Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ofni'r Goleuni: Dod Allan O'r Cysgodion

Annog y myfyrwyr i godi eu syniad o hunanwerth er lles y gymuned gyfan.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i godi eu syniad o hunanwerth er lles y gymuned gyfan.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n ofni’r tywyllwch? Rwy’n siwr bod y rhan fwyaf ohonoch chi ag ychydig o ofn, ond ddim eisiau cyfaddef hynny efallai. Mae’n bosib eich bod yn hoffi gallu rhoi’r golau ymlaen ar unwaith wrth i chi fynd i mewn i ystafell dywyll, neu’n osgoi cerdded yn y cysgodion pan fyddwch chi’n cerdded ar hyd y stryd yn y nos. Ydych chi’n ofni edrych o dan y gwely, ac yn casáu mynd allan ar ben eich hun wedi iddi dywyllu?

    Beth sy’n codi ofn arnoch chi? Mae digon o awgrymiadau am bethau dychrynllyd mewn ffilmiau a nofelau: vampires a werewolves, axe murderers a zombies. (Dydi’r termau Cymraeg am y rhain ddim yn swnio’r un mor ddychrynllyd rhywsut!) Mae meddwl am y rhain yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un.

  2. Ond y cwestiwn pwysicach sydd gen i i’w ofyn i chi heddiw yw: Ydych chi’n ofni’r goleuni?

    (Saib)

    Wrth sôn am oleuni yn y cyswllt hwn, dydw i ddim yn sôn am olau dydd neu olau trydan cyffredin mewn ystafell. Ond a ydych chi’n ofni goleuni’r sbotoleuadau sy’n eich gwneud chi’n amlwg, y goleuni sy’n taro arnoch chi ac yn eich gwneud chi’n fwy amlwg na neb arall, a hynny yng ngolwg pawb?

    Mae rhai pobl wrth eu bodd yn cael bod yn ganolbwynt yr holl sylw, ond mae’n debyg y byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonoch chi aros yn y cefndir, neu’n rhan o’r dyrfa.

  3. Beth sy’n cyfrif, yn achos cymaint ohonom, ein bod yn peidio ag arddangos ein gwerth, ac yn  dal yn ôl rhag mynegi ein barn neu godi llaw i ymateb i gwestiwn, neu’n mynd yn swil pan fyddwn ni’n cael cymeradwyaeth?

    Weithiau, fe fydd hynny oherwydd nad ydym yn hollol siwr a yw’r hyn rydyn ni’n ei feddwl yn gywir ai peidio. Does gennym ni ddim eisiau ymddangos yn ffwl o flaen gweddill y dosbarth pe bydden ni’n rhoi’r ateb anghywir. Mae myfyrwyr eraill yn gallu bod yn greulon iawn wrth watwar, ac mae’n well gennym ni beidio â rhoi ein hunain mewn sefyllfa fyddai’n peri i hynny ddigwydd. Mae arnom ni ofn methu.

    Ond hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwybod yr ateb yn iawn , fe fydd llawer ohonom ni’n dal yn ôl heb ateb ar yr adegau hynny hefyd. Yn yr achos hwnnw, efallai bod hyn yn digwydd oherwydd nad ydym eisiau cael ein cymharu gyda’r myfyrwyr mwyaf clyfar, neu oherwydd ein bod yn ofni na fyddem yn gallu cadw’r safon wrth ateb cwestiynau eraill wedyn yn y dyfodol. Efallai ein bod yn iawn y tro yma, ond efallai ein bod yn ansicr y byddem yn cael yr ateb yn iawn y tro nesaf.

    Gan gymryd y syniad gam ymhellach, mae rhai myfyrwyr yn hynod o dalentog, ond mae’n well ganddyn nhw adael i eraill gymryd y clod nag ymhyfrydu yn y goleuni eu hunain. Maen nhw’n teimlo’n falch yn eu calon am eu llwyddiant, ond ddim eisiau i bawb fod yn edrych arnyn nhw. Maen nhw’n hunan ymwybodol ac yn teimlo’n swil yn hawdd.

    Yn olaf, efallai ein bod yn osgoi’r amlygrwydd er mwyn i bobl eraill ymhyfrydu ynddo. Rydym yn hollol fodlon i eraill gael eu moment o enwogrwydd. Pe byddem wedi dwyn y foment honno oddi arnyn nhw, yna efallai y bydden nhw’n teimlo’n rhwystredig a hyd yn oed yn teimlo eich bod wedi eu bychanu. Rydyn ni’n dileu ein hunain.

  4. Fe hoffwn i chi wrando ar eiriau o eiddo gwraig o’r enw Marianne Williamson.

    Darllenydd (yn darllen o: ‘Our deepest fear is not that we are inadequate’ hyd at ‘You are a child of God.’ Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ am y cyswllt i’r wefan. Neu, dyma addasiad Cymraeg o’r darn hwnnw: “Ein hofn mwyaf yw nid ofn ein bod yn annigonol. Ein hofn mwyaf yw ein bod yn rymus tu hwnt i bob amgyffred. Ein goleuni, nid ein tywyllwch sy’n codi’r ofn mwyaf arnom. Rydym yn holi ein hunain, Pwy wyf fi i fod yn alluog, yn dalentog ac yn wych? Mewn gwirionedd, pwy ydych chi ddim i fod? Rwyt ti’n blentyn i Dduw. / Our deepest fear is not that we are inadequate. Our deepest fear is that we are powerful beyond measure. It is our light, not our darkness that most frightens us. We ask ourselves, Who am I to be brilliant, gorgeous, talented, fabulous? Actually, who are you not to be? You are a child of God.”)

  5. Un peth yw bod yn haerllug, a honni ein bod yn well, yn fwy clyfar ac yn fwy talentog na’r rhai sydd o’n cwmpas, pryd mewn gwirionedd dydyn ni ddim. Fel arfer, mae ymateb o’r fath yn codi o’r angen i roi ein hunain mewn safle o rym dros bobl eraill.

    Ond beth os yw pob un ohonom yn arddangos arwyddion o ddisgleirdeb, a dawn? Beth os yw pob un ohonom yn wych ac yn odidog ambell dro? Dyna beth mae Cristnogion yn ei gredu. Os ydyn ni’n cuddio hyn, yna nid dim ond y ni fydd yn dioddef.

Amser i feddwl

Mae Marianne Williamson yn mynd yn ei blaen:

Darllenydd (yn darllen o: ‘There is nothing enlightened about’ hyd at ‘we unconsciously give other people permission to do the same.’ Neu, dyma addasiad Cymraeg o’r geiriau hynny: “Does dim byd yn oleuedig mewn crebachu er mwyn i bobl eraill o’ch cwmpas beidio â theimlo’n anniogel yn eich cwmni. Rydyn ni i gyd wedi ein gwneud i ddisgleirio, fel y mae plant yn disgleirio. Cawsom ein geni i arddangos gogoniant Duw sydd o’n mewn. Nid dim ond mewn rhai ohonom y mae, mae gogoniant Duw ym mhob un ohonom. Ac wrth i ni adael i’n goleuni ein hunain ddisgleirio, fe fyddwn, heb yn wybod i ni, yn caniatáu i bobl eraill wneud yr un fath. / There is nothing enlightened about shrinking so that other people won't feel insecure around you. We are all meant to shine, as children do. We were born to make manifest the glory of God that is within us. It's not just in some of us; it's in everyone. And as we let our own light shine, we unconsciously give other people permission to do the same.”)

Os gallwn ni oresgyn ein diffyg hyder ynghylch disgleirio, yna, fe all hynny annog eraill i wneud yr un peth. Ac fe fyddai hynny’n golygu mwy o oleuni i bawb ohonom.

Gweddi  

Annwyl Dduw,

diolch i ti am fy ngwneud i yr un ydw i.

Fe hoffwn i rannu’r cyfan sy’n dda ynof fi gyda’r rhai sydd o’m cwmpas.

Helpa fi i ddisgleirio heddiw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Shine’ gan Take That (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we)  

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon