Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Charles Dickens - Bywyd O Ysgrifennu

Myfyrio ar hanes bywyd Charles Dickens, a’r dylanwad sydd ganddo hyd heddiw ar y ffordd fodern o feddwl.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar hanes bywyd Charles Dickens, a’r dylanwad sydd ganddo hyd heddiw ar y ffordd fodern o feddwl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y saith fydd yn darllen rhannau’r cymeriadau canlynol yn cael ymarfer o flaen llaw (gwelwch adran 1):
    Oliver Twist
    Fagin
    Bill Sikes
    Nancy
    Scrooge,
    Ghost of Christmas Present
    Llefarydd
  • Ychwanegwch unrhyw ddyfyniadau eraill y gallai’r myfyrwyr eu hadnabod – o faes llafur y flwyddyn efallai?
  • Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar: www.bbc.co.uk/history/historic_figures/dickens_charles.shtml

Gwasanaeth

  1. Cyflwyniad

    Oliver
      Please, sir, I want some more!

    Fagin   You’ve got to pick a pocket or two (nid yw’r dyfyniad hwn yn y testun gwreiddiol).

    Bill Sikes   Nancy! Nancy! Where’s that boy? Bullseye [ei gi], where’s Oliver then?

    Nancy   Oh please, Bill, no!

    (Saib)

    Scrooge   Aaagh! What are you?

    Ghost   I am the Ghost of Christmas Present.

    (Saib)

    Llefarydd   It was the best of times, it was the worst of times.

  2. Rwy’n siwr bod y rhan fwyaf ohonoch yn gallu dweud o ble y daw’r dyfyniadau hyn. (Derbyniwch awgrymiadau.)

    Eleni, rydyn ni’n nodi dau ganmlwyddiant geni un o awduron mwyaf arwyddocaol y bedwaredd ganrif ar bymtheg – Charles Dickens.

  3. Cafodd Charles Dickens ei eni i deulu dosbarth canol, a chafodd blentyndod hapus. Ond, roedd ei deulu’n byw yn uwch na’i stad. Yn naw oed roedd Charles yn mynd i’r ysgol, ond dair blynedd yn ddiweddarach, ddau ddiwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn ddeuddeg oed, bu raid iddo ddechrau gweithio. Roedd yn gweithio mewn ffatri fudr, lle roedd llygod mawr yn rhedeg dros bob man. Ffatri gwneud blacin, sef polish esgidiau du oedd hon. Yno, roedd yn gweithio am ddeg awr bob dydd. Yn fuan ar ôl iddo ddechrau gweithio fe arestiwyd ei dad oherwydd ei fod mewn dyled. Ac fe garcharwyd ei dad a’i fam, ei frodyr a’i chwiorydd yn Llundain, mewn carchar ar gyfer rhai mewn dyled. Arhosodd Charles mewn llety a pharhau i weithio yn y ffatri.

    Mae’r profiad hwnnw wedi ei ddarlunio mewn dwy o nofelau Charles Dickens – Great Expectations a David Copperfield. Ymhen amser, rhyddhawyd ei dad a’r teulu o’r carchar, ac fe gafodd Charles fynd yn ei ôl i’r ysgol i barhau â’i addysg am rai blynyddoedd wedyn. Ond fe wnaeth y trawma meddyliol a brofodd tra roedd yn gweithio yn y ffatri aros gyda Dickens ar hyd ei oes.

    Pan oedd yn 15 oed, dechreuodd Charles Dickens weithio fel clerc mewn swyddfa cyfreithwyr, ond gadawodd y lle ar ôl 18 mis i ddechrau ar yrfa fel newyddiadurwr. Tra roedd yn ohebydd seneddol i’r papur Morning Chronicle, fe ddechreuodd ysgrifennu erthyglau o dan y ffugenw ‘Boz’.

    Roedd Ebrill 1836 yn fis hynod o arwyddocaol iddo – fe briododd, a hefyd cafodd ei nofel gyntaf, Pickwick Papers ei rhyddhau, a chael derbyniad enfawr ar unwaith. Wnaeth Charles Dickens ddim edrych yn ôl wedi hynny.

    Roedd ei nofelau’n cael eu cyhoeddi ar ffurf cyfresi mewn cylchgronau. Roedd y cyhoedd yn darllen un bennod yn unig bob mis. Ac os sylwch chi, mewn llawer o’i lyfrau, mae digwyddiadau min dibyn (cliff-hangers) yn digwydd ar ddiwedd llawer o’r penodau -  sydd bron fel gwylio penodau o gyfres deledu - er mwyn cadw’r darllenwyr i edrych ymlaen at y bennod ddilynol.

  4. Dechreuodd un o lyfrau mwyaf dylanwadol Dickens fel taflen wleidyddol - a ddatblygodd yn ei thro yn nofel enwog, sef A Christmas Carol. Ysgrifennodd Dickens y llyfr mewn chwe wythnos yn unig, yn nhymor yr hydref 1843. Ei fwriad oedd deffro pobl y dosbarth canol. Roedd eisiau gwneud i’w ddarllenwyr fod yn ymwybodol o ba mor ddychrynllyd yr oedd bywydau llawer o bobl, ac yn enwedig bywydau’r plant. (Ydych chi’n cofio am y ffatri blacin, fudr, ddu?)

    Pan gyhoeddwyd A Christmas Carol roedd yn llwyddiant mawr ar unwaith, gyda’r argraffiad cyntaf yn gwerthu’n llwyr mewn nifer o wythnosau’n unig. Mae teitl y nofel yn cyfeirio at ei phatrwm. Mae wedi ei llunio ar ffurf cytgan a phenillion, yn debyg i garol Nadolig draddodiadol.

    A Christmas Carol yw un o’i lyfrau byrraf - mae rhai o’i lyfrau’n hir iawn a thrwchus - ac mae’n debyg mai hwn yw un o’i lyfrau mwyaf enwog. Mae llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â’r stori, wedi bod yn gwrando ar ddarlleniadau cyhoeddus, wedi gweld a gwrando ar fersiynau llwyfan a fersiynau radio, o’r darlleniad gwreiddiol o ddyfyniadau gan Dickens ei hun yn Neuadd y Dref, Birmingham ar 27 Rhagfyr 1852, i’r ffilm ddu a gwyn a ryddhawyd yn 1951 gyda’r actor Alastair Sim yn chwarae’r brif ran (y ffilm a ddangoswyd ar y teledu adeg y Nadolig diwethaf), a hyd yn oed y fersiwn The Muppet Christmas Carol. Mae sawl ysgol hefyd wedi creu cynhyrchiad o’r stori dros y blynyddoedd.

    Daeth y geiriau ‘Bah! Humbug!’ yn rhan o’r eirfa gyffredinol. Ond, yn bwysicach na dim, fe ddaeth y Nadolig yn wyl i’r tlawd yn ogystal ag i’r bobl gyfoethog. Fe lwyddodd y nofel i gyflawni’r hyn oedd bwriad y daflen wreiddiol, ond gyda dylanwad llawer mwy pellgyrhaeddol i’r boblogaeth drwyddi draw.

  5. Pam rydych chi’n meddwl bod Dickens wedi bod mor llwyddiannus? (Derbyniwch rai awgrymiadau.)

    Efallai, am ei fod yn un mor dda am gyflwyno i bobl sut yr oedd bywyd go iawn, fel y gallai’r bobl gyfoethog sylweddoli sut beth oedd bywyd i bobl dlotaf y gymdeithas. Dyna rywbeth yr oedd y gwahanfuriau llym a oedd yn bodoli rhwng y dosbarthiadau yn ei wneud yn amhosibl fel arall.

    Mae’n debyg hefyd i Dickens brofi ei hun yn fath o broffwyd yn y dyddiau Fictoraidd hynny, gan alw ar bobl i newid eu ffyrdd o fyw, a cheisio cael cymdeithas i fod yn gymdeithas fwy cynhwysol.

    Ac, efallai, am ei fod hefyd yn gallu adrodd stori dda ac ysgrifennu llyfrau a oedd yn ddifyr, yn gyffrous ac yn amrywiol.

  6. Gall darllen gwaith Dickens fod yn anodd iawn i ni heddiw am fod ei ieithwedd yn perthyn i oes arall. Mae’n defnyddio llawer o eiriau, ac mae’n gallu ymddangos fel pe bai’n cymryd llawer o amser cyn i chi gael gafael ar y stori, ond sy’n dod wedyn yn ddarllen llawn cyffro a’r darllenydd yn awyddus i ddarllen ymlaen.

    Mae’r storïau yn y llyfrau’n ddramatig, weithiau’n wyrdroëdig, ond yn boblogaidd iawn. Os ydych chi wedi ceisio darllen gwaith Dickens, ac wedi gweld hynny’n anodd, gwyliwch un o’r ffilmiau neu addasiadau teledu, a darllenwch y llyfr wedyn – neu arhoswch nes byddwch chi’n hyn, ac efallai wedyn y byddwch chi’n cael gwell blas ar y darllen.

Amser i feddwl

Mae Dickens wedi cael dylanwad mawr ar ein bywydau, ond tybed sut roedd ei fywyd ef ei hun yn ymddangos iddo pan oedd yn blentyn, ei deulu yn y carchar, ac yntau’n gweithio yn y ffatri?

Tybed oes rhai ohonoch chi’n teimlo ychydig fel roedd Charles Dickens yn teimlo ar y pryd – bod bywyd wedi mynd allan o reolaeth?

Tybed ydych chi efallai’n cwestiynu faint o newid y gallech chi ei gyflwyno i’n cymuned neu i’n cymdeithas?

Gadewch i ni feddwl am Dickens – y ffordd y gwnaeth ddefnyddio’i allu arbennig i ysgrifennu a dweud storïau er mwyn newid y byd.

Pa ddawn sydd gennych chi?

Sut y byddech chi’n gallu newid y byd neu, o leiaf, y rhan fach honno yr ydych chi’n byw ynddi hi ar y foment?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Llwythwch i lawr un o’r caneuon o sioe Oliver neu’r gerddoriaeth thema o un o’r ffilmiau.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon