Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhaid Bod Rhywbeth Mwy Na Hyn

Cydnabod ac archwilio’r synnwyr o’r rhywbeth mwy hwnnw sydd y tu mewn i bob un ohonom.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cydnabod ac archwilio’r synnwyr o’r rhywbeth mwy hwnnw sydd y tu mewn i bob un ohonom.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dau ddarllenydd.

  • Bwrdd, dwy gadair, dau becyn bwyd.

  • Mae’n bosib cyfoethogi’r myfyrdod trwy chwarae cerddoriaeth gefndirol a thaflunio delweddau priodol ar y sgrin (gwelwch yr ‘Amser i feddwl’).

  • Adnod o’r Beibl: ‘Gwnaeth (Duw) bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl, eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o’r dechrau i’r diwedd’ (Llyfr y Pregethwr 3.11).

Gwasanaeth

  1. Daw dau fachgen i mewn ac eistedd wrth y bwrdd gyda’u pecynnau bwyd o’u blaen.

    Arweinydd
      Mae un o’r ddau fachgen yma wedi dod yn ei ôl i’r ysgol heddiw ar ôl bod yn angladd ei nain ddoe. Gadewch i ni wrando ar eu sgwrs wrth iddo ef a’i ffrind fwyta’u cinio.

    Darllenydd 1  Sut aeth pethau yn yr angladd? Mae’n siwr bod ddoe wedi bod yn ddiwrnod anodd i chi. Dydw i ddim wedi bod mewn angladd, erioed.

    Darllenydd 2  Na, doeddwn innau ddim wedi bod mewn un ychwaith, tan ddoe. Roedd o’n deimlad rhyfedd rywsut. Dydw i ddim wedi bod yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth o gwbl. Roeddwn i bob amser yn credu mai dim ond un bywyd yr oedden ni i gyd yn ei gael, pawb yn marw yn ei dro a dyna’r cyfan. Atalnod llawn. Y diwedd. Ond, nawr bod rhywun oedd yn perthyn yn agos i mi wedi marw, alla i ddim peidio â meddwl bod rhywbeth mwy na hyn.

    Darllenydd 1  Rydw i’n gwybod beth wyt ti’n ei feddwl. Dydw i ddim yn grefyddol felly, ond waeth pa mor galed rydw i’n ceisio, allaf innau ddim peidio â chredu bod rhywbeth mwy i fywyd na dim ond y dimensiwn corfforol.

    Darllenydd 2  Wel, mae’n debyg y bydda i’n gallu symud ymlaen oddi wrth feddyliau fel hyn cyn hir. Rydw i’n naturiol yn teimlo dipyn yn drist ar hyn o bryd am fod fy nain wedi marw, dyna’i gyd. Pethau gwyddonol yw fy niddordebau i, ac mae’n debyg y bydd gwyddoniaeth yn gallu profi nad oes y fath beth â Duw yn bod, ac nad oes bod dwyfol allan acw yn rhywle sy’n rheoli popeth. Deunydd storïau a’r dychymyg yw hynny, nid rheswm a dadl synhwyrol.

    Darllenydd 1  Dydw i ddim mor siwr, wyddost ti. Mae rhywbeth yn ein gwneud ni, fodau dynol, yn wahanol i anifeiliaid, yn wir. A pham y byddem ni i gyd yn cael ein cyfareddu gymaint gan yr anhysbys os nad ydyn ni’n credu bod rhywbeth arall mwy na hyn allan yno yn rhywle?

    Mae’r ddau fachgen yn parhau â’u sgwrs yn dawel.

  2. Arweinydd  Gadewch i ni adael y sgwrs am foment a dal ar y pwynt olaf hwn; pam rydyn ni’n cael ein cyfareddu gan yr anhysbys os ydyn ni ddim yn credu bod rhywbeth mwy na hyn? Onid yw’n wir ein bod ni, fel bodau dynol, wedi bod ag obsesiwn ar hyd yr oesoedd gyda’r anhysbys? 

    Mae rhai pobl yn ymroddi eu bywydau i ymdrin ag aliens neu fodau estronol, UFOs a bywyd ar blanedau eraill. Mae ffilmiau wedi eu creu am fywyd mewn dimensiynau eraill. Bydd llawer ohonoch wedi gweld The MatrixInception a The Adjustment Bureau, i enwi dim ond rhai o’r ffilmiau diweddaraf o’r math yma. 

    Mae nifer fawr i lyfrau hefyd wedi eu hysgrifennu am anfarwoldeb a’r goruwchnaturiol. Fe fydd llawer ohonoch wedi darllen Twilight, er enghraifft, a’r llyfrau Twilight eraill. 

    Rydym yn chwilfrydig gyda’r syniad o deithio trwy amser a theithio trwy’r gofod. Faint ohonom ni sydd wrth ein bodd gydag anturiaethau Dr Who ar y teledu? Fe fyddwn yn darllen mewn cylchgronau am bobl sy’n dweud eu bod wedi bod yn y nefoedd, yno ac yn ôl, neu wedi cael profiad o fod ar fin marw - ‘near death experiences’. Fyddwn ni ddim yn gwybod a allwn ni gredu’r storïau ai peidio, ond rydym ar yr un pryd yn cael ein cyfareddu ganddyn nhw. 

