Y We Yn Ugain Oed
Ystyried y gwahaniaeth y mae’r We Fyd Eang wedi ei wneud yn ein bywydau.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y gwahaniaeth y mae’r We Fyd Eang wedi ei wneud yn ein bywydau.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr dudalennau cartref rai o’r gwefannau y bydd y myfyrwyr yn eu defnyddio’n rheolaidd, fel Facebook, YouTube ac e-bay. Dangoswch y rhain wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.
- Llwythwch i lawr gerddoriaeth bop o’r flwyddyn 1991, i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth ac wrth iddyn nhw ymadael.
- Llwythwch i lawr gerddoriaeth electronig (fel cerddoriaeth gan Kraftwerk) i’w chwarae yn ystod yr ‘Amser i feddwl’.
Gwasanaeth
- Mae’r peth rydyn ni’n mynd i sôn amdano heddiw ym mhob man o’n cwmpas ni, ond allwn ni ddim ei weld na’i glywed, na’i gyffwrdd. Mae’n lledaenu ledled y byd, ond nid yw’n cymryd unrhyw le. Mae’n gadael i bobl rannu a chydgyfrannu adnoddau a gwybodaeth heb iddyn nhw orfod cwrdd ag unrhyw un nag hyd yn oed adnabod eu cydweithwyr. Ac mae’n eiddo i’r holl ddynoliaeth.
- Rydw i’n sôn, wrth gwrs, am y We Fyd Eang. Mae’n ugain oed eleni, ac ers ei dyfeisio yn y flwyddyn 1991, mae wedi newid bywydau ac amgylchedd biliynau o bobl.
– Rydyn ni, nawr, yn gallu cael mynediad at wybodaeth o bob cwr o’r byd oddi ar gyfrifiadur personol neu’r ffonau symudol diweddaraf.
– Rydyn ni’n gallu cyfathrebu a chymdeithasu heb orfod gadael y ty.
– Rydyn ni’n gallu cael mynediad at filiynau o ddogfennau, llyfrau, fideos, a gemau ar-lein.
– Ac, wrth gwrs, mae’r potensial i wastraffu amser yn enfawr. - Dyfeisiwyd y We gan ddyn o’r enw Tim Berners-Lee, gyda Robert Cailliau, y ddau yn wyddonwyr cyfrifiadurol yn gweithio yn sefydliad ymchwil niwclear CERN yn y Swistir.
Erbyn diwedd yr 1980au, roedd cyfrifiaduron CERN yn cynhyrchu swm enfawr o wybodaeth, ond er mwyn cael mynediad at y data roedd yn rhaid logio i mewn ar bob cyfrifiadur yn unigol, ac roedd honno’n broses hir. Sut felly roedd modd cael mynediad i’r data’n gyflymach? Yr ateb oedd y We Fyd Eang. Ffordd o rannu a threfnu’r deunyddiau rhwng cyfrifiaduron yw’r We, ac nid dim ond rhwng cyfrifiaduron mewn un adeilad ond rhwng systemau cyfrifiadurol ledled y byd.
Nid dyfeisio’r Rhyngrwyd a wnaeth Tim Berners-Smith a Robert Cailliau, roedd y Rhyngrwyd eisoes mewn bodolaeth. Y We Fyd Eang a ddyfeisiwyd gan y ddau, sef adnodd ychwanegol i’w chymhwyso i’r Rhyngrwyd. - Ond wnaeth dyfeiswyr y We ddim codi patent ar eu system. Yn hytrach, fe wnaethon nhw gynnig eu dyfais yn rhad ac am ddim i ddynoliaeth. Fe fyddai’r swm o arian, y byddai’n bosibl iddyn nhw fod wedi ei wneud o’u system, yn enfawr. O ystyried y ffordd mae’r system wedi treiddio trwy fyd busnes a diwylliant, mae’n rhesymol tybio y byddai’r ddau ymhlith y bobl gyfoethocaf yn y byd erbyn hyn.
Felly, dyma yn wir weithred o haelioni anghyffredin - yn hafal, efallai, i benderfyniad Jonas Salk i beidio â chodi patent ar ei frechlyn ar gyfer yr afiechyd polio yn y 1950au - ac esiampl i’r byd. Roedd y dyfeiswyr yn fodlon rhoi blaenoriaeth i ddyngarwch dros eu hysfa i ennill budd personol. - Ac mae’r We wedi cael ei defnyddio ar gyfer pwrpasau dyngarol.
– Yn ystod yr ymgyrch ddiweddar am ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, sef yr ‘Arab Spring’, cafodd gwefannau cymdeithasol fel Twitter a Facebook eu defnyddio i gydlynu gweithredu protestiadau a rhannu’r newyddion diweddaraf â’r rhai oedd yn cymryd rhan.
– Mae bwletinau diweddaraf y newyddion a’r rhannu gwybodaeth ar unwaith yn helpu yn y frwydr yn erbyn trychinebau naturiol hefyd.
– Ac mae gwefannau fel Wikipedia yn cael eu defnyddio i storio a diweddaru gwybodaeth a diwylliant. - Wrth gwrs, mae anfanteision, fel gydag unrhyw dechnoleg ddylanwadol.
– caiff symiau enfawr o bornograffi ei storio ar wefannau.
– mae’r We wedi cael ei defnyddio i ledaenu twyll hunaniaeth.
– mae gwir bryder am droseddau yn ymwneud a phreifatrwydd ar y We, wrth i ddefnyddwyr gael eu peledu fwyfwy gyda hysbysebion a negeseuon spam.
Ond pethau dinistriol sydd wedi cael eu cymhwyso i’r We yw’r pethau hyn, nid drwg y We ei hun. Mae’n parhau i fod yn ddyfais ryfeddol, sy’n ail ddiffinio’n byd, ac fel gyda phob dyfais ardderchog, fe fydd yn ddi-os yn cael pobl yn ei defnyddio mewn ffyrdd sydd eto heb eu hecsploetio.
Amser i feddwl
(Os ydych chi wedi llwytho i lawr y gerddoriaeth gan Kraftwerk, fe allech chi ei chwarae yn ystod yr ‘Amser i feddwl’.)
Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl pa mor wahanol y byddai ein bywydau pe byddai’r We heb gael ei dyfeisio, neu pe byddech chi’n gorfod talu bob tro y byddech chi’n ei defnyddio. Mae’r gwasanaeth hwn heddiw, hyd yn oed, wedi dod trwy gyfrwng y We!
(Saib)
Nawr, meddyliwch faint o arian y byddai’r ddau a ddyfeisiodd y We wedi ei ennill pe bydden nhw w3edi codi patent ar eu dyfais ryfeddol. Treuliwch foment yn diolch na wnaethon nhw hynny.
(Saib)
Tybed beth allech chi ei ddyfeisio yn y dyfodol, a allai fod o fudd i ddynoliaeth? Dyn o Brydain yw Tim Berners-Lee. Felly, yn fachgen ifanc, fe fyddai yntau wedi bod yn bresennol mewn gwasanaeth fel yr un rydych chi ynddo heddiw. Ac efallai, bryd hynny, na feddyliodd yntau y byddai wedi gallu dyfeisio system mor wych a fu’n fodd i newid y byd.
(Saib)
Gadewch i ni ddiolch, felly, am greadigrwydd di-ben-draw dynoliaeth, ac am haelioni rhai mewn oes sy’n llawer rhy farus ar y cyfan.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
Cerddoriaeth bop o tua’r flwyddyn 1991 i’w chwarae wrth i’r gwasanaeth ddod i ben