Gwefan 'The Hunger Site'
Archwilio ffordd syml y gall pob un ohonom gyfrannu at roi bwyd i’r rhai sy’n newynog.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio ffordd syml y gall pob un ohonom gyfrannu at roi bwyd i’r rhai sy’n newynog.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch sleid oddi ar y wefan: thehungersite.greatergood.com/clicktogive/
- Casglwch ffeithiau am newyn yn y byd oddi ar wefan Rhaglen Fwyd y Cenhedloedd Unedig: www.wfp.org/hunger.
Gwasanaeth
- Mae Rhaglen Fwyd y Cenhedloedd Unedig yn adrodd bod tua 925 miliwn o bobl ledled y byd yn dioddef o newyn a diffyg maeth. Mae hynny gant o weithiau’n fwy na’r nifer sy’n marw o’r achosion hyn bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu fod un o bob saith o bobl y byd ddim yn cael digon o fwyd i allu byw bywyd iach.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae tua 25,000 o bobl yn marw bob dydd o newyn neu achosion yn gysylltiedig â diffyg bwyd. Dyna un person bob tair eiliad a hanner. Plant o dan bump oed yw tri chwarter y rhai sy’n marw.
Sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n clywed ystadegau fel y rhain? - Wel, yn ôl ym mis Mehefin 1999, fe feddyliodd rhywun am ffordd o wneud rhywbeth ynghylch hyn. Ar 1 Mehefin 1999, sefydlwyd gwefan newydd sef gwefan The Hunger Site. Y wefan hon oedd y safle weithredaeth ar-lein gyntaf ar y Rhyngrwyd.
Mae’r safle yn manteisio ar yr hyn sy’n bosib ei wneud trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, er budd angen dyngarol penodol: sef dileu newyn yn y byd.
Y wefan, The Hunger Site yw un o’r gwefannau y mae pobl wedi ymweld â hi amlaf ar y Rhyngrwyd. Mae hefyd wedi ennill dwy wobr bwysig yn ymwneud â’r Rhyngrwyd. Ar gyfartaledd, mae dros 220,000 o unigolion o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r safle bob dydd ac yn clicio ar y botwm ‘Give free food’, a thrwy wneud hynny’n helpu i fwydo’r rhai newynog. - Y rheswm pam fod The Hunger Site mor llwyddiannus, mae’n debyg, yw oherwydd bod pobl yn gallu rhoi rhodd heb i hynny gostio dim iddyn nhw. Yr unig beth y mae’n rhaid i’r rhai sy’n ymweld â’r safle ei wneud yw clicio unwaith y dydd ar y botwm ‘Give free food’. Yna, fe allan nhw fynd ymlaen at ran arall o’r wefan lle byddan nhw’n gweld eu bod wedi rhoi 1.1 llond cwpan o fwyd sylfaenol i rai sy’n newynog. Ar yr un pryd, fe fyddan nhw’n gallu gweld y ffeithiau diweddaraf ynghylch sawl cwpanaid o’r bwyd sydd wedi’i gyfrannu'r diwrnod hwnnw (Mae ‘1 cup’ yn gyfystyr ag un dogn o fwyd).
Yn ôl yr hyn sy’n cael ei nodi ar y wefan, dosbarthwyd dros 808,072,651 dogn o fwyd rhwng Mehefin 1999 a Rhagfyr 2011. A dim ond wrth ystyried nad yw hyn wedi costio dim o gwbl i’r un sy’n ‘rhoi’ y gallwch chi gydnabod gwir lwyddiant y cynllun. - Mae’r arian sy’n talu am y bwyd hwnnw yn dod o daliadau am hysbysebion ar y dudalen ddilynol ar y wefan. Cynnyrch fel canhwyllau, basgedi a breichledau lapis o Afghan, a phethau ethnig felly sy’n cael eu hysbysebu yma. Bydd rhagor o fwyd yn cael ei gyfrannu gan y rhai sy’n hysbysebu wedyn, yn ôl fel mae’r eitemau’n cael eu prynu.
- Mae’r Hunger Site yn rhoi’r incwm y mae’n ei dderbyn i dair elusen sy’n gysylltiedig â’r Hunger Site: Mercy Corps, Feeding America a Millennium Promise. Cawn wybod bod 100% o arian yr hysbysebwyr ar faner y noddwyr yn mynd i bartneriaid elusen y safle.
- Caiff yr arian ei rannu rhwng yr elusennau a’i ddosbarthu i helpu pobl mewn mwy na 74 o wledydd, yn Affrica, Asia, Dwyrain Ewrop, y dwyrain Canol, America Ladin a Gogledd America.
Ym mis Awst 2001, prynwyd y wefan gan Tim Kunin a Greg Hesterberg, sy’n gweithio i gynnal safle’r wefan fel un flaenllaw o ran bod yn wefan weithredaeth ar-lein, ac o ddifrif yn y frwydr i ddileu newyn yn y byd. Yn ogystal â’r safle The Hunger Site, mae Tim a Greg yn gyd-berchnogion ar y wefan CharityUSA sy’n berchen ar y Rhwydwaith o wefannau GreaterGood, ac yn eu cynnal hefyd. Dyma rwydwaith o wefannau gweithredaeth ar-lein sy’n harneisio gallu’r rhyngrwyd i helpu pobl, anifeiliaid ac achosion mewn angen’.
Gwefannau eraill sy’n rhan o’r rhwydwaith GreaterGood Network yw:
- The Breast Cancer Site (lle mae’n bosib i ni helpu ariannu mamogramau ar gyfer gwragedd difreintiedig)
- The Rainforest Site (lle mae’n bosib i ni glicio a helpu i arbed y fforestydd glaw sydd dan fygythiad)
- The Animal Rescue Site (lle mae pobl yn gallu clicio er mwyn helpu bwydo anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael)
- The Child Site (sy’n rhoi’r gallu i rai sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i ariannu gwasanaeth sylfaenol, ond hanfodol, ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi yn y gwledydd sy’n datblygu)
- The Literacy Site (sy’n hybu llythrennedd ymysg plant ifanc ac yn trefnu bod llyfrau ar gael)
- The Autism Site (sy’n gweithredu i helpu plant sydd ag awtistiaeth)
- Fe ddywedodd cyn ganghellor o’r Almaen: ‘Mae hanes wedi dangos i ni fod rhyfeloedd yn achosi newyn, ond rydym yn llai ymwybodol o’r ffaith y gall tlodi torfol arwain at ryfel neu ddiweddu mewn anhrefn llwyr.’
Cofiwch ymweld â’r wefan: www.thehungersite.com, neu well fyth fyddai gwneud hon yn dudalen gartref bersonol i chi, fel gallwch chi glicio arni bob tro y byddwch chi’n cysylltu â’r rhyngrwyd, a rhoi rhodd dim ond wrth bwyso botwm.
Amser i feddwl
Gadewch i ni fod yn dawel am foment a meddwl am y ffigurau rydyn ni newydd fod yn sôn amdanyn nhw.
Bob dydd, yn ystod 2012, fe fydd tua 25,000 o bobl yn marw o newyn neu achosion yn gysylltiedig â newyn. Bydd dros 18,000 o’r rhai hynny’n blant.
(Saib)
Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dad nefol, am bopeth sydd gennym ni.
Helpa ni i roi i eraill.
Bydd gyda’r rhai sydd heb fwyd heddiw.
Helpa ni i wneud beth bynnag sy’n bosib i ni ei wneud,
er mwyn gwneud y byd yn decach lle i fyw ynddo.
Amen
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.