeddech chi’n iau. Bydd y glaw yn diferu trwy’r to, bydd y gwynt yn eu chwalu, ac mae’n anodd cadw’r oerni allan ohonyn nhw. Ond roedd yr Iddewon yn gwybod bod Duw yno gyda nhw i roi amddiffyniad ychwanegol iddyn nhw, am mai nhw oedd y bobl yr oedd Duw wedi eu dewis.

  3. Sut y gall teulu Iddewig modern ddathlu’r wyl hon a chofio’r amser a dreuliodd eu hynafiaid yn yr anialwch? Un ffordd yw trwy adeiladu llochesi sukkot modern yn eu gerddi. Neu, os nad oes gardd ganddyn nhw, na lle y tu allan i’r ty, mae’n bosib iddyn nhw helpu i adeiladu sukkah yn y synagog.

    Mae rheolau caeth ynghylch pa ddefnyddiau gaiff eu defnyddio i adeiladu’r sukkah, a sut yn union y caiff ei adeiladu. Bydd ein darllenwyr yn awr yn nodi’n union, gam wrth gam, sut i adeiladu sukkah.

    Darllenydd 1  Yn ddelfrydol dylai sukkah fod â phedair wal, ond mae’n bosibl cael dim ond tair. Gallai wal adeilad arall gyfrif fel un, ac felly bydd rhai Iddewon yn adeiladu eu sukkah ar wal gefn eu cartref. 

    Darllenydd 2  Dylai’r waliau gael eu hadeiladu o unrhyw ddefnydd sy’n gallu gwrthsefyll gwynt arferol. Mae canfas yn enghraifft dda o ddefnydd modern. Fe all hwn fod wedi ei fenthyca ond ddim wedi ei ddwyn. 

    Darllenydd 1  Dylai’r sukkah fod yn ddigon mawr i chi a’ch teulu fyw ynddo. 

    Darllenydd 2  Rhaid i’r to neu’r gorchudd fod wedi ei wneud o ddefnydd sydd wedi tyfu o’r ddaear. Bydd hyn yn cynnwys canghennau a brigau. Mae’n bosib hefyd defnyddio lledr ac unrhyw fath o fetel. Nid yw’n bosib defnyddio coeden sy’n tyfu, felly nid yw’n bosib codi eich lloches o dan goeden fawr sy’n tyfu yn eich gardd, er enghraifft, ac nid yw’n bosibl defnyddio unrhyw ran o’r goeden honno. 

    Darllenydd 1  Rhaid gosod y to yn olaf. Rhaid hefyd gadael y to yn rhydd. Rhaid i wead y to fod yn ddigon llac i chi allu gweld y sêr trwyddo, ond ddim mor llac fel bod mwy o olau haul yn dod trwyddo nag sydd o gysgod.

  4. Mae Iddewiaeth yn grefydd y disgwylir i chi fod yn weithredol ynddi; rhaid i chi ‘fyw’ eich crefydd. Mae gwyl y Sukkot yn enghraifft dda o hynny. 

    Mae’r arferiad o ail fyw neu ailberfformio’r gorffennol yn golygu bod yr Iddewon yn gallu deall a dangos empathi  tuag at eu hynafiaid gyda’r anawsterau a ddaeth i’w rhan wrth iddyn nhw geisio cyrraedd gwlad yr Addewid .

    Mae’r Torah (y gyfraith Iddewig) yn gorchymyn yr Iddewon i fyw yn y sukkot neu’r lloches am saith diwrnod yr wyl. 

    Darllenydd 2  Yn Lefiticus 23.42–43 mae’n nodi: ‘Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod ; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll, er mwyn i’ch disgynyddion wybod i mi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll [sukkot]  pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw’r Arglwydd eich Duw.’ 

    Yng ngwlad Israel, bydd Iddewon yn gweithredu’r gorchymyn hwn yn llythrennol, ac yn byw yn eu sukkot am saith diwrnod. Ond mae mis Hydref yn ein gwlad ni yn wahanol iawn i fis Hydref yng ngwlad Israel, sef y mis pryd y caiff gwyl y Sukkot ei chynnal. Felly, fe ganiateir eithriadau: os yw’r tywydd a’r hinsawdd yn ei gwneud hi’n anodd i’r bobl fyw yn eu sukkot, yna mae’r Iddewon yn cyflawni eu gorchymyn trwy o leiaf fwyta eu holl brydau bwyd yn y lloches.

  5. Defod arall sydd ynghlwm â’r Sukkot yw’r ddefod a elwir y Pedwar Rhywogaeth. Yn y seremoni hon, mae tri math o gangen ac un math o ffrwyth yn cael eu clymu gyda’i gilydd (sef ffrond o balmwydden datys; cangen gyda dail arni oddi ar y planhigyn myrtwydd; cangen gyda dail arni oddi ar y pren helyg; ac etrog, sef math o ffrwyth sitraidd). Bob dydd, yn ystod yr wyl, mae Iddewon yn ymuno mewn gorymdaith, gan chwifio eu canghennau a’r ffrwyth. Fe fydd gweddïau’n cael eu hadrodd, fe fyddan nhw’n chwifio’r canghennau i fyny ac i lawr, ac i gyfeiriadau pedwar ban y byd - gogledd, de, dwyrain, gorllewin - i ddangos bod Duw ym mhob man.

  6. Mae’r syniad bod Duw ym mhob man yn hanfodol i’r wyl, ac yn ganolog iddi. Mae’r rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn byw mewn tai neu fflatiau sydd â waliau cryf a tho cadarn iddyn nhw.

    Mae gwyl y Sukkot, a’r gorchymyn i fyw neu dreulio amser allan mewn lloches dros dro, ddigon bregus, yn rhoi’r profiad a’r ddealltwriaeth o fod yn agored i’r byd. Mae hefyd yn atgoffa’r bobl o’r amddiffyniad y mae Duw’n ei roi iddyn nhw. Duw yw’r un a’r unig amddiffyniad gwir a real, a gwarchodwr rhag pob peth.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y bobl hynny sy’n byw fel ffoaduriaid ar hyn o bryd. (Efallai yr hoffech chi daflunio rhai delweddau.)

Treuliwch foment neu ddwy yn bod yn ddiolchgar am y cartref sydd gennych chi.

Gweddi
Annwyl Dduw, ti sydd wedi gwneud y byd, a phopeth sydd ynddo.
Diolch i ti am roi’r amddiffyniad rydw i’n gofyn amdano
a’r amddiffyniad rydw i ei angen,
yn y lloches mae fy nghartref yn ei roi i mi,
a hefyd mewn ffyrdd eraill nad wyf yn gallu eu gweld.
Helpa fi i ddeall sut y gwnaeth Iddewon yr Exodus
ddefnyddio eu ffydd i roi amddiffyniad iddyn nhw,
a helpa fi i wybod y gallaf finnau wneud yr un fath.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon