Y Grwp 'Occupy London'
Pam protestio?
gan Claire Rose
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5 - Gwasanaeth Sylwadau
Nodau / Amcanion
Meddwl am y protestio a fu yn Ninas Llundain yn ddiweddar, a holi’r myfyrwyr beth yw eu barn am brotest o’r fath.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr rai lluniau o’r protestiadau ledled y byd (gwelwch wefan y mudiad Occupy, neu Wikipedia).
- Efallai bod gwersyll yn eich dinas leol chi – ymchwiliwch i hyn cyn cyflwyno’r gwasanaeth.
- Efallai bydd gofyn i chi ddiweddaru’r gwasanaeth fel mae’n ymddangos yma: gwiriwch wefan Occupy.
- Edrychwch ar wefan Amnest Rhyngwladol am hyd yn oed ragor o wybodaeth am yr Arab Spring, ac am arweiniad ynghylch beth allech chi ei wneud i helpu.
- Er mwyn cael gwybodaeth bellach am y mudiad Occupy, edrychwch ar Wikipedia: en.wikipedia.org/wiki/Occupy_movement
Gwasanaeth
- Ers canol Hydref 2011, fe ddatblygodd meicro-ddinas o bebyll o flaen y grisiau sy'n arwain at Eglwys Gadeiriol Sant Paul yng nghanol Llundain. Mae'r gwersyll yn cynnwys grwp o brotestwyr sy'n galw eu hunain yn 'Occupy London'.
Mae'r llety yno’n eithaf sylfaenol: pebyll, sachau cysgu, tarpolin a chyflenwadau gwersylla. Ond mae gan y gwersyll ei ganolfan fwyd ei hun, llyfrgell, system wastraff ac ail-gylchu, ac mae hyd yn oed gyfres o ddarlithoedd yn cael eu cynnal yno.
Pam y mae pobl yn dewis byw y tu allan, mewn pebyll, trwy nosweithiau oer y gaeaf, a beth maen nhw'n gobeithio ei gyflawni? - Un uned fechan gan fudiad byd-eang yw'r brotest yn Ninas Llundain, mudiad sy’n cael ei alw’n gyffredinol yn 'Occupy', ac sydd wedi cael ei drefnu gan gylchgrawn gwrth-gyfalafiaeth 'Adbusters'.
Fe ddechreuodd y mudiad hwn yn Kuala Lumpur yng nghanol 2011, gydag un gwersyll, ac fe ledaenodd y syniad yn fuan wedyn i Efrog Newydd (Occupy Wall Street) a San Francisco, cyn dod i Lundain a dinasoedd eraill y Deyrnas Gyfunol ym mis Hydref 2011.
Erbyn diwedd 2011, credir bod protestiadau neu wersylloedd Occupy yn digwydd mewn 2,464 o drefi a dinasoedd ledled y byd. - Mae'r mudiad Occupy wedi ennyn emosiynau cryf o blaid, ac yn erbyn, y protestwyr.
Mae'r brotest yn Efrog Newydd wedi wynebu cael ei throi allan gan heddlu'r ddinas. Mae'r protestwyr yn cwyno bod dadfeddiannu yn taro ar eu hawliau i ryddid llafar.
Yn Llundain, mae dau gorff wedi bygwth gweithredu cyfreithiol yn eu herbyn: Corfforaeth Dinas Llundain – corff llywodraethol yr ardal – ag Eglwys Loegr. Y ddau gorff yma sy'n berchnogion ar y cyd ar y tir y mae'r protestwyr wedi codi eu gwersyll arno. Mae David Cameron a Maer Llundain, Boris Johnson, ill dau wedi siarad yn erbyn gadael i'r protestwyr aros ar y safle hwn am amser hir, gan honni fod y gwersyll yn achosi tramgwydd mewn ardal brysur o Lundain.
Mae'n anodd gwybod sut i fynegi teimlad am grwp bach o bobl fel hyn a all fod yn achosi trafferthion i lawer o bobl eraill sy'n dymuno mynd o gylch eu busnes a'u gwaith beunyddiol – heb anghofio'r holl ymwelwyr a thwristiaid sy'n dod i'r ardal. - Mae protestiadau fel hyn yn codi o deimlad cyffredinol o rwystredigaeth gan grwp mawr o bobl. Wrth ddod at ei gilydd mae'r bobl hyn yn ffurfio 'mudiad'. Mae eu rhwystredigaeth yn ymledu i weithrediadau ar y strydoedd, a'r rheini yn aml yn cael eu trefnu trwy'r media cymdeithasol a chyfathrebu ar y Rhyngrwyd.
Mae sawl dull a modd o brotestio, o grwpiau yn cyfarfod i ddadlau yn erbyn bwriad i gau llyfrgell neu ryw gyfleuster arall, i ralïau gwleidyddol enfawr - fel y protestiadau oedd ynghlwm wrth yr ‘Arab Spring’ yn gynnar yn 2011 - sydd yn gallu cymryd drosodd rannau sylweddol o ddinasoedd.
Fe alwodd mudiadau'r 'Arab Spring' am ddemocratiaeth, ac roedd ganddyn nhw'r amcanion uchelgeisiol o newid y ffordd yr oedd eu gwledydd yn cael eu gweinyddu. Yn Tunisia a'r Aifft, fe lwyddodd y mudiadau hyn i ddymchwel eu llywodraethau. (Efallai yr hoffech chi wneud sylwadau yma am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Aifft.)
Mae protestiadau cyffelyb yn parhau mewn gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol. Wrth sefyll i fyny dros yr hyn y maen nhw'n credu ynddo, mae protestwyr yn Syria yn wynebu'r risg yn ddyddiol o gael eu hanafu neu eu lladd gan eu llywodraeth eu hunain. - Yn ôl yn Llundain, mae protestwyr 'Occupy' yn galw am gyfiawnder a chydraddoldeb yn wyneb yr arian sy'n cael ei wario i achub banciau, toriadau'r llywodraeth a chynnydd yn y nifer sy'n ddi-waith. Dyna restr fras o'u gofyniadau, ond mae rhai beirniaid yn awgrymu bod 'Occupy London' heb ffocws pendant, ac yn afrealistig, ac na fyddan nhw'n cyflawni dim yn y pen draw.
Ond efallai bod hwn yn fath gwahanol o brotest i'r ymgyrchoedd lleol neu wleidyddol sydd dan sylw yn Rhan 4. Fel mae'r gyfres o ddarlithoedd a'r llyfrgell sydd gan wersyll 'Occupy London' yn dangos, yn ogystal â gwrthdystio yn erbyn y dulliau presennol o wneud pethau, mae'r brotest hon yn rhoi cyfle i ni feddwl am atebion a dulliau amgen o weithredu.
Er mwyn cyfathrebu eu neges, mae protestwyr 'Occupy' wedi cael cyhoeddusrwydd yn y wasg, y ogystal â siarad gyda phobl sy'n pasio heibio'u gwersyll. Maen nhw'n amcanu i dynnu sylw at y materion hynny y maen nhw'n eu cael yn rhwystredig. Eu gobaith yw y byddwn ni'n stopio am foment i feddwl am yr hyn maen nhw'n eu ceisio, boed ni'n digwydd cerdded heibio eu gwersyll neu weld adroddiad amdanyn nhw ar y newyddion. Felly, er gwaethaf y ffaith bod rhestr eu gofynion nhw â llai o ffocws iddyn nhw na'r rhai sy'n gysylltiedig â phrotestiadau'r 'Arab Spring', maen nhw'n cwrdd â'u hamcanion mewn ffyrdd eraill. - Mae protestiadau yn rhan bwysig o gymdeithas iach, boed nhw'n canolbwyntio ar ryw fater penodol, neu'n llai penodol, a'u hamcan i'w gwneud i ni stopio a meddwl.
Maen nhw'n tynnu sylw at fater neu grwp o faterion na fyddai o reidrwydd yn denu llawer o sylw.
Fe allan nhw newid cwrs polisi llywodraeth, neu hyd yn oed newid llywodraethau.
Mae protestiadau heddychlon yn rhoi i ni, fel dinasyddion, y modd i fynegi ein teimladau ynglyn â'r materion hynny sydd yn agos at ein calonnau heb yr ofn o ddial.
Myfyrdod a thrafodaeth bellach
Beth sydd o bwysigrwydd mawr yn eich golwg chi a fyddai'n gwneud i chi brotestio yn ei gylch a gwneud i bobl eraill dalu sylw?
Pam mae hi mor bwysig bod pobl yn gallu protestio mewn heddwch, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno gyda'u safbwynt?
Amser i feddwl
Treuliwch foment neu ddwy yn ystyried a gwerthfawrogi’r rhyddid rydyn ni’n gallu ei fwynhau yn y wlad hon.
Diolchwch am y rhai hynny sydd, ar hyd y canrifoedd, wedi gweithio fel y gallwn ni fwynhau’r rhyddid hwnnw.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
‘Blowing in the wind’ gan Bob Dylan, neu unrhyw gân brotest arall
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.