    Mae pobl ffydd ledled y byd, trwy gydol hanes, wedi credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth, pa un a yw’r bywyd hwnnw yn y nefoedd, ar ffurf  ailymgnawdoliad, neu’n rhyw fath o athrawiaeth arall.

  3. Mae’r ddau fachgen yn ail ddechrau eu sgwrs, yn eglur ac uchel, ac yn  fwy bywiog y tro hwn.

    Darllenydd 2
      O, mae hyn yn chwerthinllyd. Fe fyddi di’n ceisio fy nghael i fynd i’r eglwys neu’r capel gyda hyn, a dydw i ddim yn mynd i wneud hynny!

    Darllenydd 1  Nid dyna beth rydw i’n ei ddweud. Dim ond meddwl yn uchel yr ydw i, ac yn holi a yw’r teimlad sydd gen i fod rhywbeth mwy na hyn oherwydd mai dyna sut y cawsom ni ein creu?

    Darllenydd 2  Nid cael ein creu a wnaethom ni. Digwydd ar hap wnaeth pethau. Cofio? Y big bangac ati!

    Darllenydd 1  Ie, efallai, ond mae’n ymddangos bod rhywbeth ysbrydol y tu mewn i bob un ohonom. Dweud yr ydw i na ddylem ni frwydro yn erbyn hynny, dyna i gyd.

    Mae’r sgwrs rhwng y ddau fachgen yn tawelu i’r cefndir unwaith eto.

  4. Arweinydd  Efallai bod pwynt gan Ddarllenydd 1 (rhowch enw’r myfyriwr). Yn yr Hen Destament, yn y Beibl, mae awdur Llyfr y Pregethwr yn dweud bod Duw wedi rhoi synnwyr o orffennol a dyfodol ym meddyliau dynion a merched.

    A dyma beth mae’r awdur modern Americanaidd, Rob Bell, yn ei ddweud yn ei lyfr newydd Love Wins (Collins, 2011):

    Religions should not surprise us. We crave meaning and order and explanation. We’re desperate for connection with something or somebody greater than ourselves. This is not new’ (tudalen 153).

    Ddylai crefydd ddim peri syndod i ni. Rydyn ni’n awchu am ystyr a threfn ac eglurhad. Rydyn ni’n awyddus iawn i gysylltu â rhywbeth neu rywun mwy na ni ein hunain. Nid yw hyn yn beth newydd.
  1. Arweinydd  Yn ôl â ni at y bechgyn!

    Darllenydd 2
      Felly, ai dyna lle’r wyt ti’n mynd i adael pethau?

    Darllenydd 1  Na, dim mewn gwirionedd. Ti ydi’r un sydd â’r holl atebion terfynol. Ti ydi’r un sy’n hoffi rhoi’r atalnod llawn. Mae’n well gen i farc cwestiwn.

    Darllenydd 2  Wel, os mai dim ond un bywyd a gawn ni, fel rydw i’n credu’n gryf, fe fyddai’n well i mi fynd ati i’w fyw, ac nid dim ond siarad amdano. Rydw i am fynd rwan. Hwyl i ti!

    Darllenydd 1  Mmm. Ie. Ac rydw innau’n mynd i ddal i bendroni am y peth. Mae gen i ddiddordeb dal ati i feddwl am hyn.

    Mae’r ddau yn gadael y llwyfan.

Amser i feddwl

Roedd y sgwrs glywson ni rhwng y ddau yn sicr yn ein cymell ninnau i feddwl.
Diolch fechgyn!

Efallai eich bod chithau’n credu mai dim ond y bywyd hwn sydd ar gael. Neu, efallai eich bod yn credu rhaid bod rhywbeth mwy na hyn. Beth bynnag rydych chi’n ei gredu, gwrandewch ar eiriau’r myfyrdod canlynol, ac os hoffech chi, fe allech chi eu gwneud yn eiriau i chi eich hunan.

Mae amser fel petai’n aros yn llonydd pan fydd y tonnau’n torri ar y traeth.
Mor hawdd yw oedi a rhyfeddu at liwiau godidog machlud haul.
Mae manylion y patrwm a’r lliwiau ar blu cynffon y paun yn fy nghyfareddu.

Mae fy ysbryd yn cyffroi gydag alaw’r ffliwt yn codi’n uwch na seiniau’r gerddorfa.
Fe fydda i’n colli’r synnwyr o amser wrth syllu ar gampwaith ambell arlunydd.
Fe fydda i’n cael fy swyno gan y ddawns ac yn dymuno iddi barhau am byth.

Mae dyn yn adeiladu tyrau uchel i gyrraedd y nefoedd.
Mae dyn yn codi pontydd i bontio’r ehangder mwyaf.
Man dyn yn dyheu am bethau mwy, gwell, cyflymach, a rhagorach.

Fe fydd pobl ifanc yn syrthio mewn cariad am y tro cyntaf , ac yn dymuno i’r teimlad barhau am byth.
Fe fydd plentyn yn ennill cystadleuaeth, ac yn dymuno costrelu’r gorfoledd.
Fe fydd merch yn gallu ymgolli mewn llyfr da i’r fath raddau fel na fydd eisiau cyrraedd y tudalen olaf.

Mae Duw wedi gosod tragwyddoldeb yng nghalonnau dynion a merched.
Ac yng nghalonnau pobl ifanc. A phlant.
Yr holl bobl. Ledled y byd. Am byth.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon