Y Pasg Yn Eich Ardal Chi
Digwyddiad pwysig sy’n cyffwrdd ein bywydau yma, nawr
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio pa mor gyffredin, a pha mor agos atom, yw stori’r Pasg, trwy annog y myfyrwyr i ddychmygu digwyddiadau stori’r Pasg yn digwydd yn y gymuned lle maen nhw’n byw.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch dri darllenydd.
- Ar gyfer y myfyrwyr hynny fydd yn gwneud gwaith pellach ar y gwasanaeth hwn, argraffwch gopïau o hanes croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu, o Efengyl Marc 14.32—16.7, neu Efengyl Luc 22.47—24.12. Fe allech chi ddefnyddio’r wefan beibl.net
Gwasanaeth
- Arweinydd Mae Jerwsalem yn ddinas annhebyg i un arall. Bryngaer fechan gan y Canaaneaid oedd hi yn wreiddiol, ond fe ddaeth yn ddinas sanctaidd i dair o grefyddau mawr y byd.
Darllenydd 1 Bydd credinwyr Iddewig yn edrych ar Jerwsalem fel y safle lle cafodd tad eu ffydd, Abraham, ei brofi gan Dduw, a ddywedodd wrtho am aberthu ei fab (yn ffodus, cafodd Abraham ei atal gan Dduw cyn iddo roi'r ergyd farwol i'w fab!). Mae Jerwsalem hefyd yn ddinas a gafodd ei hatgyfnerthu gan yr arwr Iddewig, y Brenin Dafydd, ac yn y fan lle’r adeiladodd Solomon, mab Dafydd, y Deml, gan ddilyn cyfarwyddiadau Duw. I bob Iddew, Jerwsalem yw eu prif ddinas.
Darllenydd 2 I'r Mwslimiaid, Jerwsalem yw'r man yr ymwelodd y Proffwyd ag ef ar ei Daith Nos enwog, un o'r digwyddiadau allweddol yn hanes sefydlu Islam. Cromen y Graig, canolbwynt gwych y ddinas, yw un o'u safleoedd mwyaf sanctaidd.
Darllenydd 3 I Gristnogion, Jerwsalem yw'r man yr ymwelodd Iesu ag ef, a gweithredu'r rhan helaeth o'i weinidogaeth yno. Maen nhw hefyd yn credu mai hwn yw'r lle y trodd y byd ar ei echel. Mae Cristnogion yn credu pan gafodd Iesu ei brofi, ei gondemnio, ei groeshoelio, ei gladdu ond ei atgyfodi wedyn, fe dorrwyd ar rym marwolaeth a daeth dynolryw'n rhydd o afael drygioni. - Arweinydd Er hynny, roedd Jerwsalem yn ddinas gyffredin, ac mae'n parhau i fod felly, yn gymuned fel sawl un arall drwy'r byd ble mae pobl yn mynd o gwmpas eu busnes beunyddiol yn union fel chi a fi. Er hynny, mae'n bosib cerdded drwy ei strydoedd, gwrando ar ei phobl a dychmygu'r digwyddiadau fu yno dros y canrifoedd.
Rydym yn agosáu at Wyl Gristnogol y Pasg. Fe ddigwyddodd stori'r Pasg yn strydoedd Jerwsalem. Hyd yn oed os na fedrwn fod yn hollol siwr mai’r lleoliadau y mae llenyddiaeth dwristiaeth heddiw'n honni yw’r union fannau lle y digwyddodd y pethau a ddisgrifir yn yr Efengylau, rydym yn gwybod y pethau canlynol yn wir:
- fe fyddai llecyn bychan o goed olewydd ar gyrion y ddinas lle cafodd Iesu ei fradychu a'i arestio;
- fe fyddai gorsaf heddlu a swyddfeydd yn perthyn i'r llywodraeth lle cafodd ei groesholi (ond na fydden nhw wedi defnyddio'r enwau cyfoes hyn bryd hynny);
- fe fyddai Iesu wedi llusgo ei groes trwy'r strydoedd siopa prysur i fyny at lecyn o dir uwchlaw'r ddinas;
- unwaith y byddai wedi marw, byddai ei gorff wedi cael ei gladdu yn y fynwent leol. Dridiau yn ddiweddarach, yr union fynwent honno fyddai'r lleoliad i wyrth yr atgyfodiad. - Fe ddigwyddodd stori'r Pasg mewn lleoliad real, nid yn annhebyg i (rhowch enw eich tref neu eich dinas leol). Fe hoffwn i awgrymu ffordd y gallech chi, y Pasg hwn, wneud i'r stori hon ddod yn fyw.
Dechreuwch trwy gymryd y fersiwn modern o'r Beibl a darllen trwy stori'r Pasg. Mae'n ddeunydd darllen da: yn gymysgiad o ffuglen droseddol, drama llys barn ac epig oruwchnaturiol. Bob tro y bydd rhywbeth gwahanol yn digwydd yn y stori, dychmygwch y man tebyg y gwyddoch chi amdano, lle byddai’r un digwyddiadau yn y stori wedi gallu digwydd.
Yna ewch am dro drwy'r lleoliadau hynny y byddwch wedi meddwl amdanyn nhw, ac wrth gerdded felly, dychmygwch stori'r Pasg yn digwydd yn (enwch eich tref neu eich dinas leol). Dim ond lle cyffredin, fel Jerwsalem.
Amser i feddwl
Yn achos digwyddiadau'r Pasg cyntaf hwnnw, fe wnaethon nhw ddigwydd o ddifrif, filoedd o filltiroedd o'r lle hwn. Ond mae Cristnogion yn credu bod iddyn nhw arwyddocâd byd-eang. Maen nhw'n credu bod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu wedi dod â’r posibilrwydd o newid i bobl ym mhob man. Mae hynny'n eich cynnwys chi ac yn fy nghynnwys innau. Nid yw'n rhywbeth pell nac amherthnasol. Nid yw'n rhywbeth sy'n dyddio nac yn rhywbeth chwedlonol. Mae Cristnogion yn credu ei fod yr un mor berthnasol i'r cyfnod hwn yn awr ag yr oedd i'r cyfnod hwnnw a fu.
Efallai y byddai'n dda edrych ar rai o'r pethau a ddywedodd Iesu, a gweld sut y maen nhw'n gweddu i'n cymdeithas heddiw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti dy fod ti'n ymwneud â'r byd real.
Diolch i ti am ddod i mewn i'r byd real hwnnw, trwy dy Fab, Iesu Grist.
Gad i ni gysylltu ei stori Ef gyda'r storïau sy'n digwydd yn (enwch eich tref neu eich dinas leol).
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘What if God was one of us’ gan Joan Osborne (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we).